National Prison Radio

National Prison Radio, a redir gan Prison Radio Association (mewn partneriaeth â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Mawrhydi (HMPPS), oedd yr orsaf radio genedlaethol gyntaf yn y byd i bobl yn y carchar. Yn ystod y pandemig, mae wedi parhau i ddarlledu 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos, i gynulleidfa o dros 80,000 o bobl ar draws mwy na 100 o garchardai yng Nghymru a Lloegr.

Dyma'r Rheolwr Gwybodaeth a Dysgu Zoë Anderson yn clywed gan Tim Colman, cyfarwyddwr datblygu PRA, am sut mae ei wasanaeth wedi cefnogi carcharorion cyn ac ar ôl yr argyfwng.

Cyn y pandemig

Dechreuodd National Prison Radio yn 2009, gan ddilyn prosiectau graddfa fach mewn carchardai unigol. Mae ganddo stiwdios mewn dau garchardy, HMP Brixton yn London a HMP Styal, carchardy menywod yn Swydd Gaer. Mae tîm o gynhyrchwyr proffesiynol yn gweithio o'r stiwdios hyn bob dydd, gan greu cynnwys ochr yn ochr â thîm o garcharorion.

Mae'r gwasanaeth ar gael trwy'r teledu yn y cell - sy'n golygu ei fod ar gael dim ond i'r rhai sy'n cyflawni dedfryd, nid i staff. “Mae wedi mynd yn golofn ganolog bywyd yn y carchar,” esboniodd Tim. Mae'n ffynhonnell gwybodaeth ac adloniant bwysig, ac yn ffordd o leihau unigrwydd.

Cyn y pandemig, gwrandawodd 75% o bobl yn y carchar ar yr orsaf, gydag ychydig o dan hanner yn tiwnio i mewn bob dydd. Mae pobl yn gwrando ar ddeg a hanner i 11 o oriau bob wythnos ar gyfartaledd: “Mae wedi'i ymwreiddio'n ddwfn yn llif dyddiol yr amserlen garchar.” Cefnogwyd y prosiect gan grant o £237,278 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn 2010, wedi'i ddilyn gan grant Ymateb Covid-19 o £88,941.

"Rydym yn elusen ond rydym yn ystyried ein bod yn gwmni cynhyrchu annibynnol hefyd," mae Tim yn esbonio. Mae gwaith PRA, sydd wedi ennill gwobrau llu, yn cynnwys rhaglenni dogfen i Radio'r BBC, podlediadau, ffilmiau byrion a hysbysebion i'r sector gwirfoddol, ond National Prison Radio yw ei brif ffocws. Fel gorsaf radio fasnachol, mae'n cynnwys amserlen amrywiol, o'r sioe frecwast - Porridge – i raglenni cerddoriaeth arbennig a rhaglen sylweddol o gynnwys llafar.

Ymysg y prif themâu mae addysg, sgiliau a chyflogaeth, iechyd meddyliol a chorfforol a llesiant, ynghyd â rhoi sylw i newidiadau yn y system cyfiawnder troseddol. “Mae llawer ohono'n ymwneud â diweddaru pobl am beth sy'n digwydd a sut y gall hynny effeithio arnynt," meddai Tim.

Mae'r orsaf yn gweithio gyda thua 200 o bartneriaid bob blwyddyn, o elusennau i adrannau'r llywodraeth, gan amlygu gwasanaethau a chefnogaeth. Mae'n cynnig ysbrydoliaeth hefyd, ac yn edrych ar beth sy'n achosi i bobl fod yn y carchar. Mae modelau rôl yn arbennig o bwysig, "goleuadau disglair positif, a all ddweud, 'Rwy'n gwybod bod popeth i'w weld yn amhosib ar hyn o bryd - ond roeddwn i'n gallu goresgyn camddefnyddio sylweddau, neu ailadeiladu perthnasoedd cadarnhaol gyda fy nheulu, er i hynny ymddangos yn amhosib pan ddechreuais fy nedfryd'.

“Mae newyddiaduriaeth sy'n canolbwyntio ar ddatrysiadau'n llinell trwodd go iawn. Rydym yn archwilio'r ymatebion i faterion cymdeithasol yn hytrach na ffocysu ar y problemau yn unig. Mae'n ddull mwy defnyddiol, rhagweithiol a grymusol, ac yn helpu i yrru dinasyddiaeth fwy effeithiol. Ac rydym yn rhoi pwyslais enfawr ar ddysgu o bobl sydd â phrofiad o lygad y ffynnon - yr arbenigwyr go iawn ar y carchar."

Mae modelau rôl yn arbennig o bwysig, "goleuadau disglair positif, a all ddweud, 'Rwy'n gwybod bod popeth i'w weld yn amhosib ar hyn o bryd - ond roeddwn i'n gallu goresgyn camddefnyddio sylweddau, neu ailadeiladu perthnasoedd cadarnhaol gyda fy nheulu, er i hynny ymddangos yn amhosib pan ddechreuais fy nedfryd'.
Tim Colman, Prison Radio Association

Ymateb i Covid-19

Ychydig cyn y cyfnod clo, tynnodd y prosiect ei staff allan o'r carchar. “Mae'r rheiny yn sefyllfaoedd gweithio bach ac agos. Roedd yn dechrau teimlo'n anniogel." Golygodd y symudiad i weithio o gartref fod angen darparu cyfarpar. “Roeddem yn gallu sicrhau bod gennym orsaf radio 24 awr o hyd.”

