Swm anhygoel o £12 miliwn i gefnogi mynediad i swyddi gwyrdd ar gyfer pobl ifanc sydd ag anableddau a phobl ifanc o gymunedau ethnig lleiafrifiedig yng Nghymru
Mae sefydliadau ledled Cymru yn cael arian i annog pobl ifanc i fynd ar drywydd gyrfaoedd sy’n lleihau allyriadau carbon, yn adfer natur ac yn ein helpu i addasu i’r hinsawdd sy’n newid.
Bydd y buddsoddiad o dros £12 miliwn yn cael ei wneud mewn pedwar o sefydliadau trwy ariannu Asedau Segur* sy’n cael ei ddarparu trwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Cewch restr lawn o’r grantiau a ddyfarnwyd yma.
Prif ffocws rhaglen ariannu Camau Cynaliadwy Cymru yw cefnogi pobl ifanc sydd ag anableddau a’r rhai sy’n dod o gymunedau ethnig lleiafrifiedig. Trwy annog amrywiaeth mewn gyrfaoedd gwyrdd, mae’r rhaglen yn darparu cymorth llaw i sicrhau cyfleoedd i bawb.
Mae gyrfaoedd gwyrdd yn cwmpasu ystod o rolau, o gynorthwywyr gweinyddol i ymgynghorwyr amgylcheddol i gogyddion mewn bwytai dim gwastraff, a pheirianwyr dan hyfforddiant i gwmnïau ynni adnewyddadwy. Mae’r rhaglen yn cefnogi prosiectau i helpu pobl ifanc i ddatblygu hyder, meithrin sgiliau cymdeithasol a thechnegol newydd a chael profiad a lleoliadau gwaith a allai arwain at gyfleoedd cyflogaeth tymor hir.
Meddai Mike Theodoulou, Prif Weithredwr Foothold Cymru: "Mae Foothold Cymru, ynghyd â’n partneriaid anhygoel Antur Cymru, Planed, a Menter Gorllewin Sir Gar, yn hynod falch o dderbyn yr arian sylweddol hwn. Mae’r grant hwn yn cynrychioli cam allweddol yn ein nod o chwalu rhwystrau i bobl ifanc sydd ag anableddau a’r rhai o gymunedau ethnig lleiafrifedig ar draws Sir Gâr, Sir Benfro, Ceredigion a Phowys. Bydd yn agor drysau i gyfleoedd cyffrous o fewn y sector gyrfaoedd gwyrdd sy’n ehangu – maes sy’n llawn potensial am arloesi a thwf.”
Mae ein hymchwil wedi dangos fod llawer o bobl ifanc yn parhau’n ddiarwybod am yr amrywiaeth o gyfleoedd yn yr economi werdd. O swyddi mewn ynni adnewyddadwy i swyddi mewn ymgynghori amgylcheddol i fentrau dim gwastraff, mae’r sector hon yn cynnig llwybrau sydd nid yn unig yn darparu gwaith ystyrlon ond hefyd yn cyfrannu tuag at ddyfodol mwy cynaliadwy. Dros y pum mlynedd nesaf, ein nod yw newid y naratif drwy feithrin ymwybyddiaeth, magu hyder a chreu llwybrau hygyrch i yrfaoedd gwyrdd.
Mae’r fenter hon am fwy na dim ond cyflogaeth; mae’n ymwneud a grymuso pobl ifanc i gymryd perchnogaeth o’u dyfodol wrth fynd i’r afael â heriau byd-eang fel newid hinsawdd. Trwy roi iddynt y sgiliau a’r cyfleoedd sydd eu hangen arnyn nhw i ffynnu yn y sector hon, rydym yn buddsoddi mewn cenhedlaeth o rai fydd yn ysgogi newid ac a fydd yn arwain Cymru at economi fwy gyrdd a mwy cynhwysol.”
Bydd ariannu trwy’r rhaglen hon hefyd yn cael ei ddarparu i E.L.I.T.E Supported Employment Agency Ltd, Rhyl City Strategy CIC a Pobl Homes and Communities Ltd. Bydd y sefydliadau hyn, mewn cydweithrediad â phartneriaid amrywiol ledled Cymru, yn creu cyfleoedd i gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc. Bydd y prosiectau hyn yn cefnogi ardaloedd ledled Cymru, gan gynnwys Merthyr Tydfil, Rhondda Cynon Taf (RCT), Blaenau Gwent, Caerffili, Caerdydd, Casnewydd, Abertawe, a rhanbarthau yng ngogledd Cymru megis Gwynedd, Conwy, Ynys Môn, Sir Ddinbych, Wrecsam, a Sir y Fflint.
Meddai Jack Sargeant, Y Gweinidog Sgiliau: “Rydyn ni’n hapus i gefnogi’r ariannu hwn oherwydd fe wyddom am y cyfleoedd y daw sgiliau gwyrdd y dyfodol i’r economi yng Nghymru. Mae’r sefydliadau cymunedol yng Nghymru sy’n derbyn yr arian asedau segur yn darparu cefnogaeth hanfodol i helpu pobl ifanc o bob cwr o Gymru i gael mynediad i yrfaoedd mewn sector sy’n tyfu a meithrin sgiliau a fydd yn sicrhau Cymru fwy cynhwysol a chynaliadwy i bawb.”
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Rydym yn falch iawn o gefnogi’r pedwar prosiect hwn sydd â’r nod o greu dyfodol mwy cynhwysol a chynaliadwy i’r wlad. Trwy fuddsoddi mewn pobl ifanc sydd ag anableddau a phobl ifanc o gymunedau ethnig lleiafrifedig, a rhoi’r sgiliau a’r cyfleoedd iddynt ffynnu mewn gyrfaoedd gwyrdd, rydym yn helpu i adeiladu Cymru fwy gwyrdd a mwy amrywiol.”
*Cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu ac asedau eraill megis yswiriant a phensiynau yn y Deyrnas Unedig and ydynt wedi cael eu cyffwrdd am 15 mlynedd neu fwy, lle na ellir dod o hyd i’r cwsmeriaid.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru