Cryfhau cymunedau: strategaethau ar gyfer cefnogi lleoedd sydd wedi colli allan ar ariannu

Astudiaethau achos

  • Torbay: Cryfhau gallu, hyder a chydweithio lleol drwy waith meithrin capasiti wedi’i dargedu, cynnig grantiau cyfranogol, a meithrin partneriaethau rhwng sefydliadau lleol a chenedlaethol.
  • Dudley: Meithrin perthnasoedd cymunedol trwy weithgareddau, cyfleoedd gwirfoddoli a gwasanaethau cymorth wedi'u targedu, er mwyn meithrin ymddiriedaeth yn raddol mewn cymuned sy'n wyliadwrus o gefnogaeth allanol.
  • Gosport: Sefydlu partneriaethau rhwng grwpiau lleol llai a grwpiau rhanbarthol mwy i helpu sicrhau nad yw tref lai yn colli cyfleoedd am gyllid neu gefnogaeth i’w chymydog mwy.
  • Powys: Defnyddio perchnogaeth tir cymunedol fel ysgogiad ar gyfer buddsoddiad parhaus, trwy roi cyfle i bobl leol gymryd rheolaeth o’u mannau awyr agored a’u datblygu ar gyfer hamdden a thwristiaeth.
  • Ymddiriedolaeth Cyfran Deg: Buddsoddiad hirdymor i fynd i’r afael â thros 80 o fannau oer o ran ariannu ledled y DU, gan adeiladu gallu cymunedau lleol i’r pwynt lle mae seilwaith digonol yn bodoli i ddechrau dod â chyllid allanol i mewn.
  • Sir Clackmannan: Cynnal asedau cymunedol drwy gyllid amrywiol a chymorth datblygu wedi’i dargedu, gan helpu’r asedau i ddod yn hunangynhaliol a pheidio â dibynnu ar grantiau neu gyllid awdurdod lleol.
  • Northumberland: Arian a phŵer i gymunedau, gan roi’r rhyddid i bobl leol ddyrannu cyllid fel sy’n briodol, ei ddefnyddio i fynd i’r afael â blaenoriaethau lleol a thargedu buddsoddiadau bach sy’n trosoli cyllid allanol.
  • Barking and Dagenham: Grymuso pobl leol i ddylunio a chyflwyno gweithgareddau cymunedol sy'n canolbwyntio ar gyfranogiad cymunedol, heb fod angen ymgeisio am gyllid na sefydlu endidau ffurfiol.
  • Gorllewin Armagh: Ymgysylltu â thrigolion a datgloi buddsoddiad drwy gorff cydgysylltu lleol, gan ganiatáu cyllid i gyrraedd ystadau tai a allai fel arall gael eu hepgor o fynediad i grantiau a rhaglenni.
  • Southend-on-Sea: Buddsoddiad parhaus yn y blynyddoedd cynnar, gan ddod ag awdurdodau lleol, gwasanaethau statudol, elusennau, grwpiau cymunedol a darparwyr addysg ynghyd i weithio mewn ffordd strategol gysylltiedig.