Mae'r orsaf yn ymfalchïo mewn darparu llais awthentig. Roedd cael eu gwahanu o'u cydweithwyr yn y carchar yn her ddifrifol: "Rydym yn creu radio i garcharorion gan garcharorion, ac rydym wedi colli elfen o hynny." Yn lle, fe aethant at gyn-gydweithwyr a oedd wedi parhau â'u diddordeb mewn radio ar ôl gadael y carchar. “Roeddem yn gallu defnyddio rhwydwaith o bobl yr ydym wedi gweithio gyda nhw yn y carchar, sydd bellach yn bwrw 'mlaen gyda'u bywydau, gan ennyn eu diddordeb eto a rhoi cyfle iddynt ehangu eu profiad.”

Ar ôl i'r cyfnod clo ddechrau, mewn rhai achosion roedd carcharorion yn treulio cymaint â 23 awr y dydd yn eu celloedd i ostwng rhyngweithio a'r risg o haint. Cafodd addysg a gweithgareddau eu stopio neu eu cyfyngu'n sylweddol. Ni chaniatawyd ymweliadau teulu mwyach "sy'n destun rhwystredigaeth a dicter a thristwch go iawn. Roeddem yn ymwybodol iawn o'r peryglon - a fydd rhyw fath o helynt, ydy hyn yn mynd i ferwi drosodd?"

Ar draws yr amserlen gyfan, maent wedi gweithio i fynd i'r afael â hynny. “Rydym yn darlledu llawer o gynnwys sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, ymwybyddiaeth ofalgar, straen - ceisio delio â'r gorbryderon hynny.” Mae gwybodaeth yn hanfodol, gan ddiweddaru gwrandawyr am y pandemig ac am beth oedd yn digwydd yn y system garchar." Maent yn cydweithio'n agos â'r gwasanaeth carchar a'i dîm cyfathrebu. “Rydym yn cwrdd bob wythnos: dyma beth sy'n digwydd, dyma'r neges y mae angen i ni ei chyfleu, dyma beth sy'n newid."

Mae ganddynt gysylltiadau cadarnhaol â'r gwasanaeth carchar, ac yn cynnal annibyniaeth olygyddol ar yr un pryd. Bob wythnos, mae NPR yn darlledu sesiwn cwestiwn ac ateb gyda Phil Copple, cyfarwyddwr cyffredinol y gwasanaeth carchar, gyda chwestiynau heb eu sensro'n cael eu cyflwyno gan garcharorion. Mae'n ymwneud â rhannu gwybodaeth, ond hefyd rhoi ymdeimlad o asiantaeth i bobl. “Dyma ffactor pwysig iawn, i deimlo bod rhywun yn gwrando arnoch chi, bod eich pryder yn cael ei glywed.”

Mae cynnwys cerddoriaeth rheolaidd yn ffurf arall ar gefnogaeth. “Ni allwch chi orddatgan pwysigrwydd y rhaglenni cerddoriaeth. Mae'n darparu adloniant, mae'n ffordd i bobl ymlacio. Mae'r ffordd y mae ein hamserlen wedi'i strwythuro, gyda'r rhaglenni cerddoriaeth, a'r lleisiau cyfarwydd, i gyd yn helpu i liniaru teimladau o rwystredigaeth, unigrwydd a gofid."

Negeseuon: cysylltiadau yn ystod y cyfnod clo

Wrth i sianelau eraill gau, mae'r orsaf wedi cynnig cyfle i wrandawyr gysylltu ag eraill, o fewn y carchar a'r tu allan iddo. Y sioe Family and Friends wythnosol yw'r unig raglen sydd ar gael y tu allan i'r carchar. Gall carcharorion a'r rhai ar y tu allan anfon ceisiadau am ganeuon a negeseuon: gall y naill ochr a'r llall wrando a chysylltu.

"Yr eiliad y sylweddolom fod carchardai o dan gyfyngiadau llym, gwnaethom gynyddu'r rhaglenni, gan wneud dwy sioe yr wythnos. Mae'r sioe honno a rhai o'r sioeau mewnol wedi cael gorlif o geisiadau." Ar draws yr amserlen, mae rhannu negeseuon wedi bod yn beth mawr. Yn yr wythnos ymwybyddiaeth iechyd meddwl, rhannodd gwrandawyr storïau a cheisiadau am ganeuon gysylltiedig â charedigrwydd. Gan gydweithio ag Ymddiriedolaeth Butler, rhedodd yr orsaf ymgyrch "arwyr cudd", a ofynnodd i bobl enwebu staff carchardai. “Pan glywais amdano'n gyntaf, meddyliais y gallai fod adlach - ond fe gawsom ymateb anhygoel. Roedd llawer o staff yn ddiolchgar iawn am y risg yr oedd staff y carchar yn ei chymryd, gan ddod i mewn bob dydd mewn sefyllfa beryglus."

