Canolfan y cyfryngau
Rydym yn cefnogi newyddiadurwyr gyda straeon, data ac astudiaethau achos am effaith arian y Loteri Genedlaethol ar gymunedau ledled y DU.
Ledled y DU, mae miliynau o bobl yn trawsnewid eu cymunedau gyda phrosiectau i wella eu hamgylchedd lleol, mynd i'r afael ag unigedd, neu helpu pobl ifanc i ffynnu - ac maent yn gwneud hynny gyda chyllid a chefnogaeth gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Bob blwyddyn, mae mwy na 5 miliwn o bobl yn elwa o brosiectau a gyllidwn - o fentrau lleol bach i bartneriaethau cenedlaethol. Rydym yn ariannu prosiect cymunedol bob 8 munud ym mhob awdurdod lleol yn y DU.
Yr hyn a gynigiwn
Gallwn ddarparu:
cyfweliadau gyda llefarwyr swyddogol
astudiaethau achos a straeon go iawn
mewnwelediad ac ystadegau am brosiectau a ariennir
sylwadau ar bynciau sy'n effeithio ar gymunedau
Cysylltu â'r swyddfa wasg
Os ydych yn newyddiadurwr, cysylltwch â'n swyddfa wasg:
Ffôn (yn ystod yr wythnos a’r tu allan i oriau):
020 7211 1888
E-bost:
pressoffice@tnlcommunityfund.org.uk
Rydym yn anelu at ymateb yn brydlon yn ystod ein horiau swyddfa.
Sylwch os gwelwch yn dda
dim ond ymholiadau gan y cyfryngau y gallwn ymateb iddynt
ar gyfer unrhyw beth arall - gan gynnwys ceisiadau am gyllid neu ymholiadau grant - ewch i'n tudalen cysylltu â ni.
ar gyfer ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth (FOI), anfonwch e-bost i: freedomofinformation@tnlcommunityfund.org.uk