Ein pobl
Y ni yw Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Rydym yn dosbarthu arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol i gefnogi cymunedau ledled y DU.
Mae ein gwaith yn cael ei arwain gan Fwrdd, sy’n nodi ein strategaeth hirdymor, yn cytuno ar bolisïau allweddol, ac yn sicrhau ein bod yn cael ein rhedeg yn effeithiol ac effeithlon. Mae’r Bwrdd yn dirprwyo’r gwaith dydd i ddydd o redeg y sefydliad i’n prif Weithredwr a’r Uwch Dîm Rheoli, sy’n cyflawni’r strategaeth ac yn goruchwylio ein gweithrediadau.
Rydym yn trefnu ein gwaith i mewn i bum portffolio ariannu - yn cwmpasu Cymru, Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon a rhaglenni'r DU gyfan. Mae gan bob portffolio ei bwyllgor ei hun sy’n penderfynu ar grantiau mawr, yn llywio blaenoriaethau ariannu lleol, ac yn sicrhau fod ein hariannu yn cyrraedd y cymunedau sydd ei angen fwyaf.
Mae ein timau lleol ledled yn DU yn gweithio’n uniongyrchol gyda chymunedau – yn helpu i ddatblygu syniadau, creu cyfleoedd, a dod a phobl ynghyd.
Dewch i gwrdd â’r bobl sy’n arwain ac yn cyflawni ein gwaith.
Y Bwrdd
Dewch i gwrdd â Bwrdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol – y bobl sy’n nodi ein cyfeiriad, yn arwain penderfyniadau ariannu, ac yn sicrhau ein bod yn cyflawni dros gymunedau ledled y DU.
Uwch dîm rheoli
Dewch i gwrdd ag Uwch Dîm Rheoli Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol – yr arweinwyr sy’n cyflawni ein strategaeth ac yn sicrhau fod yr ariannu yn gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau ledled y DU.
Pwyllgor Cymru
Dysgwch ragor am Bwyllgor Portffolio Cymru. Maen nhw’n llywio blaenoriaethau lleol ac yn gwneud penderfyniadau ariannu allweddol ar gyfer cymunedau ledled Cymru.
Pwyllgor Ariannu'r Deyrnas Unedig
Mae Pwyllgor Portffolio’r DU yn ariannu rhaglenni ar draws y pedair gwlad, gan ganolbwyntio ar flaenoriaethau’r DU gyfan a grantiau mawr sy’n cael yr effaith fwyaf yn genedlaethol.