Ein strategaeth
Strategaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol 2023-2030
Mae cysylltiadau cymdeithasol a gweithgareddau cymunedol yn ganolog i greu bywydau iachach, hapusach a chymdeithas lewyrchus. Dyna pam mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cefnogi prosiectau anhygoel a arweinir gan y gymuned. Rydym yn gobeithio gwneud mwy o wahaniaeth yn y blynyddoedd i ddod, drwy wrando ar gymunedau ac ymateb iddynt a chefnogi newid mwy beiddgar.
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yn bwriadu dosbarthu £4 biliwn ychwanegol erbyn 2030. Gan gefnogi prosiectau sy’n creu cymunedau gwydn sy’n fwy cynhwysol ac amgylcheddol gynaliadwy. Prosiectau a fydd yn cryfhau cymdeithas ac yn gwella bywydau ledled y DU.
Dewch i glywed gan David Knott, ein Prif Weithredwr, wrth iddo gyflwyno ein strategaeth a arweinir gan y gymuned ac esbonio sut y bydd yn gwneud gwahaniaeth. Byddwch hefyd yn clywed gan aelodau ysbrydoledig o’r gymuned am beth mae’r strategaeth yn ei olygu iddyn nhw. Gwyliwch y fideo ar YouTube.
Trosolwg o'r strategaeth
Trosolwg o’n strategaeth ar gyfer y DU gyfan sydd â’r nod o ariannu cymunedau gwydn, cynhwysol, iach a chynaliadwy lle mae’r angen mwyaf.
Cymuned yw’r man cychwyn
Dysgwch sut mae’n strategaeth yn rhoi cymuned yn gyntaf – trwy ariannu cysylltiadau, cefnogi gweithredu yn lleol, a buddsoddi lle mae’r angen am gefnogaeth fwyaf.
Ein nodau
Dysgwch am y 4 nod a arweinir gan y gymuned sy’n arwain ein hariannu i helpu cymunedau’r DU i gysylltu, ffynnu, gwella iechyd a diogelu natur.
Sut rydym ni’n gweithio
Rydym yn hyblyg, yn gynhwysol, ac yn gydweithredol. Dysgwch sut rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chymunedau i ariannu gweithredu, creu effaith, a chefnogi newid parhaol.
Sut y bydd ein hariannu yn gweithio
Dysgwch sut rydym yn ariannu newid a arweinir gan y gymuned dan ddefnyddio dull sy’n seiliedig ar degwch i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a chefnogi effaith hirdymor.
Amgylchedd a chynaliadwyedd
Dysgwch sut mae ein strategaeth yn cefnogi cynaliadwyedd amgylcheddol drwy arferion cyfrifol, cynllunio hirdymor a chyllid amgylcheddol.