Cronfa Gweithredu Hinsawdd - rownd 1

Mae'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn gronfa ddeng mlynedd gwerth £100 miliwn sy'n cefnogi cymunedau ledled y DU i weithredu ar newid hinsawdd.

Mae'r rownd cyntaf o grantiau Gweithredu hinsawdd bellach wedi cau.

Rydym wedi dyfarnu dros £19.5 miliwn i 23 o brosiectau ledled y DU fel rhan o garfan gyntaf y Gronfa Gweithredu Hinsawdd. I ddysgu mwy, ewch i'n blog ar stori'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd hyd yma.

Yn ogystal â'r rhaglen grantiau, mae'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd wedi ymrwymo i gefnogi symudiad ehangach o newid.

Ardal
Ledled y DU
Yn addas ar gyfer
Partneriaethau a arweinir gan y gymuned - gweler y rhestr lawn o feini prawf cymhwysedd isod
Cyfanswm ar gael
£100 million
Terfyn amser ymgeisio

Agorwyd ceisiadau cychwynnol ar 4 Tachwedd 2019 a hysbyswyd ymgeiswyr a wahoddwyd i'r cam nesaf ym mis Ionawr 2020. Mae rownd dau'r rhaglen bellach ar agor.

Beth rydyn ni'n ei ariannu

Yn 2020, dyfarnwyd dros £19.5 miliwn i 23 o brosiectau ledled y DU fel rhan o'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd.

Bydd y prosiectau partneriaeth hyn yn lleihau ôl troed carbon cymunedau ac yn cefnogi symudiadau a arweinir gan y gymuned a all ddangos yr hyn sy'n bosibl pan fydd pobl yn arwain y ffordd o ran mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Bydd arian y Loteri Genedlaethol yn cefnogi'r prosiectau hyn i gydweithio, rhannu dysgu a bod yn gatalyddion ar gyfer newid ehangach a thrawsnewidiol.

Disgwyliadau ariannu ar gyfer rownd un

Bydd swm y grantiau sydd ar gael fesul cais yn dibynnu ar yr hyn sydd ei angen ar bob partneriaeth ar hyn o bryd:

  • gall ymgeiswyr sydd angen mwy o amser i ddatblygu eu partneriaeth, ymgysylltu'n eang neu brofi eu dulliau gweithredu gael gafael ar grantiau datblygu cychwynnol (hyd at £200,000 dros 18 mis)
  • gall ymgeiswyr a allai ddechrau cynlluniau tymor hwy yn gynharach gael gafael ar ddyfarniadau mwy, tymor hwy (hyd at £2.5m dros bum mlynedd).

Rydym yn disgwyl ariannu cymysgedd o wahanol leoedd, cymunedau, themâu a mentrau, ledled y DU.

Byddwn yn defnyddio dysgu o'r rownd gyntaf o grantiau i helpu i lunio'r hyn sy'n digwydd nesaf a byddwn yn profi ac yn dysgu drwy gydol y rhaglen. Bydd rhagor o gylchoedd ariannu ar gael yn ddiweddarach.

