2022/23 Community Research Index

Uchafbwyntiau

  • Mae pobl ifanc (18-34 oed) yn fwy tebygol o deimlo’n rhan o’u cymuned na phobl dros 35 oed, yn fwy tebygol o gredu fod hyn yn bwysig, a mwyaf tebygol o ddweud eu bod yn bwriadu gwirfoddoli eleni.
  • Banciau bwyd (42%), sy’n cefnogi pobl hŷn (35%) ac yn cefnogi pobl ifanc (25%) oedd ymysg y meysydd mwyaf poblogaidd a ddewiswyd gan bobl sy’n bwriadu gwirfoddoli, sy’n dangos bod cymunedau’n adnabod lle mae’r angen am gefnogaeth ar ei fwyaf.
  • Roedd mwy o bobl (42%) yn teimlo bod pandemig COVID-19 wedi cryfhau ysbryd cymunedol na’i wanhau (18%), sy’n dangos sut rydym ni’n dod ynghyd yn ystod argyfwng.
  • Roedd pobl yn tueddu meddwl bod eu cymunedau’n gwneud yn dda o gymharu ag eraill o ran cyfleusterau addysg (72%), mannau cymunedol (71%), ansawdd bywyd (70%) a lles (62%), ymysg meysydd eraill. Mae hyn yn dangos bod cymunedau ledled y DU yn gweld pethau cadarnhaol a chryfderau yn eu hardaloedd lleol, er gwaethaf yr heriau y gallent godi yn ystod 2023.
  • Cefnogaeth gyda chostau byw cynyddol yw un o brif flaenoriaethau pobl eleni. Maen nhw’n disgwyl i’r galw am fanciau bwyd, elusennau cyngor ariannol a gwasanaethau tai fod yn uchel. Dywedodd y rhan fwyaf ohonynt eu bod wedi lleihau eu gwariant yn barod, mae mwy na thraean (41%) wedi ymdopi heb wres, mae tri o bob deg (28%) wedi hepgor prydau bwyd, ac mae chwarter (25%) wedi benthyg arian gan ffrindiau neu aelodau o’r teulu.