2023/24 Mynegai Ymchwil Cymunedol

Uchafbwyntiau’r ymchwil

  • Mae pobl yn teimlo'n rhan o'u cymuned ledled y DU. Dywedodd o leiaf chwech o bob deg o bobl (61%) eu bod yn teimlo'n rhan o'u cymuned leol, ledled y DU ac ym mhob gwlad unigol.
  • Mae hanner y bobl yn bwriadu gwirfoddoli. Dywedodd y mwyafrif (64%) o bobl wrthym eu bod yn fodlon gweithio gydag eraill i wella eu hardal leol, gyda hanner (50%) yn bwriadu gwirfoddoli yn 2024.
  • Mae pobl yn teimlo'n gadarnhaol am eu cymunedau. Rhoddodd yr ymatebwyr sgôr ffafriol i'w hardaloedd lleol mewn categorïau gan gynnwys mynediad i fannau gwyrdd (80%), ansawdd bywyd cyffredinol (70%), a chyfleoedd addysg (68%).
  • Mae cymunedau wedi’u cymell i fynd i'r afael ag effeithiau newid hinsawdd. Dywedodd hanner (50%) wrthym eu bod yn teimlo cymhelliant personol i ymgysylltu â gweithredu hinsawdd, a dywedodd cyfran debyg wrthym eu bod yn optimistaidd bod modd atal yr effeithiau tymor hir gwaethaf o hyd (48%).
  • Mae pobl yn glir ynghylch eu blaenoriaethau i helpu ardaloedd 'ffynnu'. Dywedodd y mwyafrif o bobl wrthym eu bod am weld mwy o fynediad at dai fforddiadwy (58%) a llai o dlodi ac amddifadedd (57%).
  • Ymateb i gostau byw cynyddol yw'r brif flaenoriaeth ar gyfer lles cymunedol. Pan ofynnwyd beth oedd bwysicaf ar gyfer lles cymunedol, tair prif flaenoriaeth pobl oedd cymorth gyda'r cynnydd mewn costau byw (30%), gofalu am ei gilydd (25%), lleihau unigrwydd (23%), ac atal trais ymhlith pobl ifanc (20%).