Datganiad hygyrchedd
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (y Gronfa) yn https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh.
Caiff y wefan hon ei rhedeg a'i chynnal gan y Gronfa. Beth bynnag fo'ch anghenion neu'ch galluoedd, gallwch ddisgwyl cydraddoldeb o ran mynediad wrth wneud cais am ein hariannu. Rydym yn hapus i roi cymorth ychwanegol i chi os bydd ei angen arnoch. Er enghraifft, efallai y bydd angen gwybodaeth arnoch mewn ffordd wahanol, neu efallai y bydd angen amser ychwanegol arnoch wrth siarad â ni.
Ar ein gwefan, dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 400% heb i'r testun arllwys oddi ar y sgrin
- llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrandewch ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi ceisio gwneud cynnwys y wefan yn hawdd ei ddeall.
Mae gan wefan AbilityNet gyngor ar sut i wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os ydych yn anabl.
Pa mor hygyrch yw'r wefan hon
Gwyddom nad yw rhai rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- nid yw'r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
- mae rhai o'n ffurflenni cais yn anodd eu llywio gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
Adborth a gwybodaeth gyswllt
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol, gallwch gysylltu â ni. Er enghraifft, gallwn ddarparu gwybodaeth mewn PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu'n meddwl nad yw'r wefan hon yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni.
I'n helpu ni i ddeall a datrys y broblem, ceisiwch gynnwys cymaint ag y gallwch o'r wybodaeth a ddisgrifir yn Contacting Organisations about Inaccessible Websites.
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018. Os nad ydych yn fodlon ar sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Os ydych yng Ngogledd Iwerddon ac yn anhapus gyda’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn gallwch gysylltu â Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 yng Ngogledd Iwerddon.
Cysylltu â ni dros y ffôn
Rydym yn darparu gwasanaeth cyfnewid testun i bobl fyddar, sydd â nam ar y clyw neu nam ar eu lleferydd. Gallwch gysylltu â ni ar:
- 18001 plws 0345 410 2030 (Lloegr)
- 18001 plws 028 9055 1431 (Gogledd Iwerddon)
- 18001 plws 0300 123 7110 (Yr Alban)
- 18001 plws 0300 1230735 (Cymru)
- 18001 plws 0345 410 2030 (ar gyfer prosiectau sy’n gweithio ar draws y DU)
Gall defnyddwyr Iaith Arwyddion Prydain gysylltu â ni gan ddefnyddio:
- SignVideo ar gyfer prosiectau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon
- Contact Scotland ar gyfer prosiectau yn Yr Alban
- SignVideo ar gyfer prosiectau sy'n gweithio ar draws y DU.
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae’r Gronfa wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae gwefan y Gronfa yn cydymffurfio'n rhannol â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) fersiwn 2.1 safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Cynnwys anhygyrch
Nid yw'r cynnwys a restrir isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol.
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd
- Nid oes gan rhai o'r ffeiliau sain a fideo is-benawdau neu drawsgrifiadau. Os nad yw trawsgrifiad ar gael pan gyhoeddir cynnwys sain neu fideo, anelwn at ychwanegu un cyn gynted â phosib wedyn. Rydym wrthi'n creu trawsgrifiadau o gynnwys hŷn. Mae hyn yn methu WCAG 1.2.2 Capsiynau (A), 1.2.3 Disgrifiadau Sain a Chyfryngau Amgen (A), a 1.2.5 Disgrifiadau Sain (AA)
- Mae delweddau addurniadol ar y wefan sy'n cael eu cyhoeddi'n glywadwy i ddefnyddwyr gyda darllenwyr sgrin. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 1.1.1 cynnwys di-destun (A)
- mae rhai dolenni wedi'u cuddio ar y wefan ar gyfer defnyddwyr sydd â darllenwyr sgrin. Mae hyn yn golygu na fydd y defnyddwyr hyn yn cael yr un cynnwys â defnyddwyr eraill. Gall hyn arwain at ddefnyddwyr sydd â darllenwyr sgrin yn colli rhywfaint o gyd-destun y dudalen. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 4.1.2 enw, rôl, gwerth (A)
Cynnwys trydydd parti
Mae gan ein gwefan gynnwys trydydd parti ac ni allwn bob amser warantu ei hygyrchedd.
Ffurflenni Microsoft
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd:
- nid yw rolau Aria yn cynnwys y rolau angenrheidiol priodol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (A), WCAG 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth (A)
- nid yw negeseuon gwall yn cael eu darllen gan ddarllenwyr sgrin na thechnolegau cynorthwyol eraill. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (A), WCAG 3.3.3 Awgrym Gwall (AA), a WCAG 4.1.3 Negeseuon statws (AA)
- nid yw lliw meysydd ffurflenni, botymau, a negeseuon dilysu yn bodloni'r gofynion cyferbyniad lliw lleiaf mewn perthynas â'r cefndir. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 1.4.3 Cyferbyniad (AA)
- ni ellir cyrchu'r eicon calendr gan ddefnyddio'r bysellfwrdd yn unig. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1.1 Bysellfwrdd (A)
- nid yw meysydd yn nodi beth yw eu pwrpas rhaglennol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 1.3.5 Nodi Pwrpas Mewnbwn (AA)
- nid yw testun amgen delwedd yn bresennol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 1.1.1 Cynnwys nad yw'n destun (A)
- ni all technoleg gynorthwyol adnabod yr ieithoedd a ddefnyddir o fewn tudalen. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 3.1.2 Iaith Rhannau (AA)
- mae uchder y llinell yn llai nag 1.5 gwaith maint y ffont. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 1.4.12 Bylchau Testun (AA)
- nid yw'r cynnwys yn cael ei gyflwyno mewn trefn resymegol, ystyrlon. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 1.3.2 Dilyniant Ystyrlon (A)
- mae'r dangosydd ffocws yn anodd ei weld, gan ei gwneud hi'n anodd i ddefnyddwyr bysellfwrdd olrhain eu llywio. Mae hyn yn methu Maen Prawf Llwyddiant WCAG 2.4.7 Ffocws Gweladwy (AA)
- nid yw labeli wedi'u cysylltu'n rhaglennol â rheolyddion ffurflenni. Mae hyn yn methu Maen Prawf Llwyddiant WCAG 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (A) a 3.3.2 Labeli neu Gyfarwyddiadau (A)
Ffurflen Cronfa Gweithredu Hinsawdd - Ein Dyfodol NI
Diffyg cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd:
- labeli ID ARIA cysylltiedig ar goll mewn elfennau. Mae hyn yn methu â bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (A), WCAG 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth (A)
- mae rolau ARIA ar goll mewn rhai elfennau. Mae hyn yn methu WCAG 4.1.2 Enw, Rôl, Gwerth (A)
- nid yw meysydd yn nodi beth yw eu pwrpas yn rhaglennol. Mae hyn yn methu â bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 1.3.5 Nodi Pwrpas Mewnbwn (AA)
- nid yw labeli ffurflen wedi'u cysylltu'n gywir â'i rheolydd ffurflen gyfatebol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 1.1.1 Cynnwys Di-destun (A), 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (A), 2.4.6 Penawdau a Labeli (AA), 3.3.2 Labeli neu Gyfarwyddiadau (A)
- nid yw negeseuon gwall yn cael eu darllen gan ddarllenwyr sgrin na thechnolegau cynorthwyol eraill. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (A), 2.4.3 Trefn Ffocws (A), 3.3.1 Adnabod Gwallau (A), 3.3.3 Awgrym Gwall (AA), a 4.1.3 Negeseuon Statws (AA)
- defnyddir testun dal llefydd lle mae angen elfennau <label> hygyrch. Mae hyn yn methu â bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (A), 1.3.5 Nodi Diben Mewnbwn (AA)
- nid yw adrannau a grwpio ffurflenni bob amser yn cael eu marcio'n semantig. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (A), 1.3.2 Dilyniant Ystyrlon (AA)
- nid yw sawl elfen wedi'u marcio gan ddefnyddio’r HTML semantig priodol, fel paragraffau a rhestrau. Mae hyn yn methu â bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (A)
- nid yw'r blychau gwirio yn bodloni'r gofynion maint targed lleiaf. Mae hyn yn methu â bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.5.8 Maint Targed (Isafswm) (A)
- mae'r ffurflen yn brin o strwythur pennawd clir. Mae hyn yn methu â bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 1.3.1 Gwybodaeth a Pherthnasoedd (A)
- ni ellir cael mynediad at y calendr gan ddefnyddio'r bysellfwrdd yn unig. Mae hyn yn methu â bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.1.1 Bysellfwrdd (A)
- nid yw'r dangosydd ffocws yn weladwy. Mae hyn yn methu â bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.4.7 Ffocws Gweladwy (AA)
- mae uchder y llinell yn llai nag 1.5 gwaith maint y ffont. Mae hyn yn methu â bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 1.4.12 Bylchau Testun (AA)
- ni ellir pennu pwrpas pob dolen o destun y ddolen yn unig nac o'i chyd-destun. Mae hyn yn methu â bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.4.4 Diben y Ddolen (Mewn Cyd-destun) (A)
- nid yw lliw meysydd ffurflenni, botymau a negeseuon dilysu yn bodloni'r gofynion cyferbyniad lliw gofynnol mewn perthynas â'r cefndir. Mae hyn yn methu â bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 1.4.3 Cyferbyniad (Isafswm) (AA)
- ni all technoleg gynorthwyol adnabod yr ieithoedd a ddefnyddir o fewn tudalen. Mae hyn yn methu â bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 3.1.2 Iaith Rhannau (AA)
- mae'r priodoledd iaith wedi'i osod yn anghywir ar gyfer y ffurflen Gymraeg. Mae hyn yn methu â bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 3.1.1 Iaith y Dudalen (A)
- mae gan dudalennau lluosog deitlau tudalen union yr un fath. Mae hyn yn methu â bodloni maen prawf llwyddiant WCAG 2.4.2 Tudalen â Theitl (A)
Baich anghymesur
Ar hyn o bryd, nid ydym wedi gwneud unrhyw hawliadau baich anghymesur.
Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
PDFs a dogfennau eraill
Mae rhai o'n dogfennau PDF a Word yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ni PDFs gyda gwybodaeth am sut y gall defnyddwyr gyrchu ein gwasanaethau, a ffurflenni cais wedi'u cyhoeddi fel dogfennau Word. Dros amser byddwn yn trwsio'r dogfennau hanfodol hyn neu'n rhoi tudalennau gwe HTML hygyrch yn eu lle.
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.
Bydd unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Lle bo modd, rydym yn ceisio profi ein gwasanaethau gydag ystod gynrychioliadol o ddefnyddwyr, gan gynnwys pobl anabl.
Rydym hefyd yn profi cydrannau i sicrhau eu bod yn gweithio gydag amrywiaeth o borwyr, dyfeisiau a thechnolegau cynorthwyol. Mae hyn yn cynnwys chwyddwydrau sgrin, darllenwyr sgrin ac offer adnabod lleferydd.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 24 Medi 2025.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 3 Medi 2025. Er mwyn ein helpu i wneud hyn, comisiynwyd y Ganolfan Hygyrchedd Digidol (DAC) gennym i gynnal archwiliad cydymffurfio technegol lefel AA WCAG 2.1, a oedd yn cynnwys profion helaeth gan ddefnyddwyr ag ystod eang o anableddau.