Safonau'r Gymraeg
Cafodd Safonau'r Gymraeg eu cyflwyno yn 2015 o dan Fesur y Gymraeg 2011. Maen nhw’n sefydlu fframwaith cyfreithiol sy'n cefnogi defnyddio'r Gymraeg mewn bywyd bob dydd ac yn egluro'r gwasanaethau Cymraeg sydd gan bobl hawl iddynt.
Mesur y Gymraeg
Mae Mesur y Gymraeg 2011 yn sicrhau nad yw'r Gymraeg yn cael ei thrin yn llai ffafriol na'r Saesneg yng Nghymru, ac yn rhoi'r hawl gyfreithiol i bobl ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd os ydynt yn dewis.
O dan y mesur, rhaid i sefydliadau a chyrff cyhoeddus yng Nghymru sy'n derbyn grant ddarparu gwasanaeth dwyieithog. Mae hyn yn cynnwys sefydliadau sy’n cael eu hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Gallwch ddysgu mwy am ein Polisi'r Gymraeg ar gyfer ariannu yma.
Sut rydym ni’n bodloni Safonau'r Gymraeg
Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, rydym ni wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth dwyieithog i bobl yng Nghymru. Rydym ni’n hyrwyddo'r Gymraeg yn weithredol ac yn annog pobl nad ydynt yn siarad Cymraeg i ddysgu. Fe wnaethom ni wneud y canlynol:
- gweithredu llinell ymholiadau wedi'i staffio gan siaradwyr dwyieithog
- sicrhau bod yr holl ganllawiau a deunyddiau cais ar gael yn Gymraeg a Saesneg
- sicrhau bod staff sy'n siarad Cymraeg yn asesu ac yn rheoli grantiau ar gyfer sefydliadau sy'n well ganddynt gyfathrebu yn Gymraeg
Mae Comisiynydd y Gymraeg yn sicrhau bod cyrff cyhoeddus, gan gynnwys Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn cydymffurfio â'r safonau. Ers mis Ionawr 2017, rydym ni wedi gweithio gyda'r Comisiynydd i'w gweithredu.
Mae rhestr o'r Safonau sy’n berthnasol i'r Gronfa yn ein Hysbysiad Cydymffurfio (PDF, 337 KB).
Rydym ni’n cyflwyno adroddiad blynyddol i Gomisiynydd y Gymraeg yn esbonio sut rydym ni’n cydymffurfio â'r safonau. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi unrhyw feysydd lle nad ydym wedi bodloni'r safonau ac yn manylu ar unrhyw gwynion am ein darpariaeth Gymraeg.
Sut mae Safonau'r Gymraeg yn berthnasol i'n gwasanaethau
Mae Safonau'r Gymraeg yn nodi sut y gallwch chi gyfathrebu â ni a pha lefel o wasanaeth y gallwch chi ei ddisgwyl pan fyddwch chi'n dewis defnyddio'r Gymraeg.
Maen nhw hefyd yn arwain sut rydym ni’n monitro, cefnogi a hyrwyddo cydymffurfiaeth â Safonau'r Gymraeg.
Rheoli eich prosiect yn ddwyieithog
Os ydych chi'n gwneud cais am grantiau ar gyfer prosiect i'w gyflwyno yng Nghymru, rhaid i chi ystyried y Gymraeg o'r camau cynharaf o ddatblygu. Mae hyn yn cynnwys:
- ymgynghori â'ch cymuned yn Gymraeg a Saesneg
- cynllunio sut y bydd eich prosiect yn cael ei gyflawni'n ddwyieithog
- cyfrif am unrhyw gostau cysylltiedig o fewn eich cyllideb prosiect
Bydd angen i chi feddwl am gyflwyno’n ddwyieithog cyn i chi gyflwyno'ch cais.
Gallwch ddarganfod mwy am reoli eich prosiect yn ddwyieithog yma.
Creu canllaw prosiect dwyieithog
Rydym ni’n eich annog i gwblhau canllaw prosiect dwyieithog. Mae hyn yn esbonio sut y byddwch chi’n cyflawni eich prosiect yn ddwyieithog a pha wasanaethau fydd ar gael yn Gymraeg. Bydd hyn yn ein helpu wrth asesu eich cais.
Gallwch ddarganfod mwy am Greu Canllaw Prosiect Dwyieithog yma.
Os nad ydych chi'n fodlon â'n gwasanaeth
Rydym ni’n falch o allu darparu gwasanaeth cwbl ddwyieithog yn Gymraeg a Saesneg. Fodd bynnag, rydym ni’n cydnabod weithiau y gall pethau fynd o'i le.
Os hoffech drafod y gwasanaeth rydych chi wedi'i dderbyn yn y naill iaith neu'r llall, anfonwch e-bost atom ar cymorthcymraeg@cronfagymunedolylg.org.uk.
Os ydych chi eisiau gwneud cwyn, darllenwch ein canllawiau ar wneud cwyn am ein gwasanaethau Cymraeg.
Cysylltu â ni
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau Cymraeg, gallwch ein ffonio ar 0300 123 0735 neu e-bostio cymorthcymraeg@cronfagymunedolylg.org.uk.