Live healthier lives

Flourish Cardiff

Byddwn yn cefnogi cymunedau i alluogi pobl i fyw bywydau iachach

Gall bod yn rhan o gymuned eich gwneud yn iachach ac yn hapusach. Mae cyfleoedd enfawr i gymunedau gefnogi pobl i fyw bywydau iachach. A gwyddom fod gan bobl sydd â phrofiad o lygad y ffynnon, mudiadau cymdeithas sifil a’r sector cyhoeddus oll rôl i’w chwarae.

Byddwn yn buddsoddi mewn cymunedau sy’n meithrin lles ac iechyd corfforol a meddyliol da. Byddwn yn ariannu prosiectau sy’n:

  • cymryd agwedd ataliol
  • galluogi cymunedau i gymryd camau cadarnhaol i wella iechyd a lles eu cymunedau
  • helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd
  • cynyddu cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad cymunedol i lunio gwell gwasanaethau iechyd.
Ni fyddwn i’n fyw heddiw heb y gefnogaeth a gefais gan Men Matter Scotland. Dwi wedi mynd o deimlo’n hunanladdol i ddatblygu ystyr a phwrpas yn fy mywyd yn raddol unwaith eto. Dwi bellach yn aelod o staff balch yn Men Matter Scotland ac yn helpu eraill sy’n teimlo fel yr oeddwn i – dyna i mi yw fy mhwrpas.”
Andrew MacAlistair, Gweithiwr Cymorth Cymheiriaid Men Matter Scotland, Yr Alban

Cymunedau iach

Yn y fideo hwn, rydym yn siarad ag aelodau o Men Matter Scotland am y gwaith hanfodol y maent yn ei wneud i atal hunanladdiad ymysg dynion a gwella iechyd a lles ei aelodau. Mae’r grŵp yn enghraifft addas i ddangos pam bod un o nodau cymunedol ein strategaeth yn canolbwyntio ar iechyd a lles.