Ein nodau
Ein 4 nod a arweinir gan y gymuned
Yma yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae ein strategaeth newydd ar gyfer 2023-2023, sef ‘Cymuned yw’r man cychwyn’ wedi’i gwreiddio mewn un gwirionedd: mae cymunedau cadarn yn llywio bywydau hapusach ac iachach i bawb.
Mae ein strategaeth yn canolbwyntio ar bedair nod a arweinir gan y gymuned, wedi eu datblygu’n uniongyrchol o dros 18,000 o ryngweithiadau gyda phobl a grwpiau fel eich un chi yn 2022
Cymunedau yn dod ynghyd
Dysgwch am y manteision y gobeithiwn eu gweld pan fydd cymunedau yn meithrin cysylltiadau, yn lleihau unigrwydd ac yn creu gofodau lle mae croeso i bawb.
Cymunedau yn helpu plant a phobl ifanc i ffynnu
Edrychwch ar y newidiadau cadarnhaol rydym am i brosiectau eu cyflawni i fabanod, plant a phobl ifanc wrth iddynt dyfu, cysylltu ac adeiladu dyfodol mwy disglair.
Cymunedau yn iachach
Dysgwch am y gwelliannau rydym am eu gweld mewn lles corfforol, meddyliol ac emosiynol, a sut y gall prosiectau helpu cymunedau i fyw bywydau iachach.
Mae cymunedau'n gynaliadwy o ran yr amgylchedd
Archwiliwch y canlyniadau rydym am eu gweld gan brosiectau sy’n diogelu natur, lleihau niwed i’r amgylchedd ac yn helpu cymunedau i ymateb i newid hinsawdd.
Ein fframwaith cenadaethau llawn
Gweld ein fframwaith cenadaethau llawn a dysgu sut mae rhai canlyniadau’n cael eu rhannu ar draws sawl cenhadaeth.