Pawb a'i Le
- Lleoliad y prosiect: Cymru
- Swm: £20,001 i £500,000
- Penderfyniad mewn: 40 wythnos
- Statws y rhaglen: Yn agored i geisiadau
Rydym ni am ariannu prosiectau sy'n gweithio'n agos gyda phobl a chymunedau yng Nghymru. Dylai eich prosiect fod yn hygyrch ac ymateb i’r materion sydd bwysicaf i'ch cymuned.
Drwy gymuned rydym ni’n golygu pobl sy'n rhannu hunaniaeth, diddordeb neu brofiad - neu bobl sy'n byw yn yr un lle.
Yn eich ffurflen gais, mae’n rhaid i chi ddangos sut y bydd eich prosiect yn:
- cynnwys eich cymuned wrth ddatblygu, dylunio a chyflawni’r prosiect
- adeiladu ar sgiliau, profiadau a chryfderau eich cymuned
- deall beth sydd eisoes yn digwydd yn lleol, a sut y bydd eich gwaith yn llenwi bwlch
- ystyried ei effaith amgylcheddol, er enghraifft, rhannu cludiant trwy ddefnyddio bws mini yn hytrach na phawb yn teithio ar wahân mewn car
Nodau cymunedol
Mae’n rhaid i’ch prosiect hefyd fodloni o leiaf un o’n nodau. I helpu cymunedau i:
- ddod ynghyd
- helpu plant a phobl ifanc i ffynnu
- galluogi pobl i fyw bywydau mwy iach
- bod yn amgylcheddol gynaliadwy
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’n tudalen nodau.
Dewis y grant cywir i’ch prosiect chi
Gallwch ymgeisio am grant canolig neu grant mawr, yn dibynnu ar faint o arian sydd ei angen arnoch.
Grantiau canolig
Gallwch ymgeisio am rhwng £20,001 a £100,000 i ariannu prosiect sy’n rhedeg am hyd at 5 mlynedd.
Gallwch ddefnyddio’r arian hwn i:
- helpu eich sefydliad i addasu i newid neu heriau
- prynu tir, adeiladau, cerbydau neu dalu am waith adnewyddu (gelwir y rhain yn gostau cyfalaf). Wrth ymgeisio am grant cyfalaf, dylai eich prosiect ddilyn Cynllun Gwaith RIBA a bod ar gam 4 neu’n uwch.
Gallwch hefyd ymgeisio am hyd at £50,000 tuag at gynllunio prosiect cyfalaf. Gall yr arian hwn eich helpu i gael eich prosiect i gam 4 o Gynllun Gwaith RIBA.
Mae grantiau canolig yn defnyddio proses ymgeisio un cam ac fel arfer mae’n cymryd tua 15 wythnos i gael penderfyniad.
Grantiau mawr
Gallwch ymgeisio am rhwng £100,001 a £500,000 i ariannu prosiect sy’n rhedeg am hyd at 5 mlynedd.
Gallwch ddefnyddio’r arian hwn i:
- helpu eich sefydliad i addasu i newid neu heriau
- prynu tir, adeiladau, cerbydau neu dalu am waith adnewyddu (gelwir y rhain yn gostau cyfalaf).
Mae grantiau mawr yn defnyddio proses ymgeisio 2 gam ac fel arfer mae’n cymryd tua 40 wythnos i gael penderfyniad.