Ciara Lawrence and Edel Harris, Mencap UK (easy read)

Ciara Lawrence
Person yn eistedd dan do ar ben ei hunan

Mae Covid-19 wedi bod yn anodd i bawb. Ond mae wedi bod yn wirioneddol anodd i nifer o bobl ag anabledd dysgu.






Zoe Anderson

Zoë Anderson ydw i o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.








Person gyda swigen meddwl

Roeddwn eisiau gwybod mwy am yr hyn sy’n digwydd i bobl ag anabledd dysgu yn ystod Covid-19 a sut y gallwn helpu.








Bag yn llawn o arian

Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol eisoes wedi helpu.

Roedden ni wedi rhoi £100,000 i brosiect Mencap o’r enw Home Not Alone yn Lloegr.









Sgrîn cyfrifiadur yn dangos pobl yn gwneud galwad fideo, gyda’r logo Skype

Mae’r prosiect yn helpu stopio pobl rhag bod yn unig.

Mae’n helpu pobl i gwrdd a gwneud pethau ar y rhyngrwyd.








Dynes yn edrych ar sgrîn ei ffôn ac yn codi llaw i ddweud helo. Swigen testun yn dangos dynes arall yn edrych ar ei ffôn, gyda’r gair helo

Yng Ngogledd Iwerddon mae’r arian wedi helpu pobl ag anabledd dysgu i gael cefnogaeth gartref yn ystod Covid-19.









Logo Mencap

Siaradais gydag Edel Harris a Ciara Lawrence o Mencap i ganfod mwy am yr hyn a all helpu.



Helpu pawb i ddeall rheolau Covid-19

Dyn yn eistedd ar ben ei hunan mewn ystafell wag

Dywedodd Ciara o Mencap fod nifer o bobl ag anabledd dysgu wedi cael eu hanghofio yn ystod Covid-19.








Dyn yn darllen dogfen. Mae ef yn crafu ei ben ac yn edrych yn ddryslyd. Mae marc cwestiwn wrth ei ymyl

Dywedodd fod llawer o wybodaeth wedi bod yn anodd i bobl ag anabledd dysgu i’w deall.









Dynes yn edrych yn ddryslyd ac yn crafu ei phen. Mae marc cwestiwn wrth ei hymyl

Ac nid yw nifer o bobl ag anabledd dysgu wedi cael eu cefnogaeth arferol.

Mae hyn yn golygu nad ydynt wedi cael pobl i’w helpu i wybod beth i’w wneud.





Siart o haenau coronafeirws 1 i 4, gyda delweddau o’r feirws

Mae wedi bod yn anodd hefyd gan fod y rheolau Covid-19 yn newid yn gyson.









Ciara Lawrence

Mae anabledd dysgu gan Ciara.

Dywedodd ei bod wedi canfod y rheolau yn anodd i’w deall i gychwyn.

Roedd rhaid iddi ofyn i’w mam am help.




Beth all helpu?

Dynes yn dal papur, sy’n dweud Eich Apwyntiad Brechu

Roeddwn wedi canfod fod gwybodaeth eglur am Covid-19 a’r hyn i’w wneud yn wirioneddol bwysig.






Grŵp o bobl yn eistedd o amgylch bwrdd

Mae Mencap a sefydliadau eraill wedi gwneud ychydig o waith da ar hyn.

Maen nhw wedi gweithio gyda’i gilydd i lunio ychydig o wybodaeth hawdd i’w deall am Covid-19.





Tri o bobl yn edrych ar bapur. Maen nhw’n gwenu ac yn gwneud arwydd bodiau i fyny

Roedd Ciara hyd yn oed wedi sefydlu grŵp deunyddiau hawdd i’w darllen yn Mencap.

Roedd y grŵp wedi edrych ar lawer o wybodaeth am Covid-19.

Roedden nhw wedi ystyried sut i’w wneud yn well i bawb.




Dynes yn rhoi papur i’r ail ddyn. Mae’r ddau yn gwenu.

Dywedodd Ciara fod y grŵp deunyddiau hawdd i’w darllen wedi gwneud gwaith gwych.

Dywedodd rhai teuluoedd fod y grŵp gwybodaeth wirioneddol wedi helpu.


Gweithio gyda’n gilydd

Edel Harris

Mae Edel yn uwch bennaeth Mencap.

Dywedodd ei bod yn bwysig fod gwahanol sefydliadau yn gweithio gyda’i gilydd pan fo problem fel Covid-19.






Dynes gyda golwg meddylgar ar ei hwyneb. Mae swigen meddwl dros ei phen

Dywedodd fod Covid-19 wedi helpu Mencap hefyd i feddwl mwy am y dyfodol a’r hyn sydd angen iddynt ei wneud.







Pump o bobl yn eistedd gyda’i gilydd ac yn siarad

Mae Mencap yn gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd.

Maen nhw’n edrych ar sut y gall pawb ag anabledd dysgu gael bywyd hapus ac iachus.




Gwrando ar bobl ag anabledd dysgu

Dynes a dyn yn edrych ar bapur gyda’i gilydd. Mae ef yn pwyntio at y papur ac mae hi’n siarad

Dywedodd Ciara mai’r hyn sydd bwysicaf yw gwrando ar bobl ag anabledd dysgu fel hi.






Dau o bobl yn ysgwyd llaw dros fat Croeso

Dywedodd Ciara y dylai pobl gwrdd â phobl ag anabledd dysgu a chlywed yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud.






Grŵp o bobl yn gwenu. Maen nhw o wahanol oedrannau ac yn cael anableddau gwahanol

Bydd hyn yn helpu pobl i ddeall pobl ag anabledd dysgu.

Ac fe fydd yn helpu pobl ag anabledd dysgu i ddangos yr hyn y gallant ei wneud.

Yna gallwn oll weithio gyda’n gilydd, dywedodd Ciara.