Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Camau Cynaliadwy Cymru - Grantiau Egin

  • Lleoliad y prosiect: Cymru
  • Swm: £100 i £15,000
  • Penderfyniad mewn: 4 wythnos
  • Statws y rhaglen: Yn agored i geisiadau

Mae'r grant hwn yn cefnogi grwpiau cymunedol yng Nghymru sy'n gweithredu ar newid yn yr hinsawdd ac sy'n anelu at fyw'n fwy cynaliadwy neu eu helpu i roi hwb i'w syniadau.

I wneud cais, rhaid i'ch grŵp fod wedi derbyn cefnogaeth gan raglen fentora Egin.

Prif nod eich prosiect ddylai fod helpu eich cymuned i ymgysylltu â newid yn yr hinsawdd a chymryd camau i fyw'n fwy cynaliadwy.

Ein nod yw ariannu grwpiau sy'n ystyried effaith eu gweithgareddau ar natur a, lle bo'n bosibl, cyfyngu ar unrhyw arferion a allai fod yn niweidiol.

Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn manteision eraill y gallai eich prosiect eu cynnig. Gallai'r rhain gynnwys:

  • gwella lles pobl
  • gwella perthnasoedd rhwng pobl a sefydliadau
  • gwella bioamrywiaeth

Rydym eisiau ariannu sefydliadau sy'n agored i ddysgu ac yn bwriadu rhannu'r hyn maen nhw wedi'i ddysgu gydag eraill.

Camau Cynliadwy Cymru Logo
Camau Cynaliadwy Cymru - Grantiau Egin logo