Rhaglenni ariannu

Ariannu, Rhaglenni ariannu, Grantiau dros £20,001, Cymru

Cymru

  1. Pawb a'i Le: grantiau canolig

    Hoffem helpu cymunedau yng Nghymru gyda'r materion sydd bwysicaf iddyn nhw. Rydym yn ariannu prosiectau sy'n cynnwys y gymuned ac a fydd yn adeiladu ar eu sgiliau a'u profiadau. Gall yr arian hwn dalu am gostau cyfalaf neu eich helpu i gynllunio gwaith tir neu adeiladu.

    Ardal
    Cymru
    Yn addas ar gyfer
    Sefydliadau gwirfoddol, sefydliadau cymunedol neu sefydliadau'r sector cyhoeddus
    Maint yr ariannu
    £20,001 i £100,000, am hyd at bum mlynedd
    Cyfanswm ar gael
    £20 miliwn ar gyfer 2024 - 2025
    Terfyn amser ymgeisio

    Parhaus

  2. Pawb a'i Le: grantiau mawr

    Hoffem helpu cymunedau yng Nghymru gyda'r materion sydd bwysicaf iddyn nhw. Rydym yn ariannu prosiectau sy'n cynnwys y gymuned ac a fydd yn adeiladu ar eu sgiliau a'u profiadau.

    Ardal
    Cymru
    Yn addas ar gyfer
    Sefydliadau gwirfoddol, sefydliadau cymunedol neu sefydliadau'r sector cyhoeddus
    Maint yr ariannu
    £100,001 i £500,000, am hyd at bum mlynedd
    Cyfanswm ar gael
    £20 miliwn ar gyfer 2024 - 2025
    Terfyn amser ymgeisio

    Parhaus

  3. Cefnogi syniadau gwych

    Trwy ein rhaglen ariannu Cefnogi syniadau gwych yng Nghymru rydym yn gwneud grantiau i gefnogi syniadau am brosiectau sy'n arloesol a phwysig yn strategol sy'n annog newidiadau cymdeithasol cadarnhaol yng Nghymru.

    Ardal
    Cymru
    Yn addas ar gyfer
    Sefydliadau gwirfoddol/cymunedol a chyrff statudol
    Maint yr ariannu
    £20,001 a throsodd
    Cyfanswm ar gael
    Hyd at £2 filiwn yn ystod y flwyddyn ariannol hon
    Terfyn amser ymgeisio

    Dim dyddiad cau

  4. Meithrin Natur

    Nod y rhaglen ariannu hon yw gwella iechyd a lles plant a'u gofalwyr yng Nghymru.

    Ardal
    Cymru
    Yn addas ar gyfer
    Partneriaethau. Gall y rhain gynnwys sefydliadau gwirfoddol, cymunedol, sector cyhoeddus a sector preifat.
    Maint yr ariannu
    Hyd at £25,000 ar gyfer y grant datblygu. Hyd at £2 filiwn, am hyd at 6 blynedd i gyflawni eich prosiect.
    Cyfanswm ar gael
    Hyd at £10 miliwn
    Terfyn amser ymgeisio

    12pm, 1 Rhagfyr 2025

  5. Cefnogaeth i ddeiliaid grant Meithrin Natur

    Rydym yn chwilio am sefydliad neu bartneriaeth i gefnogi prosiectau a ariennir gan Meithrin Natur. Rhaid i chi ddeall sut y gall yr amgylchedd naturiol gefnogi iechyd a lles plant.

    Ardal
    Cymru
    Yn addas ar gyfer
    Sefydliadau gwirfoddol, sefydliadau cymunedol neu bartneriaethau
    Maint yr ariannu
    Hyd at £1 miliwn, dros 7 mlynedd
    Cyfanswm ar gael
    £1 million
    Terfyn amser ymgeisio

    12pm, 30 Hydref 2025

Ledled y DU

  1. Cronfa Gweithredu Hinsawdd - Ein Dyfodol Ni

    Ardal
    Ledled y DU
    Yn addas ar gyfer
    Partneriaethau ffurfiol, sy’n gweithio ar draws sectorau a chan gynnwys cynrychiolaeth o’r gymuned. Gallai hyn gynnwys, ond nid yw’n gyfyngedig i, sefydliadau yn y sector cymunedol a gwirfoddol, y sector cyhoeddus, y sector amgylcheddol, neu rhai sydd ag arbenigedd fel adrodd straeon, dysgu ac effaith.
    Maint yr ariannu
    Yr isafswm y gallwch ofyn amdano yw £500,000. Rydym yn disgwyl i'r rhan fwyaf o brosiectau fod rhwng £1 a £1.5 miliwn dros o leiaf 3 i 5 mlynedd. Byddwn hefyd yn ystyried prosiectau mwy neu brosiectau tymor hwy. Os ydych chi am wneud cais am fwy o arian dros gyfnod hirach , dylech chi roi mwy o fanylion i ni yn eich ffurflen gais.
    Terfyn amser ymgeisio

    Byddwch yn gallu gwneud cais tan 17 Rhagfyr 2025.

  2. Cronfa'r Deyrnas Unedig

    Mae Cronfa’r Deyrnas Unedig yn cynnig symiau mwy o arian ar gyfer prosiectau presennol. Byddwn ni’n ariannu prosiectau sy'n helpu i ddod â chymunedau amrywiol at ei gilydd. Byddwn ni hefyd yn ariannu prosiectau sy'n helpu plant a phobl ifanc i ddefnyddio eu llais i ddylanwadu ar newid.

    Ardal
    Ledled y DU
    Yn addas ar gyfer
    Rhaid i chi naill ai weithio ar draws y DU, neu allu hysbysu, dylanwadu neu dyfu ar draws y DU.
    Maint yr ariannu
    £500,000 i £5 miliwn. Mae grant ar gael am 2 i 10 mlynedd. Rydym ni’n disgwyl ariannu tua 20 o brosiectau y flwyddyn.
    Terfyn amser ymgeisio

    Parhaus

  3. Dyfarniadau o Bortffolio’r DU

    Mae'r Portffolio Deyrnas Unedig yn cefnogi syniadau a phrosiectau ar draws y DU. Mae'n profi ac yn tyfu syniadau blaengar sy'n galluogi pobl i arwain ar fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol hir dymor a gwella ansawdd bywyd ar draws y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

    Ardal
    Ledled y DU
    Maint yr ariannu
    Dros £50,000 (Y Gronfa Jiwbilî Platinwm - £30,000 a £50,000)
    Terfyn amser ymgeisio

    Parhaus, ar wahân i Tyfu Syniadau Gwych sydd â dyddiad cau o 5yh ar 23 Tachwedd a Y Gronfa Jiwbilî Platinwm 15 Rhagfyr 2021 am 5yh.

  4. Forces in Mind

    Ardal
    Ledled y DU
    Cyfanswm ar gael
    £35 miliwn
    Terfyn amser ymgeisio

    Dim dyddiad cau

  5. Other National Lottery Funders

    Os nad oes yr un o raglenni presennol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn addas ar gyfer eich prosiect, efallai y bydd un o arianwyr eraill y Loteri yn gallu helpu.

    Ardal
    Ledled y DU
    Yn addas ar gyfer
    Sefydliadau gwirfoddol neu gymunedol, sefydliadau'r sector cyhoeddus, sefydliadau'r sector preifat
    Terfyn amser ymgeisio

    Gwiriwch wefannau arianwyr eraill