
Y Cinio Mawr: 1-2 Mehefin
Ym mis Chwefror 2018 fe ymrwymom bron £8 miliwn gan y Loteri Genedlaethol i fenter pedair blynedd ar y cyd gyda Phrosiect Eden.
Mae'r cyllid yn cefnogi dau ddigwyddiad nodedig, Y Cinio Mawr ac Y Daith Fawr, a fydd yn cysylltu dros 10 miliwn o bobl â'u hardaloedd lleol ac yn taflu goleuni ar gryfder cymunedau ar draws y Deyrnas Unedig.
Gwlad Fach o Giniawau Mawr
Mae'r Cinio Mawr yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau gwib ar draws y Deyrnas Unedig gan arddangos model gwlad fach ryngweithiol o Giniawau Mawr i hysbysebu'r digwyddiad gwych hwn a ariennir gan y Loteri Genedlaethol.
Mae'r model gwib wedi'i ddylunio i godi ymwybyddiaeth o beth yw amcan Y Cinio Mawr, helpu pobl leol i ddeall pa mor hawdd y mae i gymryd rhan a dangos sut y gallai cymryd rhan yn y digwyddiad helpu trawsnewid bywydau.
Bydd y model yn dangos trefi a dinasoedd lle mae Ciniawau Mawr go iawn wedi digwydd a bydd ymwelwyr â'r stondin yn gallu gwrando ar glipiau fideo o bobl sydd wedi cymryd rhan.
Beth yw amcan y rhaglen?
Mae'r Cinio Mawr yn ddigwyddiad blynyddol a ariennir gan y Loteri Genedlaethol ar draws y Deyrnas Unedig sy'n dod â phobl a chymunedau ynghyd.
Mae'r cysyniad yn syml iawn. Ar benwythnos cyntaf mis Mehefin, mae'r Cinio Mawr yn annog pobl i eistedd i lawr a chael cinio gyda'u cymdogion.

Y llynedd cymerodd dros 6 miliwn o bobl ran ar draws y Deyrnas Unedig, crëwyd dros 4.5 miliwn o ffrindiau newydd a chodwyd bron £8 biliwn yn organig gan gyfranogwyr dros elusennau, rhai lleol yn bennaf, sy'n bwysig iddynt. Y nod yw ysbrydoli 20 miliwn o bobl i gymryd rhan yn Y Cinio Mawr erbyn 2020.
Nod y Cinio Mawr, sef ymgynulliad cymdogion mwyaf y Deyrnas Unedig, a'r Daith Fawr, yw gwella hapusrwydd a lles pobl ar draws y Deyrnas Unedig trwy helpu adeiladu cymunedau cryfach sydd â chysylltiadau gwell. Mwy o wybodaeth