Mae 1 o bob 3 oedolyn yn y du wedi taflu dillad newydd sbon yn y bin yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan 'greu difrod' ir amgylchedd
- Amcangyfrifir bod 1.4 biliwn o eitemau o ddillad yn cael eu taflu gan oedolion yn y DU bob blwyddyn yn ôl ymchwil newydd.
- Mae hyn yn peri pryder gan fod y diwydiant ffasiwn yn un o'r sectorau mwyaf llygrol ac yn defnyddio symiau enfawr o ddŵr – 215 triliwn litr y flwyddyn, sy'n cyfateb i 86 miliwn o byllau nofio maint Olympaidd ac yn dibynnu ar filoedd o gemegau, llawer ohonynt yn niweidiol.2
- Roedd y rhesymau dros daflu dillad yn y bin yn cynnwys diffyg sgiliau i'w hatgyweirio neu eu newid - mae mwy na chwarter yn brin o hyder mewn gwnïo sylfaenol megis rhoi botwm newydd ac nid yw 44% yn hyderus yn gwnïo hem.
- Gall caffis a grwpiau atgyweirio cymunedol fel y rhai a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol helpu i leihau gwastraff dillad, arbed arian a chysylltu cymunedau, gan hybu cynaliadwyedd ac iechyd meddwl.
Mae bron i un o bob tri oedolyn (32%) wedi taflu dillad newydd sbon yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gan ychwanegu tua 1.4 biliwn o eitemau o ddillad at fynydd o wastraff dillad sydd allan o reolaeth. Mae hynny yn ôl ymchwil newydd gan Censuswide a gomisiynwyd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol 1.
Canfu'r arolwg o 2,752 o oedolion yn y DU fod un o bob pump o bobl (20%) a ddywedodd eu bod wedi rhoi dillad heb eu gwisgo neu a wisgir yn anaml yn y bin wedi gwneud hynny oherwydd nad oeddent yn credu eu bod yn werth eu gwerthu na'u rhoddi.3
Roedd diffyg sgiliau trwsio hefyd ar fai. Dywedodd dros chwarter nad oeddent yn hyderus mewn gwnïo sylfaenol megis rhoi botwm newydd (26%) ac nid yw dros ddau o bob pump yn hyderus wrth wnïo hem (44%).4
Mae ymchwil gan y sefydliad anllywodraethol amgylcheddol byd-eang blaenllaw WRAP (Rhaglen Weithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau) yn dangos, os bydd pobl yn atgyweirio dilledyn, y byddant yn ei gadw am o leiaf flwyddyn arall ar gyfartaledd.5 Gall atgyweirio dillad hefyd helpu pobl i ddod yn fwy ymwybodol o'u gwariant a'u defnydd, gan leihau nifer yr eitemau a brynir ac a anfonir i safleoedd tirlenwi.6
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dweud y gallai atebion dan arweiniad y gymuned fel caffis atgyweirio (lle gall pobl weithio gydag arbenigwyr gwirfoddol i drwsio dillad neu eitemau cartref sydd wedi torri) a grwpiau ailgylchu chwarae rhan wrth leihau'r effaith ar yr amgylchedd, trwy leihau'r angen i greu eitemau newydd yn ogystal â gwella iechyd meddwl pobl, meithrin cyfeillgarwch ac ymdeimlad o gymuned.
Mae mentrau elusennol fel Medi Ail-law Oxfam a lansiad ymgyrch Achub ac Atgyweirio Shelter wedi bod yn y penawdau yn ddiweddar, gan ddangos ymwybyddiaeth gynyddol o effaith amgylcheddol ein diwylliant o daflu pethau ac awydd i fynd i'r afael â'r mater.
Mae elusen awtistiaeth yn Teesside wedi troi problem gwastraff yn ateb arloesol. Lansiodd Daisy Chain y brand ffasiwn cynaliadwy Neuthread ar ôl darganfod nad oedd modd defnyddio 50% o'u rhoddion dillad – her sy'n wynebu elusennau ledled y wlad.
Mae'r canlyniadau'n dangos yr effaith: bron i filiwn o eitemau wedi'u hachub o safleoedd tirlenwi mewn 12 mis, ac yn 2024, Daisy Chain oedd yr elusen gyntaf erioed i arddangos yn Wythnos Ffasiwn Llundain. Gyda chefnogaeth Cronfa Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae Daisy Chain hefyd yn creu cyfleoedd cyflogaeth i bobl awtistig - y grŵp anabledd gyda'r cyfraddau cyflogaeth isaf - ac yn partneru â phrifysgolion i ymgorffori sgiliau ffasiwn cynaliadwy mewn cwricwla.
