Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol Cymru
- Lleoliad y prosiect: Cymru
- Swm: £300 i £20,000
- Penderfyniad mewn: 12 wythnos
- Statws y rhaglen: Yn agored i geisiadau
Rydym yn darparu grantiau ar gyfer prosiectau sy'n dod â phobl at ei gilydd ac yn gwella cymunedau ledled Cymru. Gallwch wneud cais am grant rhwng £300 a £20,000 ar gyfer prosiectau sy'n para hyd at ddwy flynedd.
Yr hyn y gallwn ei ariannu
Gallwch ddefnyddio'r arian i:
- ddechrau gweithgaredd newydd neu barhau ag un sy'n bodoli eisoes
- helpu eich sefydliad i addasu i heriau newydd
Rydym yn ariannu prosiectau sy’n:
- dod â phobl at ei gilydd i feithrin perthnasoedd cymunedol cryf
- gwella llefydd a mannau pwysig i gymunedau
- cefnogi pobl i gyrraedd eu potensial trwy gymorth cynnar
- cefnogi cymunedau sy'n wynebu heriau oherwydd yr argyfwng costau byw