Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn penodi dau Gyfarwyddwr newydd
Mae’n bleser gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ariannwr cymunedol mwyaf y DU, gyhoeddi penodiad dau Gyfarwyddwr newydd a fydd yn chwarae rhan bwysig wrth yrru’r sefydliad yn ei flaen i barhau i gyflawni ei strategaeth – Cymuned yw’r man cychwyn.
Bydd Nadine Smith yn ymuno â’r Gronfa fel Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Effaith a Dylanwad ac mae Mel Eaglesfield wedi ei phenodi’n Gyfarwyddwr Strategaeth Ariannu, Arloesi a’r DU. Mae’r ddwy yn swyddi uwch arweinyddiaeth newydd.
Mae Nadine yn dod a chyfoeth o brofiad o yrfa yn cefnogi’r sector gyhoeddus, yn fwyaf diweddar fel Cyfarwyddwr Gweithredol ar gyfer Llywodraeth, Strategaeth a Materion Allanol yn Social Finance. Yn ogystal â gwasanaethu fel Pennaeth Ymgyrchoedd Strategol yn Swyddfa’r Cabinet, roedd Nadine yn gyfarwyddwr sefydlu cyfathrebu yn yr Institute for Government ac mae hi’n gyn-gyfarwyddwr y Centre for Public Impact. Bydd yn dechrau ei swydd newydd yn y Gronfa ym mis Tachwedd.
Ar ôl treulio dros 18 mlynedd yn gweithio ar draws portffolios ariannu a gweithrediadau corfforaethol yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae Mel Eaglesfield yn dod â gwybodaeth, mewnwelediad arbenigol a dealltwriaeth helaeth i’w swydd newydd yn arwain strategaeth ariannu, arloesi a rhaglenni’r Deyrnas Unedig y sefydliad. Eisoes mae hi wedi dechrau ar y swydd barhaol yn dilyn chwe mis fel Cyfarwyddwr dros dro.
Meddai Mel Eaglesfield am ei swydd newydd fel Cyfarwyddwr Strategaeth Ariannu, Arloesi a’r DU: “Mae hi’n gymaint o fraint cael y cyfle hwn i arwain ar ein gwaith Strategaeth Ariannu, Arloesi a’r DU ac rwy’n ymrwymo’n llwyr i weithio gyda chymunedau ac ar eu rhan a gyda’n pobl anhygoel sydd â’u hynni a’u sbardun yn gwneud i bethau ddigwydd.”
Meddai Nadine Smith, Cyfarwyddwr newydd Cyfathrebu, Effaith a Dylanwad am ei phenodiad: “Mae’n anrhydedd mawr cael y cyfle hwn i gefnogi Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ddod a’u strategaeth, Cymuned yw’r man cychwyn, yn fyw.
“Rydw i wedi gweithio ar draws y byd busnes, llywodraeth a’r VCFSE, ac rwy’n gredwr cryf fod canlyniadau gwell yn dod o weithio mewn partneriaeth ddiffuant.
“Rwy’n edrych ymlaen at feithrin ein llais ar y cyd o’r gwaelod i fyny, gan sicrhau fod dysgu ac effaith yn cael eu gweld, eu clywed a’u bod yn cynnwys pob un o’n cymunedau.”
Cafodd y ddau benodiad eu gwneud trwy gystadleuaeth agored.
Meddai David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae’n bleser gen i groesawu Nadine i’r Gronfa a Mel i’w swydd newydd, yn adeiladu ar ei phrofiad helaeth o’r Gronfa a’i hanes o ragoriaeth. Bydd profiad Nadine yn ei galluogi i arwain o’r tu blaen wrth ddod a’i hangerdd a’i dychymyg i sicrhau fod gwaith caled ein cymunedau yn cael ei weld a’i glywed. Bydd eu hymroddiad, eu sbardun a'u gweledigaeth yn chwarae rhan hanfodol yn ein tîm arweinyddiaeth wrth i ni symud ymlaen gyda chyflawni ein strategaeth ar adeg pan mae angen newid beiddgar, dan arweiniad y gymuned yn fwy nac erioed.”
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn bob wythnos i achosion da ledled y Deyrnas Unedig. Diolch iddyn nhw, y llynedd (2023/24) fe wnaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ddyfarnu dros hanner biliwn o bunnoedd (£686.3 miliwn) o grantiau sy’n trawsnewid bywydau i gymunedau ledled y DU, gan gefnogi dros 13,700 o brosiectau i wireddu ei syniadau gwych.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig