Cronfa Gweithredu Hinsawdd – Systemau Bwyd
- Lleoliad y prosiect: Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon, Cymru
- Swm: £2,500,000 i £7,000,000
- Penderfyniad mewn: 39 wythnos
- Statws y rhaglen: Yn agored i geisiadau
Rydym am ariannu prosiectau sy'n cryfhau ein system fwyd ac yn lleihau ansicrwydd bwyd i bobl a chymunedau.
Rydym am gefnogi ffyrdd o gynhyrchu digon o fwyd iach a fforddiadwy heb niweidio'r blaned.
Byddwn yn gwneud hyn drwy gefnogi gwaith sy'n:
- gweithio gyda natur i greu systemau bwyd gwydn, cynaliadwy a theg (gelwir hyn yn agroecoleg)
- mynd i'r afael â gwraidd problemau hirdymor, nid dim ond y symptomau (gelwir hyn yn newid systemau)
Rhaid i chi fodloni un neu fwy o'n hamcanion
- Rhaid i'ch prosiect weithio tuag at newid systemau yn y ffordd y mae:
- mae mudiadau cymunedol yn tyfu ac yn cynhyrchu bwyd – gan ddefnyddio dulliau agroecolegol
- mae bwyd yn cael ei ddosbarthu – gan anelu at fynediad cyfartal at fwyd iach a fforddiadwy i bawb
- cynnig opsiynau bwyd gwahanol i bobl a chymunedau – yn enwedig y rhai sy'n profi tlodi, anfantais neu wahaniaethu
Am ragor o fanylion, gweler ein hamcanion ariannu.
Rhaid i chi fodloni'r holl feini prawf hyn
Rhaid i chi ddangos i ni y byddwch:
- yn gweithio mewn partneriaeth
- yn gwneud effaith barhaol ar newid hinsawdd, yr amgylchedd a natur
- yn cynyddu mynediad at fwyd iach a fforddiadwy yn sylweddol – yn enwedig i’r rhai sy’n profi tlodi, anfantais neu wahaniaethu
- yn meddu ar gynlluniau cadarn i fesur effaith eich gwaith
- yn meddu ar gynlluniau cadarn i adrodd stori eich prosiect i ysbrydoli eraill
- yn dangos sut y byddwch yn cynnwys cymunedau a mudiadau sy'n cynrychioli cymunedau yn eich prosiect mewn ffordd ystyrlon
Am ragor o fanylion, gweler y meini prawf y mae'n rhaid i'ch prosiect eu bodloni.
Faint gallwch chi ymgeisio amdano
Gallwch wneud cais am isafswm o £2.5 miliwn dros 3 blynedd.
Bydd y rhan fwyaf o'r prosiectau a ariannwn yn:
- derbyn rhwng £3 miliwn ac £5 miliwn
- rhedeg am rhwng 5 a 7 blynedd
Rydym yn disgwyl ariannu hyd at 10 prosiect yn y flwyddyn gyntaf.