Gweithio ac ariannu seiliedig ar le

Dysgu Allweddol

Dewch i wybod hanes, cefndir a chyd-destun lle

  • Peidiwch ag arwain gydag arian - treuliwch gryn dipyn o amser yn ymgyfarwyddo â'r ardal
  • Dylech adnabod asedau a systemau lleol, peidiwch â chanolbwyntio ar ddata a demograffeg yn unig
  • Lleolwch eich hun yn y lle o'ch dewis. Nid oes gan bobl leol ffydd mewn ‘parasiwtio i mewn’ o'r tu allan
  • Diffiniwch ffiniau lleoedd sydd ag ystyr ar gyfer pobl leol, ond peidiwch ag anwybyddu'r cyd-destun ehangach
  • Cymerwch amser i ddeall y ddeinameg bŵer, agendau gwleidyddol a diwylliannau lleol
  • Byddwch yn ymwybodol o'r goblygiadau a'r 'baich' a allai berthyn i'ch partneriaid yn yr ardal leol a sut y gallai hyn effeithio ar barodrwydd pobl i ddangos diddordeb
  • Gall ardaloedd sydd â phoblogaethau mudol beri heriau penodol a gofyn am sylw cyson
  • Gwnewch yn siŵr y ceir atebolrwydd rhwng, ac i, bartneriaid lleol, nid i chi fel Ariannwr.
  • Nid oes unrhyw atebion hawdd p'un a ddylid targedu gwaith mewn mannau oer neu ble mae rhywfaint o gapasiti sy'n bodoli eisoes
Mae dechrau gwaith mewn ardal yn gofyn am ymrwymiad i ddysgu am y lle a pharch at yr hyn sydd eisoes yno […] mae gormod o ddulliau yn y gorffennol wedi methu ar y pwynt hwn

Buddsoddwch mewn pobl a pherthnasoedd

  • Mae rhai arianwyr wedi gweld bod dechrau gydag arweinwyr lleol cryfion yn hanfodol, mae eraill wedi myfyrio bod hyn yn bytholi mater y rhai sy'n 'anodd eu cyrraedd' neu'n 'hawdd eu hanwybyddu’
  • Gallai fod angen i arianwyr wella sgiliau pobl leol i fwyafu eu cyfraniad ond gallai fod angen cymorth arnynt gan eraill i wneud hwn yn effeithiol
  • Mae gweithio ‘gyda’ phobl a pheidio â gwneud pethau 'iddynt' yn hanfodol
  • Y ffordd orau o wneud gwaith yn berthnasol ac yn ddefnyddiol yw creu cysylltiadau â phobl, eu bywydau a ble maent yn byw

Gweithiwch gydag eraill i ddatblygu gweledigaeth a rennir ar gyfer newid

  • Mae'n rhaid i arianwyr wrando'n astud, hwyluso'n effeithiol a herio'n briodol
  • Cytunwch ar uchelgeisiau realistig ac amcanion clir
  • Gweithiwch ar yr hyn sy'n bosib, adeiladwch ar asedau lleol a buddsoddwch mewn potensial
  • Gallai fod angen gweithio ar wahân gyda chymunedau gwahanol i ddechrau er mwyn adeiladu hyder a ffydd
  • Mae rhoi pŵer i bobl leol yn gydran bwysig o gyflawni a chynnal newid, fodd bynnag "gall 'gor-ramanteiddio' aelodau'r gymuned fod yr un mor ddadrymusol yn yr hir dymor, efallai, â methu â rhannu pŵer - nid oes ganddynt yr holl atebion ac ni ellir disgwyl hynny"
  • Gall partneriaethau helpu dosbarthu pŵer ond mae angen gweithio trwy densiynau ac anghydfod
  • Mae cytuno ar y mudiad arweiniol iawn yn hanfodol

Dechreuwch yn fach, rhowch gynnig ar bethau gwahanol

  • Dylai fod gennych ymdeimlad clir o ddiben ar gyfer eich gwaith ond peidiwch â dod â rhagdybiaethau o'r hyn y bydd a'r hyn na fydd yn gweithio
  • Gall prosiectau tymor byr wedi'u harwain gan drigolion weithredu fel catalydd ac adeiladu sylfeini
  • Mae llwyddiannau cyflym i ddangos 'beth sydd yno i mi?' yn bwysig iawn o ran ennyn diddordeb pobl leol
  • Mewn rhai cyd-destunau, mae digwyddiadau mawr ac amlwg yn bwysig o ran rhoi ennyd o sylweddoli i'r gymuned
  • Mae'n rhaid i arianwyr beidio â beirniadu chwaeth pobl leol
  • Canolbwyntiwch ar yr hyn sy'n bosib; mae pobl leol yn greadigol a gallai eu sgiliau a'u hangerdd roi syndod i chi

Caniatewch amrywiad

  • Mae pethau bron bob amser yn cymryd amser hwy na'r hyn a ragwelwyd
  • Parhewch yn hyblyg, dysgwch ac addaswch - yn ymwybodol ac yn bwrpasol
  • Mae'n cymryd amser i ddatblygu ymddiriedaeth a dealltwriaeth a gall hyn ychwanegu pwysau os yw graddfeydd amser ariannu prosiectau'n dynn
  • Mae safbwyntiau amgen yn ychwanegu gwerth a her at weithio'n lleol, ac yn helpu partneriaid i addasu eu hiaith a'u dull
  • Bydd cynyddu graddfa neu symud dull llwyddiannus o un ardal i ardal arall o reidrwydd yn syml
  • Siaradwch â phobl am y newidiadau a gwelliannau y maent eisiau eu gweld i wasanaethau
Bydd cynlluniau'n newid o ganlyniad i'r hyn sy'n digwydd a sut mae'r bobl sydd ynghlwm wrth y peth yn ymateb. Ni waeth pa mor dda rydych yn darogan, fe gewch eich synnu

Byddwch yn realistig. Derbyniwch camgymeriadau a methiant, gwnewch le ar gyfer dysgu a myfyrio

  • Mewn rhai lleoedd, mae'n bosib na fydd pobl leol yn adnabod nac yn defnyddio'r asedau yn eu cymuned, gan feddwl nad ydynt ar eu cyfer
  • Mi fydd pethau'n mynd o'i le, mae cyllid hir dymor yn caniatáu amser a lles i ail-grwpio ac ailystyried pan fydd hyn yn digwydd
  • Mae gofod ac amser i ddysgu a myfyrio'n hanfodol i lwyddiant ond peidiwch â disgwyl y bydd hyn yn creu canlyniadau dros nos
  • Dylai gweithio seiliedig ar le arwain at newidiadau yn y ffordd y mae arianwyr yn gweithio, gan gynnwys eu prosesau mewnol

Parhewch i chwilio am newid

  • Gall hyd y grant deimlo fel 'amser hir' a 'dim amser o gwbl' i gyd ar yr un pryd, felly gall cadw llygad allan am arwyddion o newid a'u nodi helpu cynnal momentwm a lleihau pwysau
  • Gall gwrando ar y rhai sydd agosaf at y materion a lleoedd rydych yn cydweithio â nhw ddatgelu persbectifau newydd a'ch helpu blaengynllunio
  • Nododd Sefydliad Joseph Rowntree mai bod yn ‘frocer gonest’ oedd eu cryfder, gan ganiatáu iddynt alluogi sgyrsiau na fyddent wedi digwydd fel arall