Canolbwyntiodd ymgyrch arall ar newidiadau polisi. “Dywedon ni, ‘Dychmygwch mai chi yw pennaeth newydd y gwasanaeth carchar, pa newidiadau yr hoffech chi eu gweld?’” Roedd yr ymatebion yn bwrpasol ac yn feddylgar: “Llawer o syniadau cadarnhaol a synhwyrol iawn. ‘Allwn ni gael fideo-gynadledda, i gadw mewn cysylltiad â theuluoedd trwy'r amser?’”

Mae adborth gan wrandawyr yn cadarnhau pa mor bwysig mae hyn. Pan fu'n anos casglu llythyrau o garchardai yn ystod y cyfnod clo, sefydlodd NPR wasanaeth llaisbost y gall pobl ei ffonio am ddim. Mae wedi derbyn mwy na 10,000 o negeseuon yn ystod y tri mis cyntaf gyda'r mwyafrif llethol yn teimlo'n gadarnhaol am y gwasanaeth.

“Hyd yn oed os ydym yn gofyn i bobl am gyfraniadau penodol at ymgyrch bolisi, mae llawer o bobl yn crybwyll pwysigrwydd beth rydym yn ei wneud fel rhan o'u hymateb - gan ddweud diolch am NPR, rydych chi wedi bod yn ein cadw'n gall, yn ein difyrru ni. Mae'n rhaid i bobl fynd allan o'u ffordd, ciwio i fyny, mynd ar y ffôn, gadael neges. Mae'n ymdrech. Rydyn ni bob amser wedi cael cysylltiad â'n cynulleidfa ac ymateb da ganddynt, ond dros y misoedd diwethaf mae'r gwaith wedi teimlo'n bwysig iawn ac yn hanfodol."

Llais i'r sector

Oherwydd bod mynediad i garchardai wedi mynd mor gyfyngedig, mae National Prison Radio wedi mynd yn ffordd i elusennau gadw mewn cysylltiad â'u defnyddwyr gwasanaeth. “Rydym wedi medru cymryd eu gweithdy a gwneud rhaglen radio amdano. Rydyn ni wedi gweithio gydag elusennau bach i gyfleu'r neges - 'Allwn ni ddim ddod i mewn ar hyn o bryd, ond rydym yn meddwl amdanoch chi, rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda chi eto.'"

Golygodd grant Covid-19 y Gronfa y gallent fforddio blaenoriaethu'r gwaith hwn. "Doedden ni ddim eisiau dal y sector yn wystl - 'Mae hysbyseb yn costio hyn a hyn' - gan i ni wybod bod cyllid pobl yn dynn. Rydym ni wedi medru bod yn gyfaill i'r sector, gan ddweud, 'Peidiwch â phoeni am hynny, mae'n bwysicach na bod ni'n cael arian nad oes gennych ohonoch chi.' Mae'r arian wedi bod yn llinell fywyd i ni, ond rwy'n credu bod y buddion i'r sector wedi bod yn enfawr: gallem ragori ar hynny a gwneud gwaith ychwanegol.

Maen nhw'n adeiladu ar y gwaith gyda chydweithwyr sydd wedi gadael y carchar hefyd, gan anelu at gynyddu cyfle mewn darlledu. “Yn bennaf, mae'r bobl sy'n gweithio gyda ni yn Brixton yn BAME [Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig]. Mae gan y sector radio ehangach broblem go iawn gydag amrywiaeth. A allwn ni fod yn rym cadarnhaol ac aflonyddgar hefyd? Pa gyfleoedd pellach y gallwn eu darparu i bobl sydd â diddordeb mewn dilyn hwn fel opsiwn gyrfaol?"

Wrth edrych tuag at y dyfodol, mae Tim yn gweld cyfle i herio darlledwyr prif-ffrwd. "Rydym yn gwneud radio ansawdd uchel pwerus iawn, gyda phobl sydd wedi cael profiad cythryblus penodol iawn, sydd wedi bod yn y carchar, sydd wedi cael magwraeth wahanol iawn i rai o'r bobl sy'n gwneud radio dros y sefydliadau hynny ar hyn o bryd. Felly rydym mewn sefyllfa dda i ddweud, mae'r ansawdd yn bodoli. Gallwn ddarparu persbectif unigryw ar rai materion allweddol. Mae gennym lasbrint y gallwch ei ddilyn."

Rydym yn gwneud radio ansawdd uchel pwerus iawn, gyda phobl sydd wedi cael profiad cythryblus penodol iawn, sydd wedi bod yn y carchar, sydd wedi cael magwraeth wahanol iawn i rai o'r bobl sy'n gwneud radio dros y sefydliadau hynny ar hyn o bryd. Felly rydym mewn sefyllfa dda i ddweud, mae'r ansawdd yn bodoli. Gallwn ddarparu persbectif unigryw ar rai materion allweddol. Mae gennym lasbrint y gallwch ei ddilyn.
Tim Colman, Prison Radio Association