Gwybodaeth i ddeiliaid grant presennol yn ystod COVID-19

Rydym yn deall efallai y bydd angen i chi newid eich cynlluniau oherwydd cyngor y Llywodraeth ac iechyd. Rydym yn eich annog i ddilyn y cyngor hwn.

Hyderwn eich bod yn gwybod beth sydd orau i'ch cymuned. Felly byddwn yn hyblyg ynglŷn â newidiadau i'ch prosiect, a byddwn yn eich cefnogi chi a'ch timau trwy'r argyfwng.

Efallai eich bod eisoes wedi siarad â'ch swyddog ariannu am ba gymorth y gallwn ei gynnig i chi, ond dyma beth y gall pob un o'n deiliaid grant ei ddisgwyl gennym ni. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â'ch swyddog ariannu (neu cysylltwch â ni).

Rydym yn gweithredu fel yr arfer a byddwn yn gwneud taliadau yn ôl y bwriad

Mae gennym systemau ar waith i sicrhau bod ein staff yn gallu gweithio gartref yn effeithiol. Mae hyn yn golygu y bydd taliadau grant yn parhau fel y cynlluniwyd.

Byddwn yn hyblyg os bydd eich prosiect yn newid

Felly gallwch ymateb i'r argyfwng presennol a'r newidiadau mewn anghenion lleol. Mae hyn yn cynnwys addasu i:

  • newidiadau yn llinellau amser eich prosiect
  • newidiadau yng ngweithgaredd eich prosiect
  • newidiadau mewn costau nad ydynt wedi'u cynnwys yn eich cyllideb wreiddiol (os yw'n newid mawr, cysylltwch â'ch swyddog ariannu i siarad am eich cynlluniau. Os yw'n fân, rydym yn ymddiried yn eich barn yn y ffordd rydych chi'n cefnogi'ch cymuned)
  • gohirio neu ganslo digwyddiadau neu weithgareddau rydyn ni wedi'u hariannu, gan gynnwys trwy #Dathlu25LoteriGenedlaethol (byddwn ni hefyd yn talu ffioedd canslo)
  • newidiadau mewn digwyddiadau neu weithgareddau i osgoi unrhyw risg o ddod â firws i mewn
  • oedi cyn cychwyn eich prosiect os ydych chi newydd gael arian grant (gallwn ymestyn y dyddiad cychwyn am hyd at chwe mis, neu fwy yn ddiweddarach os oes angen)

Os ydych am newid eich uwch gyswllt neu'ch prif gyswllt - cysylltwch â'ch swyddog ariannu (os oes gennych un) neu cysylltwch â ni.

Os nad ydych yn siŵr am y newidiadau rydych yn ei wneud
Cysylltwch â'ch swyddog ariannu (neu cysylltwch â ni).

Byddwn yn cefnogi’ch sefydliad a’ch timau trwy’r argyfwng hwn

Mae hyn yn cynnwys:

  • parhau i dalu cyflogau staff (felly gallwch chi gefnogi staff presennol sydd angen bod i ffwrdd yn sâl, ynysu neu â chyfrifoldebau gofalu)
  • ystyried unrhyw geisiadau a wnewch am gefnogaeth os ydych chi'n profi pwysau ariannol o ganlyniad i'r pandemig COVID-19
  • bod yn hyblyg os yw'ch gweithwyr allweddol yn sâl ac na allwch ddarparu gwasanaethau fel y cynlluniwyd
  • eich cefnogi os cewch gostau ychwanegol o ganlyniad i gefnogi'ch cymuned trwy'r argyfwng hwn

Peidiwch â phoeni am derfynau amser ac adrodd

Rydym yn canolbwyntio ar eich helpu i gefnogi cymunedau trwy'r argyfwng hwn. Felly byddwn yn hyblyg ynglŷn ag adrodd a therfynau amser - a byddwn yn cysylltu yn nes ymlaen os bydd angen.

Pryd i ddweud wrthym am newid yn eich prosiect

Os ydych chi'n gwneud newidiadau sylweddol i'r hyn y byddwch chi'n defnyddio'ch grant ar ei gyfer.
Er enghraifft, os ydych chi'n newid eich cynlluniau neu weithgareddau yn llwyr, cysylltwch â'ch swyddog ariannu. Byddwn yn hapus i sgwrsio am eich newid mewn cynlluniau.

Pan fydd angen i gwsmeriaid gofnodi newid a dweud wrthym yn nes ymlaen:

  • os oes angen i chi newid eich costau a gwario arian ar eitemau nad ydynt wedi'u cynnwys yn eich cyllideb wreiddiol
  • os oes angen i chi ohirio digwyddiad neu weithgaredd rydyn ni wedi'i ariannu
  • os ydych chi'n addasu digwyddiad neu weithgaredd i osgoi unrhyw risg o ddod â phobl i'r firws
  • os yw'ch gweithwyr allweddol yn sâl ac na allwch ddarparu gwasanaethau fel y cynlluniwyd.

Gallwch barhau i wneud cais am arian grant (gan gynnwys arian ar gyfer prosiectau COVID-19)

Am y tro rydym yn blaenoriaethu ariannu prosiectau a sefydliadau sy'n cefnogi cymunedau trwy'r pandemig COVID-19. Mae hyn er mwyn i'r prosiectau hyn gychwyn cyn gynted â phosibl, wrth ein helpu i wario arian cyhoeddus yn gyfrifol. Darganfyddwch fwy am wneud cais am rian i gefnogi cymunedau yn ystod argyfwng COVID-19.

Gallwch dal ymgeisio am ychydig o’n hariannu presennol, ond gall gymryd ychydig hirach i’w dderbyn gennym.

Os gwnaethoch gais am arian yn ddiweddar

Disgwyliwn asesu ceisiadau a dyfarnu arian grant yn ôl yr arfer yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. A byddwn yn parhau i wneud hyn yn unol â'r amserlenni penderfyniadau a gyhoeddir ar ein gwefan ar gyfer gwahanol raglenni, er ein bod yn blaenoriaethu prosiectau cysylltiedig â COVID-19. Yn Lloegr rydym yn canolbwyntio'n llwyr ar gefnogi cymunedau trwy'r pandemig COVID-19.

Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i siarad am eich cynlluniau. Byddwn yn gwneud hyn os yw'n edrych fel y gallai fod angen i'ch cynlluniau newid oherwydd yr argyfwng presennol. Neu os efallai y bydd angen i chi newid sut roeddech chi'n bwriadu cyflawni'r prosiect.