Cronfa'r Deyrnas Unedig
- Lleoliad y prosiect: Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Cymru
- Swm: £500,000 i £5,000,000
- Penderfyniad mewn: 36 wythnos
- Statws y rhaglen: Yn agored i geisiadau
Mae Cronfa'r Deyrnas Unedig yn cynnig symiau mwy o arian i'ch helpu i ddatblygu gwaith sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth. I gael grant bydd angen i chi ddangos beth sy'n gweithio, sut rydych chi'n gwybod ei fod yn cael effaith brofedig, a pham ei fod yn barod i ehangu. Nid ydym yn ariannu prosiectau neu wasanaethau newydd sbon. Dylai eich gwaith hefyd fod o fudd i gymunedau ledled y DU, trwy weithio mewn gwahanol lefydd neu rannu dysgu rhwng gwledydd.
Dylai eich prosiect fynd y tu hwnt i ddarparu gwasanaeth. Dylai helpu newid sut mae systemau'n gweithio, gan arwain at fuddion parhaol i gymunedau.
Rhaid i bob prosiect fodloni un o'r nodau hyn
Rhaid i'ch prosiect fodloni un o'r nodau canlynol yn glir:
- gwella perthnasoedd rhwng pobl sydd â phrofiadau bywyd gwahanol
- helpu pobl a chymunedau i gysylltu'n ystyrlon ar-lein pan mae'n anodd cwrdd wyneb yn wyneb
- cefnogi pobl o bob cefndir i ddylanwadu ar ddyfodol eu cymunedau
- helpu plant a phobl ifanc sy'n wynebu heriau penodol i newid y systemau sy'n effeithio arnynt
- helpu mwy o sefydliadau i gynnwys a gwrando ar blant a phobl ifanc
Rhaid i'ch prosiect hefyd fodloni'r holl feini prawf a restrir yn ‘Meini prawf y mae'n rhaid i'ch prosiect eu bodloni’.
Rydym yn croesawu prosiectau sy'n cael eu harwain gan ac ar gyfer pobl anabl.
Gwyliwch ein crynodeb fideo byr o Gronfa’r Deyrnas Unedig (YouTube).