Meini prawf

  • Dan arweiniad y gymuned: Rydym am weld eich bod wedi cynnwys y gymuned yn y gwaith o gynllunio, datblygu a chyflawni eich prosiect.
  • Gweithio mewn partneriaeth: Byddwch yn bartneriaeth sy'n seiliedig ar leoedd ac yn cael ei harwain gan y gymuned ac sy'n dwyn ynghyd ystod eang o bobl a sefydliadau sydd â gweledigaeth gyffredin o sut y dylai gweithredu lleol ar newid yn yr hinsawdd edrych. Bydd disgwyl i bartneriaethau roi cytundeb ar waith ynghylch sut y byddant yn gweithio gyda'i gilydd.
  • Effaith uchel: Bydd ein grantiau yn canolbwyntio ar weithgareddau sydd â'r potensial i wneud gwahaniaeth ystyrlon a pharhaol ar ôl troed carbon cymunedau. Mae hyn yn cynnwys gweithredu ar ynni cynaliadwy, trafnidiaeth gynaliadwy, defnydd (bwyd a gwastraff), a'r amgylchedd naturiol. Er mwyn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, efallai y bydd angen i brosiectau gael effaith ar nifer o'r meysydd hynny.
  • Effaith barhaol: Er mwyn lleihau effaith newid yn yr hinsawdd, mae'n bwysig bod y newidiadau a wneir yn gynaliadwy y tu hwnt i'r grantiau y gallem ei roi. Mae angen i newidiadau hirdymor mewn ymddygiad, ffyrdd o weithio, ac arferion fod wrth wraidd yr holl weithgareddau gweithredu hinsawdd lleol.
  • Cyrhaeddiad: Mae angen i bartneriaethau ymgysylltu â phobl y tu allan i'r rhai sydd eisoes yn gweithredu ar newid hinsawdd yn eu cymunedau lleol, a thu hwnt.
  • Dysgu ac ymgysylltu: Byddwn yn disgwyl i bartneriaethau gynhyrchu a rhannu eu dysgu o'r dechrau, yn rheolaidd, a bod yn gyfranogwyr gweithgar mewn symudiad ehangach o newid.

Disgwyliwn i'r holl bartneriaid ystyried eu heffaith amgylcheddol eu hunain a chael polisi a chynllun gweithredu cadarn ar waith. Darllenwch wybodaeth Llywodraeth y DU am gyfrifoldeb amgylcheddol elusennau.

Disgwyliwn i bob partner gyd-fynd â'n hegwyddorion amrywiaeth, tegwch a chynhwysiant.

Cwestiynau syniad cychwynnol

Yn rownd un, gofynnwyd i sefydliadau sydd am wneud cais i ateb y cwestiynau canlynol. Pe bai eich syniad yn cael ei dderbyn, byddem yn cysylltu â chi i drafod y camau nesaf ynglŷn â'r cynnig llawn.

C1: Rhowch amlinelliad byr i ni o'ch prosiect - beth ydych chi am ei wneud a pham.

C2: Beth a ble mae eich sefydliad a'ch cymuned?

Rydyn ni eisiau gwybod pwy ydych chi a ble mae eich gwaith yn digwydd. Sut mae'r bobl yn eich cymuned yn arwain?

C3: Sut olwg sydd ar eich partneriaeth?

Pa sefydliadau, sectorau, grwpiau a phobl yr ydych wedi bod yn gweithio gyda hwy ac yn siarad â hwy am y gronfa hon? Ydych chi wedi gweithio gyda'ch gilydd o'r blaen?

C4: Beth ydych chi wedi bod yn ei wneud, hyd yma, i weithredu ar newid yn yr hinsawdd?

Disgrifiwch y gwaith rydych wedi'i wneud hyd yn hyn, a'r effaith y mae wedi'i chael. Disgrifiwch eich gweledigaeth ar gyfer gweithredu yn yr hinsawdd yn eich cymuned (nawr neu yn y dyfodol). Beth ydych chi'n anelu at ei gyflawni? A oes gennych unrhyw ganlyniadau y gallech eu rhannu?

C5: Disgrifiwch eich nod neu'ch gweledigaeth gyfunol ar gyfer gweithredu ar newid hinsawdd

Disgrifiwch eich gweledigaeth ar gyfer eich gweithredu yn yr hinsawdd. Sut ydych chi'n anelu at gyflawni a sut olwg fydd arno/a fydd yn edrych yn ymarferol? Sut a pham wnaethoch chi benderfynu ar y nod hwn?

C6: Pwy ydych chi'n teimlo sy'n gwneud y gwaith gweithredu gorau yn yr hinsawdd?

Dywedwch wrthym am yr hyn rydych wedi'i weld yn rhywle arall a phwy rydych chi'n dysgu ohono.

C7: Sut ydych chi'n ymgysylltu â chymunedau eraill?

A ydych chi neu eraill yn eich partneriaeth wedi gweithio gyda chymunedau eraill a gwahanol leoedd i weithredu ar newid yn yr hinsawdd?