Datgan diddordeb yn y grant i Gefnogi deiliaid grant Meithrin Natur

Cyn i chi anfon eich datganiad o ddiddordeb atom

Rhaid i chi gysylltu â ni i gael sgwrs am eich syniad:

Anfon eich mynegiant o ddiddordeb atom

Os ydych chi'n addas i wneud cais, rhaid i chi anfon yr wybodaeth isod atom drwy e-bost.

Eich syniad chi

Dywedwch wrthym:

  • enw eich prosiect
  • lleoliad y prosiect
  • faint o arian sydd ei angen arnoch chi
  • beth fyddwch chi'n defnyddio'r arian ar ei gyfer
  • gyda phwy fyddwch chi'n gweithio
  • pa fath o weithgareddau y gallech chi eu cynnal i gefnogi partneriaethau a ariennir gan Meithrin Natur

Eich profiad

Dywedwch wrthym am eich gwaith gyda:

  • phlant dan 5 mlwydd oed
  • natur a'r amgylchedd
  • iechyd a lles
  • arferion diogelu, yn enwedig ar gyfer plant dan 5 mlwydd oed

Rydyn ni eisiau gwybod am y gwaith rydych chi wedi'i wneud yn y meysydd hyn ledled Cymru.

Dywedwch wrthym am eich profiad o helpu sefydliadau eraill gyda:

  • meithrin capasiti. Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn enghreifftiau o brosiectau tebyg rydych chi wedi'u cynnal gyda sefydliadau blynyddoedd cynnar, amgylcheddol neu iechyd a lles
  • cyd-gynhyrchu gyda phlant dan 5 oed a'u gofalwyr
  • dylunio a gofalu am fannau awyr agored sy'n fuddiol i bobl a natur
  • gwerthuso a rhannu eu dysgu
  • gweithio mewn partneriaethau
  • gweithio'n ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg
  • gweithio ledled Cymru

Eich sefydliad

Dywedwch wrthym:

  • enw eich sefydliad
  • cyfeiriad eich sefydliad
  • y math o sefydliad ydyw
  • pa sgiliau a phrofiad sydd gan eich sefydliad i gyflawni'r gwaith hwn