Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Cronfa Gweithredu Hinsawdd - Natur a Hinsawdd

  • Lleoliad y prosiect: Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Cymru
  • Swm: £50,000 i £500,000
  • Penderfyniad mewn: 0 wythnos
  • Statws y rhaglen: Ar gau i geisiadau

Mae'r rhaglen hon ar gau i geisiadau.

Rydym wedi derbyn nifer uchel o geisiadau, felly dim ond y ceisiadau sy’n bodloni ein meini prawf cryfaf sy’n gallu parhau i’r cam nesaf.

Gallwch nawr ymgeisio ar gyfer y Gronfa Gweithredu Hinsawdd – Ein Dyfodol Ni. Mae’n ymwneud ag ysbrydoli mwy o bobl i weithredu yn erbyn newid hinsawdd.

Mae’r cyllid hwn yn ceisio helpu cymunedau ledled y DU i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Rydyn ni’n chwilio am brosiectau sy’n canolbwyntio ar y cysylltiad rhwng natur a hinsawdd. Hoffem ariannu prosiectau sy’n defnyddio natur i annog rhagor o weithredu hinsawdd a arweinir gan y gymuned. Rydyn ni’n disgwyl i’r prosiectau ddod â manteision cymdeithasol ac economaidd pwysig eraill, fel creu cymunedau cryf, gwydn ac iach, neu ddatblygu sgiliau a swyddi ‘gwyrdd’.

Mae diddordeb gennym mewn prosiectau sy’n gallu gwneud o leiaf un o’r canlynol:

  • dangos sut y bydd creu cysylltiad dyfnach â byd natur yn arwain at newid ymddygiad pobl a mwy o ofal dros yr amgylchedd
  • dangos sut y gallwn ni helpu cymunedau i leihau neu addasu i effeithiau newid hinsawdd trwy ddod â byd natur yn ôl i’r llefydd yr ydym yn byw ac yn gweithio.

Gallwch ddarllen ein blog i weld enghreifftiau o brosiectau yr ydym ni’n debygol o’u hariannu.

Hoffem i’r holl brosiectau yr ydym ni’n eu hariannu fod yn greadigol, yn cynnwys pawb ac yn rhoi cynnig ar bethau newydd. Dylai prosiectau ddangos sut y gallent gyflawni newid mwy, a hynny’n fwy hirdymor, sy’n mynd y tu hwnt i’r cymunedau y maen nhw’n gweithio â nhw’n uniongyrchol.

Rydyn ni’n bwriadu ariannu rhwng 12 a 15 o brosiectau.

Byddwn ni’n derbyn ceisiadau gan naill ai:

  • partneriaethau lleol
  • partneriaethau DU gyfan sy’n cael eu cynnal mewn o leiaf dwy wlad yn y DU (Lloegr, Gogledd Iwerddon, Yr Alban a Chymru).