Bydd Taclo Digartrefedd yn dyfarnu grantiau i brosiectau strategol sy'n gweithredu ar draws un neu fwy o ardaloedd awdurdodau lleol mewn lleoliadau trefol a gwledig sy'n edrych i ail-ddylunio gwasanaethau i wneud digartrefedd yn brin, cryno ac anghylchol. Byddent yn canolbwyntio ar yr unigolyn a'n cael eu darparu gan bartneriaethau amlasiantaethol.
Gall digartrefedd effeithio unrhyw un a chael ei achosi gan amryw o ffactorau. Rydym wedi diffinio digartrefedd fel 'peidio cael cartref'. Mae rhywun sy'n ddigartref yn rhywun a allai fod yn:
- cysgu'n arw
- aros gyda ffrindiau neu deulu
- aros mewn hostel, lloches nos neu Wely a Brecwast.
- sgwatio (oherwydd nad oes gan rhywun hawl cyfreithiol i aros)
- dan risg o drais neu gamdriniaeth yn eich cartref
- byw mewn amgylchiadau gwael sy'n effeithio ar eich iechyd
- byw ar wahân o'ch teulu gan nad oes gennych le i fyw gyda'ch gilydd.
Rydym yn annog ymgeiswyr i ystyried blaenoriaethau penodol i ganolbwyntio eu prosiectau ar gynnwys arloesi gwasanaeth, cefnogaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, cefnogi tenantiaid a landlordiaid yn y sector rhentu preifat, amgylcheddau sy'n seiliedig ar drawma, lleihau gwahaniaethu a rhagfarn, a digartrefedd gwledig.
Pa fath o brosiectau gallwn ariannu?
Rydym yn annog ymgeiswyr i ystyried blaenoriaethau arbennig i ffocysu eu prosiectau ar gan gynnwys gwasanaeth arloesedd, cefnogaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn, cefnogi tenantiaid a landlordiaid yn y sector rhentu preifat, atal digartrefedd, amgylcheddau gwybodus trawma, lleihau gwahaniaethu a rhagfarn, a digartrefedd gwledig. Bydd lleisiau'r rhai y mae digartrefedd yn effeithio arnynt wrth wraidd y prosiectau hynny. Bydd prosiectau'n:
cydbwyso dulliau ataliol ac ymatebol o fewn amgylchedd seicolegol
darparu cymorth i denantiaid (yn enwedig o fewn y sector rhentu preifat),
a mynd i'r afael â'r stigma a'r rhagfarn a brofir gan bobl sy'n ddigartref.
Bydd angen i brosiectau ymateb i'r amgylchedd sy'n newid yn gyflym a achosir gan y Pandemig COVID-19 a rhaid iddynt ystyried cynlluniau 'cam 2' Awdurdodau Lleol fel rhan o'u dull gweithredu. Bydd y prosiectau'n cael eu gwerthuso'n gadarn i sicrhau y gall yr hyn y maent yn ei ddysgu lywio polisi ac arferion nawr ac yn y dyfodol. Gall prosiectau fod mewn lleoliadau
Effaith pandemig COVID-19 ar daclo digartrefedd.
Penderfynodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i oedi Taclo Digartrefedd ym mis Mai 2020 o ganlyniad i’r heriau a achoswyd gan y pandemig COVID-19.
Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi hyd at £50 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon i roi cymorth i'r rhai sy'n ddigartref. Cyhoeddodd ganllawiau 'Cam 2' newydd i awdurdodau lleol ar 3 Mehefin 2020 i'w helpu i gynllunio sut y byddant yn sicrhau na fydd yn rhaid i unrhyw un ddychwelyd i gysgu ar y stryd. Roedd yn ofynnol i awdurdodau lleol ddatblygu a chyflwyno cynlluniau unigol ar gyfer eu hardaloedd i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Mehefin 2020 i wneud cais am arian ychwanegol i gefnogi'r rhai sy'n ddigartref.
O ystyried y datblygiadau hyn, ers mis Mehefin rydym wedi cynnal adolygiad o'r rhaglen i sicrhau ei bod yn parhau'n berthnasol i'r dirwedd sydd wedi newid ac wedi hynny rydym wedi gwneud rhai mân newidiadau, gan gynnwys amserlen newydd.