Community Asset Transfer 2

Ardal
Cymru
Yn addas ar gyfer
Mudiad gwirfoddol neu gymunedol
Maint yr ariannu
£300,000 - £1,150,000
Cyfanswm ar gael
£9 miliwn
Terfyn amser ymgeisio

12 hanner dydd ar 14 Medi 2016

Beth yw amcan y rhaglen?

Agorodd Rownd 2 y Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol 2 (CAT2) ar 10 Mai 2016. Y terfyn amser ar gyfer ceisiadau cam un yw 14 Medi 2016.

Bydd y rhaglen CAT2 yn darparu arian cyfalaf a refeniw i gefnogi trosglwyddo asedau megis tir ac adeiladau o unigolion, mudiadau sector cyhoeddus neu breifat i berchnogaeth gymunedol.

Rydym eisiau helpu cymunedau i fod yn gryfach ac yn fwy cynaliadwy drwy eu cynorthwyo i ddod o hyd i asedau megis tir ac adeiladau a’u datblygu. Byddwn yn gwneud hyn drwy ddatblygu asedau a drosglwyddir o gyrff sector cyhoeddus i fudiadau mentrus sy’n cynnwys y cymunedau maent yn eu gwasanaethu’n weithredol ac yn darparu buddion iddynt. Mae’n rhaid iddynt weithio tuag at wella’r gwasanaethau a/neu gyfleusterau ar gyfer eu cymuned, medru dangos bod eu cynigion yn gynaliadwy yn yr hir dymor, ac ystyried effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd eu gwaith. Gall trosglwyddiadau fod ar ffurf naill ai rhydd-ddaliad neu brydles, ond mae'n rhaid gwneud y trosglwyddiad am ddim neu am gost sy'n sylweddol is na'r gwerth ar y farchnad.

Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno drwy broses ymgeisio dau gam. Bydd yn ofynnol i fudiadau gwblhau cais cam un, cynllun cyflwyno cyfalaf cam cynnar a thaenlen costau cyfalaf erbyn 14 Medi 2016. Gall ceisiadau cam un gynnwys cais am arian datblygu i gefnogi datblygiad y cais cam dau.

Manylion cyswllt

Ffoniwch ein llinell gymorth ar 029 2067 8200 (ffôn testun 0845 602 1659).

Anfonwch e-bost atom yn cat@cronfagymunedolylg.org.uk.

Ymunwch â'r sgwrs ar Twitter #CATfund @CronGymYLG