Lansio rhaglen newydd y Loteri Genedlaethol i roi’r dechrau gorau i fabanod a phlant blynyddoedd cynnar trwy gysylltiad â byd natur
Bydd babanod, plant, a’u teuluoedd ledled Cymru yn dod yn agosach at fyd natur diolch i raglen y Loteri Genedlaethol sydd â’r nod o wella iechyd a lles yn y blynyddoedd cynnar trwy fwy o gysylltiad â’r awyr agored.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ariannwr cymunedol mwyaf y DU, wedi lansio Meithrin Natur, rhaglen newydd gwerth £10 miliwn sydd am gyflwyno effeithiau therapiwtig a thrawsnewidiol yr amgylchedd naturiol ar y camau cynharaf o ddatblygiad plentyn.
Bydd teuluoedd a gofalwyr babanod a phlant dan bum mlwydd oed yn cael eu cynnwys yn y prosiectau a ariennir, ynghyd a mamau a thadau sy’n disgwyl plentyn, a fydd hefyd yn cael budd o effeithiau tawelu byd natur fel rhan o’u paratoadau cyn geni.
Mae’r rhaglen ariannu yn agored i ystod eang o brosiectau partneriaeth, yn cynnwys y rhai sy’n darparu gweithgareddau blynyddoedd cynnar mewn parciau, gwlypdiroedd, afonydd gerddi cyhoeddus, caeau chwarae, rhandiroedd, a gwarchodfeydd natur, yn ogystal â’r rhai sy’n gwasanaethu cymunedau sy’n arbennig o ddifreintiedig.
Fel rhan o’r rhaglen, caiff prosiectau partneriaeth eu diffinio fel y rheiny sy’n cyfuno sefydliad blynyddoedd cynnar â’r rhai sydd â phrofiad a gwybodaeth am yr amgylchedd, gyda mewnbwn plant lleol a’u teuluoedd hefyd yn cael ei groesawu i sicrhau cynhwysiant a bod anghenion y gymuned leol yn cael eu bodloni.
Mae’r rhaglen ariannu hon mewn ymateb i’r corff cynyddol o dystiolaeth sy’n dangos fod treulio amser mewn amgylcheddau naturiol yn cynyddu lles ac iechyd personol plant dros amser.
Mae adroddiad gan yr Ymddiriedolaethau Bywyd Gwyllt yn dangos fod pobl sydd â byd natur ar eu stepen drws yn fwy egnïol, yn fwy gwydn yn feddyliol a chyda iechyd gwell yn gyffredinol. Fodd bynnag, dim ond 35% o aelwydydd sydd ag incwm blynyddol islaw £10,000 sydd o fewn 10 munud o gerdded i fan gwyrdd sy’n agored i’r cyhoedd.*
Fe ganfu ymchwil diweddar a wnaethpwyd ar ran Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol fod 43% o rieni yn dweud y byddai treulio mwy o amser ym myd natur yn helpu iechyd meddwl eu plant, gyda dros chwarter (28%) yn teimlo y byddai gallu cael mynediad i fannau gwyrdd, fel parciau, hefyd yn helpu.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi nifer o brosiectau blynyddoedd cynnar amgylcheddol yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf. Mae’r rhain yn cynnwys Eryri-Bywiol yng ngogledd orllewin Cymru, a gafodd dros £300,000 ar gyfer prosiect Babi Actif, sy’n cynnal gweithgareddau’n sy’n caniatáu i ofalwyr a babanod ymgolli yn yr awyr agored fel ffordd o wella eu hiechyd corfforol ac iechyd meddyliol. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys ffitrwydd bygi, chwarae coedwig i fabanod, symud yn yr awyr agored, a theithiau cerdded babi a sling.
Meddai Dr Simone Lowthe-Thomas, Cadeirydd Pwyllgor Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae mynediad cynnar at fyd natur yn newid bywydau go iawn. Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, rydym yn credu fod helpu plant i feithrin cysylltiad cryf gyda’r amgylchedd naturiol o’r camau cynharaf o fywyd yn hanfodol i’w helpu nhw i gyrraedd eu llawn botensial.
“Fodd bynnag, mae rhwystrau fel hygyrchedd a lleoliad yn gallu ei gwneud yn anodd i blant ifanc, a’u rheini, i gael mynediad i lefydd naturiol. Yn benodol, rydym yn gwybod fod dechrau plentyn mewn bywyd yn gallu effeithio ar eu mynediad at fyd natur yn fawr iawn, gyda’r rhai sy’n profi tlodi, anfantais neu wahaniaethu yn wynebu heriau mwy cymhleth a hirsefydlog nac eraill.
“Mae ein strategaeth sail mlynedd, Cymuned yw’r man cychwyn, yn cynnwys pedair prif nod ariannu, sy’n cynnwys ymrwymiad i helpu plant a phobl ifanc i ffynnu, ac i gynaliadwyedd amgylcheddol. Mae Meithrin Natur yn dod â’r syniadau hyn ynghyd, gyda’r nod o ganiatáu i fabanod a phlant ifanc ledled Cymru i ymgolli ym myd natur, waeth beth fo eu dechreuad mewn bywyd.”
Os oes gennych syniad am brosiect partneriaeth sy’n dod ag arbenigedd mewn babanod a phlant ifanc ynghyd â’r manteision o dreulio rhagor o amser yn yr awyr agored, yna ewch i https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding/programmes/meithrin-natur i gysylltu ag ymgeisio am arian.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru
