Cronfa Gweithredu Hinsawdd - Ynni a Hinsawdd
- Lleoliad y prosiect: Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Cymru
- Swm: £500,000 i £1,500,000
- Penderfyniad mewn: 0 wythnos
- Statws y rhaglen: Ar gau i geisiadau
Mae Ynni a Hinsawdd bellach ar gau i geisiadau newydd.
Os gwnaethoch ymgeisio, rydym yn bwriadu dweud wrthych os ydych wedi cyrraedd y cam nesaf o fewn 10 wythnos. Efallai byddwn yn cymryd hirach os ydym yn derbyn llawer o geisiadau.
Gallwch nawr ymgeisio ar gyfer Gronfa Gweithredu Hinsawdd – Ein Dyfodol Ni. Mae’n ymwneud ag ysbrydoli mwy o bobl i weithredu yn erbyn newid hinsawdd.
Ynni a Hinsawdd
Nod y cyllid hwn yw ysbrydoli a chefnogi cymunedau ledled y DU i fynd i'r afael â'r argyfwng ynni a hinsawdd. Dylai’r prosiectau rydym yn eu hariannu ddangos sut y gall cymunedau fynd i’r afael â newid hinsawdd wrth daclo heriau ynni drwy weithredu hinsawdd a arweinir gan y gymuned.
Rydym yn ariannu prosiectau sy'n:
- annog cymunedau i ddefnyddio ynni mewn ffordd ecogyfeillgar
- dod â chymunedau ynghyd fel y gallant archwilio ffyrdd o hybu effeithlonrwydd ynni
- galluogi cymunedau i ddeall ac ymgysylltu â chyfleoedd i gynhyrchu ynni glân, nad ydynt yn defnyddio tanwydd ffosil.
Dylai pob prosiect ystyried sut y gall pawb yn y gymuned gymryd rhan mewn gweithredu hinsawdd. Rhaid iddynt hefyd roi sylw i unrhyw resymau pam y gallai rhai pobl gael eu hepgor.
Rydym yn ariannu prosiectau a fydd yn dod ag ystod o fuddion i gymunedau, gan gynnwys:
- gwella iechyd a lles
- creu swyddi ‘gwyrdd’ lleol, megis swyddi sy’n darparu gwres carbon isel i gartrefi, hyrwyddwyr ynni cymunedol a chynghorwyr ynni
- lleihau allyriadau carbon
- cefnogi cymunedau i fod yn fwy gwydn.
Dylai pob prosiect ystyried sut y gall pawb yn y gymuned gymryd rhan mewn gweithredu hinsawdd. Rhaid iddynt hefyd roi sylw i unrhyw resymau pam y gallai rhai pobl gael eu hepgor.