Gweithrediad cymunedol i’r amgylchedd

Alley Pals

Beth rydym wedi’i ddysgu?

Gall cefnogi'r amgylchedd sicrhau cyd-fanteision pwysig

  • Mae'r rhain yn cynnwys: mwy o weithgarwch corfforol, llai o lygredd aer, cysylltiad â natur, tyfu a bwyta bwyd ffres, a gwneud cartrefi'n gynhesach ac yn Iachach.
  • Gall camau amgylcheddol hefyd greu manteision personol diriaethol, megis arbed arian, ennill gwybodaeth a sgiliau, a mwy o ymdeimlad o berthyn a chysylltiad – yn ogystal â lleihau gwastraff ac allyriadau CO2.
Dwi wedi dysgu dwi'n gallu gwneud gwahaniaeth [...] y gallwn ni wneud gwahaniaeth.
Cyfranogydd, PACT Manor House

Meddyliwch yn fyd-eang, gweithredu'n lleol" yn dal i daro deuddeg

  • Gall pobl a chymunedau wneud gwahaniaeth ac maent yn gwneud hynny.
  • Mae ein deiliaid grantiau wedi dangos sut y gallant arwain ac ysbrydoli newid ymddygiad, gan gynnig atebion personol ar gyfer problemau a all ymddangos yn frawychus o fawr a haniaethol.
  • Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod na all cymunedau wneud hynny ar eu pen eu hunain, gan fod angen y seilwaith cywir arnynt i gefnogi'r newidiadau hynny.

Gwnewch yn hawdd a’n bersonol

  • Dechrau'n fach, a gwneud gweithredu amgylcheddol yn hawdd ac yn ddeniadol
  • Ei gysylltu â gwerthoedd a chredoau personol pobl.
  • Mae ein deiliaid grantiau wedi canfod y gall dangos a rhannu'r hyn rydych wedi'i gyflawni greu naratif cadarnhaol. Gall gweld y gwahaniaeth rydych chi wedi'i wneud – ac yn enwedig y gwahaniaeth rydych chi wedi'i wneud gyda'ch gilydd – ysgogi camau pellach a mwy o newid.

Pwysigrwydd cymuned

  • Gall apelio at ymdeimlad pobl o gymuned fod yn fwy effeithiol nag apêl benodol i argyfwng yr hinsawdd.
  • Gall gweithio ar lefel leol greu rhwydweithiau lle mae pobl yn parhau â'u hymrwymiad am eu bod yn teimlo eu bod yn berchen ar eu cymdogion ac yn atebol iddynt.
Mae gwneud y cysylltiad rhwng tyfu bwyd yn eich gardd a phethau y gallech eu taflu allan yn y pen draw yn eithaf diddorol. Os ydw i'n tyfu pethau yma, yn bendant dydw i ddim eisiau ei daflu allan.
Aelod, Cynllun Edinburgh Garden Share

Croesawu a galluogi amrywiaeth

  • Mae mudiad amrywiol a chynhwysol yn helpu i fynd i'r afael â'r dybiaeth bod gweithredu amgylcheddol yn anghymesur o wyn a dosbarth canol.
  • Mae'n hanfodol cydnabod y cyfraniad y mae llawer o bobl o gymunedau Pobl Dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn ei wneud drwy fyw bywydau gwyrdd.
  • Mae addasiadau ymarferol fel talu cyflog byw a sicrhau bod lleoliadau awyr agored yn gwbl hygyrch i bobl ag anableddau yn ffyrdd pwysig o wneud y mudiad yn fwy cynhwysol.
  • Ac yn ogystal â chefnogi prosiectau gwyrdd, rydym wedi ariannu a byddwn yn parhau i ariannu ffyrdd i'n holl ddeiliaid grantiau wneud eu gwaith yn fwy cynaliadwy.