Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Cefnogi Syniadau Gwych

  • Lleoliad y prosiect: Cymru
  • Swm: £20,001 i £500,000
  • Penderfyniad mewn: 12 wythnos
  • Statws y rhaglen: Yn agored i geisiadau

Mae Cefnogi Syniadau Gwych yn helpu sefydliadau i wireddu syniadau beiddgar. Dylai’r syniadau hyn arwain at newid cadarnhaol a pharhaol yng Nghymru.

Ein blaenoriaethau ariannu

Rydym am ariannu prosiectau sy’n:

  • arloesol: maen nhw’n profi dulliau newydd o fynd i'r afael â mater sy'n dod i'r amlwg neu fater hirsefydlog, fel canfod dulliau gwell o gefnogi pobl a chymunedau
  • galluogi sefydliadau i weithio mewn ffyrdd newydd, gan gynnwys dod yn fwy galluog yn ddigidol, galluogi cyd-gymorth, ac adeiladu'r seilwaith sydd ei angen i weithredu cymunedol i ffynnu
  • galluogi mwy o bobl i gyflawni eu potensial drwy fynd i'r afael â materion cyn gynted â phosibl

Bydd angen i ceisiadau fodloni o leiaf un o’r nodau rhaglen uchod.

Yr hyn rydyn ni am ei weld yn eich syniad

Rydym yn chwilio am fwy na dim ond syniad da. Rydym eisiau gweld sut rydych chi wedi ei ddatblygu, pwy sy’n cymryd rhan, a sut mae’n adeiladu ar beth sydd eisoes yn digwydd yn eich cymuned.

Rydym yn chwilio am syniadau sy’n:

  • cynnwys y bobl fydd yn cael budd
  • adeiladu ar waith presennol neu’n ategu ato
  • dangos ymrwymiad clir i gynhwysiant a chynaliadwyedd

Gallwch ddarllen rhagor am ein egwyddorion cynaliadwyedd a’n polisi amgylcheddol.

Rydym hefyd yn chwilio am sefydliadau sydd:

  • yn cael eu harwain gan y gymuned – yn cynnwys pobl wrth lywio a chyflawni’r prosiect
  • yn seiliedig ar gryfderau – yn defnyddio’r sgiliau sydd eisoes yn bodoli yn eich cymuned
  • yn gysylltiedig – yn gweithio’n dda gydag eraill yn lleol