Ymunodd Cara Baumann, Rheolwr Partneriaethau a Digwyddiadau Corfforaethol, sy'n 45 oed, â Neuthread fel gwirfoddolwr gyda hithau'n dweud bod y prosiect wedi gwneud gwahaniaeth enfawr iddi hi'n bersonol ac yn broffesiynol: "Tair blynedd yn ôl, pe bai rhywun wedi dweud wrtha i y byddwn i'n mynd â sioe i Wythnos Ffasiwn Llundain, byddwn i wedi dweud eich bod chi'n wallgof! Ond rhoddodd gwirfoddoli fel dylunydd yr hyder i mi fod wir pwy ydw i a'r llynedd, cefais y dewrder o'r diwedd i gael fy niagnos awtistiaeth. Rydw i wedi mynd o fod yn galed iawn arnaf fy hun i faddau i mi fy hun - rydw i'n fwy mynegiannol nawr, yn fwy creadigol. Casglodd yr hyn a ddechreuodd fel brand ffasiwn cynaliadwyedd a chymunedol fomentwm, ac roedd mynd â sioe i Wythnos Ffasiwn Llundain yn gwireddu breuddwyd i mi."
Yn ogystal â helpu'r blaned, dywedodd y rhai a fynychodd gaffis a grwpiau atgyweirio eu bod wedi gweld manteision eraill. Dywedodd mwy na thraean ei fod wedi eu helpu i arbed arian a theimlo eu bod yn 'gwneud eu rhan' i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Dywedodd mwy na chwarter ei fod wedi eu helpu i gymdeithasu, a dywedodd dros un o bob pump ei fod wedi helpu i dawelu eu gorbryder.
Yn ogystal â thaflu dillad, ar gyfartaledd mae 60% o oedolion yn y DU wedi taflu eitemau cartref yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gan gynnwys tostwyr, peiriannau golchi a sychwyr gwallt.
Yn ystod y pedair blynedd diwethaf, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyfarnu bron i £300m i dros 3,500 o brosiectau amgylcheddol ledled y DU gan gynnwys caffis atgyweirio, grwpiau ailgylchu a gwnïo, gan helpu pobl o Belfast i Brighton a phobman yn y canol i drwsio dillad yn ogystal â thrwsio eitemau cartref sydd wedi torri.7
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol bellach yn annog y cyhoedd i chwilio am eu caffi atgyweirio neu grŵp trwsio lleol i atgyweirio neu ailgylchu dillad neu eitemau cartref sydd wedi'u difrodi yn lle eu taflu. Mae hefyd yn galw ar elusennau a grwpiau cymunedol i wneud cais am arian i sefydlu prosiectau yn eu cymuned a allai helpu'r amgylchedd. Mae arian ar gael ar gyfer prosiectau amgylcheddol o bob lliw a llun, o grantiau bach hyd at £20,000 trwy ei rhaglen Arian i Bawb mynediad agored i fudiadau sy'n gweithio ledled y DU trwy'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd.
Dywedodd John Rose, Arweinydd Amgylcheddol yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol:
“Mae'n syfrdanol bod cymaint o ddiwylliant o daflu pethau a mynydd o wastraff dillad allan o reolaeth o hyd, yn creu anhrefn ar ein hamgylchedd.
“Er nad yw ymladd gwastraff ffasiwn yn dasg hawdd ac mae angen gweithredu ar y cyd, mae camau bach y gall pawb eu cymryd a fydd yn helpu’r blaned megis mynd â dillad neu eitemau eraill sydd wedi torri i gael eu trwsio mewn caffi atgyweirio.
“Fe allech chi arbed arian, dysgu sgiliau newydd, meithrin cyfeillgarwch a bod yn rhan o’ch cymuned gan helpu i achub y blaned a gwneud rhywbeth sydd wir yn newid bywydau.
“Mae yna lawer o bobl sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’r amgylchedd lle maen nhw’n byw, boed hynny’n sefydlu caffi atgyweirio, dechrau gardd gymunedol neu helpu pobl i ddysgu sut i leihau eu defnydd o ynni, ac rydym am eu hannog i gysylltu â ni i weld a allwn eu helpu gydag ariannu yn https://bit.ly/Environmentfunding.”
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig