Camau Cynaliadwy Cymru - Gyrfaoedd Gwyrdd - Caerdydd
- Lleoliad y prosiect: Cymru
- Swm: £300 i £1,800,000
- Penderfyniad mewn: 0 wythnos
- Statws y rhaglen: Yn agored i geisiadau
Mae'r gronfa yn anelu i helpu pobl ifanc (rhwng 16 a 25 mlwydd oed) yng Nghaerdydd mewn i yrfaoedd gwyrdd.
Beth a olygwn wrth yrfaoedd gwyrdd
Wrth yrfaoedd gwyrdd, rydym yn golygu gyrfaoedd sy'n:
lleihau allyriadau carbon
adfer byd natur
ein helpu i addasu i'n hinsawdd newidiol
Gall enghreifftiau o yrfaoedd gwyrdd fod yn unrhyw beth o gynorthwyydd gweinyddol i ymgynghorydd amgylcheddol, i gogydd mewn caffi diwastraff, neu beiriannydd dan hyfforddiant gyda chwmni ynni adnewyddadwy.
Sut rydym eisiau helpu pobl ifanc
Rydym yn ariannu prosiectau sy'n helpu pobl ifanc i:
ddatblygu eu hyder
dysgu sgiliau newydd - gall hyn gynnwys sgiliau cymdeithasol a thechnegol cael profiad gwaith a lleoliadau a all arwain at gyfleoedd tymor hir
Rydym eisiau ariannu prosiectau sy'n canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc o gymunedau lleiafrifiedig ethnig yng Nghaerdydd.
Beth rydyn ni'n ei olygu wrth gymunedau lleiafrifiedig ethnig
Mae cymunedau lleiafrifiedig ethnig yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig, i'r grwpiau canlynol:
Du / Affricanaidd / Caribïaidd
unrhyw gefndir ethnig cymysg/lluosog arall
Asiaidd
Arabaidd
Iddewig
Rydym hefyd yn cynnwys:
Sipsiwn
Roma
Teithwyr
pobl sydd â statws ffoaduriaid neu geiswyr lloches
Gallwch ddarganfod mwy am geiswyr lloches a'u caniatâd i weithio a gwirfoddoli ar wefan GOV.UK
Ein nodau ariannu
Ein nod yw annog amrywiaeth mewn gyrfaoedd gwyrdd drwy gynnig help llaw i'r grwpiau hyn sydd wedi eu tangynrychioli.
I dderbyn grant, rhaid i chi weithio mewn partneriaeth gydag un neu fwy o sefydliadau eraill Gallwn eich helpu i gysylltu gyda sefydliadau eraill sydd â diddordeb.
Pa grantiau sydd ar gael ac am ba hyd
Gallwch wneud cais am:
grant datblygu: £300 i £25,000 i ddatblygu eich cynllun neu syniad prosiect ar gyfer cefnogi pobl ifanc o gymunedau lleiafrifiedig ethnig mewn i yrfaoedd gwyrdd
grant prosiect: £100,000 i £1,800,000 i gyflawni eich syniad neu gynllun
Ni allwch dderbyn grant prosiect heb dderbyn grant datblygu wrthym yn gyntaf.
Os byddwn eisiau i chi gyflawni eich syniad prosiect ar ôl ei ddatblygu, byddwn yn eich gwahodd i wneud cais am grant prosiect.
Gallwn ariannu prosiect am 3 blynedd ac rydym yn cynllunio i wobrwyo unwaith.