The Welsh Government Coastal Communities Fund

Yn hyrwyddo twf economaidd a swyddi cynaliadwy mewn cymunedau’r arfordir

Ardal
Cymru
Yn addas ar gyfer
Mudiadau gwirfoddol neu gymunedol, mudiadau sector cyhoeddus, a mudiadau sector preifat
Maint yr ariannu
£50000 i £300000
Terfyn amser ymgeisio

Mae Rownd Chwech o’r rhaglen nawr wedi cau a does dim rowndiau newydd wedi cynllunio ar hyn o bryd, ond i gael eich hysbysu am unrhyw rownd ychwanegol posib e-bostiwch

arfordir@cronfagymunedolylg.org.uk
os gwelwch yn dda.

Crynodeb

Mae’r rhaglen hwn bellach ar gau

Cronfa Cymunedau’r Arfordir Llywodraeth Cymru

Mae Cronfa Cymunedau'r Arfordir Llywodraeth Cymru yn annog datblygiad economaidd cymunedau arfordirol Cymru trwy ddyfarnu arian i greu twf economaidd a swyddi cynaliadwy.

Ariannir y rhaglen yn llwyr gan Lywodraeth Cymru. Mae hanner yr arian ar gyfer y Rownd 6 presennol wedi’i glustnodi fel rhan o fenter Trawsnewid Trefi sy’n cefnogi prosiectau sy’n ailddatblygu a gwella canol trefi.

Ers cychwyn Cronfa Cymunedau’r Arfordir Llywodraeth Cymru yn 2012, mae 102 o brosiectau yng Nghymru wedi derbyn grantiau gwerth £22 miliwn.

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cyflwyno Cronfa Cymunedau’r Arfordir ar ran Llywodraeth Cymru.

Prosiectau a Ariannwyd

Dros oes y rhaglen, mae Cronfa Cymunedau’r Arfordir Llywodraeth Cymru wedi ariannu prosiectau o amryw o sectorau gan gynnwys pysgodfeydd, cynhyrchiant, bwyd a diod, a thwristiaeth. Bydd prosiectau llwyddiannus fel arfer yn medru arddangos y canlynol:

  • Tystiolaeth o allbynnau prosiect clir, a chreu swyddi yn benodol
  • Gallu i gyflwyno o fewn y graddfeydd amser y cytunwyd arnynt
  • Cynaladwyedd y gweithgaredd a'r effaith yn y tymor hwy.

Mae prosiectau a ariannwyd gan Cronfa Cymunedau'r Arfordir Llywodraeth Cymru mewn rowndiau blaenorol yn cynnwys


Derbyniodd Halen Môn grant o £298,608 er mwyn amrywiaethu'r busnes trwy gynhyrchu cynnyrch halen môr newydd ac ehangu eu hamrediadau cynnyrch wrth fygu, cynyddu capasiti teithiau tywysiedig ‘Y tu ôl i’r Llen’, a chreu ardal gweini bwyd awyr agored a chynnig bwyd y môr a diod leol.

Gwobrwywyd £139,568 i Milford Haven Port Authority er mwyn gosod gwesty pedair ystafell arnofiol hygyrch – “cabanau arnofiol” – yn eu marina. Mae’r cabanau wedi cynhyrchu o bren gydag esthetig morol traddodiadol ac yn cynnwys ystafell wely, ystafell ymolchi, ardal fyw, a theras allanol sy’n medru lletya hyd at bedwar person.

Gwnaeth prosiect £251,280 Vale of Rheidol Railway hyfforddi dau berson ifanc gyda sgiliau i adnewyddu cerbydau trên stem adfeiliedig, gan ddod â cherbydau mynediad anabl a cherbydau dosbarth cyntaf nol mewn i ddefnydd. Mae’r cerbydau newydd wedi galluogi’r busnes i ymestyn eu profiadau teithiau trên i bobl ag anableddau, cynyddu eu partneriaeth gyda busnesau lleol, a chynnal teithiau trên wedi’u thema newydd.

Mae prosiect Colwyn Bay Watersports CIC yn cyflwyno gwersi hwylio, syrffio gwynt, a bad modur yn ogystal â hurio canwod a chaiacau. Galluogodd y grant yma o £100,000 i’r mudiad fodloni galw trwy gynyddu niferoedd staff a phrynu offer ychwanegol a badau hwylio.

Derbyniodd Cwrw Llyn £64,400 i ddatblygu ac ehangu eu menter ficro fragdy. Gwnaeth y grant yma brynu offer a dyblu capasiti bragu’r cwmni, a rhan-ariannu fan newydd i gludo a marchnata’r cynnyrch ar draws ardal ehangach yng ngogledd a chanolbarth Cymru.