Caru'n Cynefin - telerau ac amodau

1. Drwy gyflwyno cais i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae'r sefydliad a enwir yn y cais (y cyfeirir ato fel “chi” yn y Telerau ac Amodau hyn) yn cytuno, os dyfernir grant iddo, i’r canlynol:

1.1 dal y grant ar ymddiriedaeth ar gyfer Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (y cyfeirir ato fel ‘ni’) a'i ddefnyddio ar gyfer eich prosiect fel y disgrifir yn eich cais neu y cytunwyd arno fel arall gyda ni yn unig, a dim ond ar gyfer gwariant y byddwch yn mynd iddo ar ôl dyddiad eich dyfarniad grant;

1.2 rhoi unrhyw wybodaeth ac adroddiadau rydyn ni eu hangen am y prosiect a'i effaith i ni'n brydlon, yn ystod ac ar ôl diwedd y prosiect;

1.3 gweithredu'n gyfreithlon wrth gyflawni eich prosiect yn unol ag arfer gorau ac arweiniad gan eich rheoleiddwyr, a dilyn unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gennym am y prosiect neu'r defnydd o'r grant a rhoi gwybod i ni'n brydlon am unrhyw dwyll, amhriodoldeb arall, camreoli neu gamddefnyddio mewn perthynas â'r grant;

1.4 cydnabod grant y Loteri Genedlaethol ac IKEA Limited gan ddefnyddio'r protocol a nodir yn y llythyr cynnig Grant;

1.5 dal y grant mewn cyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn y DU sy'n bodloni ein gofynion fel sydd wedi’i nodi mewn canllawiau ac mae’n ofynnol i o leiaf ddau berson nad ydynt yn gysylltiedig gymeradwyo'r holl drafodion a chodi arian;

1.6 dychwelyd ar unwaith unrhyw ran o'r grant nad yw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer eich prosiect neu sy'n cyfateb i gymhorthdal anghyfreithlon;

1.7 os yw eich prosiect yn cynnwys gweithio gyda phlant, pobl ifanc neu oedolion sy'n agored i niwed, mabwysiadu a gweithredu polisi diogelu ysgrifenedig priodol, cael caniatâd ysgrifenedig gan ofalwyr neu warcheidwaid cyfreithiol a chynnal gwiriadau cefndir ar gyfer pob cyflogai, gwirfoddolwr, ymddiriedolwr neu gontractwr fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith neu ein canllawiau ar ein gwefan;

1.8 gweithio gydag IKEA Limited ac unrhyw un o'n partneriaid dysgu a benodir ar gyfer y Rhaglen er mwyn rhannu tystiolaeth a dysgu. Bydd hyn yn cynnwys cymryd rhan mewn gweithgareddau gwerthuso megis:

  • arolwg byr am eich profiad o wasanaeth y Gronfa i chi (boddhad cwsmeriaid)
  • arolwg diwedd grant, bydd hyn yn cynnwys cwestiynau ar: nifer a math y gweithgareddau rydych wedi'u cynnal gan ddefnyddio'r grant, nifer y buddiolwyr a gyrhaeddwyd oherwydd y grant, nifer y gwirfoddolwyr a gafodd eu defnyddio oherwydd y grant, y gwahaniaeth a wnaed gan y grant, yr hyn a gyflawnwyd gennych, gyda phwy y buoch yn gweithio ac os yw'r grant hwn wedi galluogi mynediad at gronfeydd eraill.
  • anfon arolwg at eich gwirfoddolwyr am eu profiad
  • rhannu dysgu a mewnwelediad i elusennau eraill, sefydliadau gwirfoddol a di-elw.

1.9 cydymffurfio â chyfreithiau diogelu data a chael caniatâd eich buddiolwyr i chi dderbyn a phrosesu eu gwybodaeth bersonol a chysylltu â nhw;

1.10 cadw cofnodion cywir a chynhwysfawr am eich prosiect yn ystod y prosiect ac am saith mlynedd wedyn a rhoi copïau i ni ar gais o'r cofnodion hynny a thystiolaeth o wariant y grant, megis derbynebau gwreiddiol a datganiadau banc;

1.11 caniatáu i ni a/neu'r Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol gael mynediad rhesymol i'ch safle a'ch systemau i archwilio cofnodion prosiectau a grantiau;

1.12 Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn rhoi cyhoeddusrwydd i wybodaeth amdanoch chi a'ch prosiect ac yn eu rhannu, gan gynnwys eich enw a'ch delweddau o weithgareddau prosiect. Rydych drwy hyn yn rhoi trwydded nad yw’necsgliwsif, heb freindal i ni ac IKEA Limited i atgynhyrchu a chyhoeddi unrhyw wybodaeth am brosiectau a roddwch i ni. Byddwch yn rhoi gwybod i ni pan fyddwch yn darparu'r wybodaeth os nad oes gennych ganiatâd i ni ei defnyddio fel hyn; ac

1.14 os yw eich prosiect yn cael ei gyflawni yng Nghymru, galluogi pobl i gymryd rhan yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan drin y ddwy iaith yn gyfartal. Rhaid i siaradwyr Cymraeg allu cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau yn Gymraeg a rhaid cynhyrchu pob deunydd yn ddwyieithog.

2. Rydych yn cydnabod bod gennym hawl i atal neu derfynu'r grant a/neu ei gwneud yn ofynnol i chi ad-dalu'r cyfan neu unrhyw ran o'r grant yn unrhyw un o'r sefyllfaoedd canlynol. Rhaid i chi roi gwybod i ni os oes unrhyw un o'r sefyllfaoedd hyn wedi digwydd neu'n debygol o ddigwydd.

2.1 Rydych yn defnyddio'r grant mewn unrhyw ffordd ac eithrio fel y'i cymeradwywyd gennym ni neu'n methu â chydymffurfio ag unrhyw un o'r Telerau ac Amodau hyn.

2.2 Rydych yn methu â gwneud cynnydd da gyda'ch prosiect neu'n annhebygol o gwblhau'r prosiect neu gyflawni'r amcanion y cytunwyd arnynt gyda ni.

2.3 Mae gennych arian cyfatebol ar gyfer y prosiect wedi'i godi neu rydyn yn derbyn neu'n methu â datgan unrhyw arian dyblyg ar gyfer yr un costau prosiect ag a ariennir gan y grant.

2.4 Rydych yn rhoi gwybodaeth ffug neu gamarweiniol i ni naill ai yn eich cais neu ar ôl dyfarnu'r grant, yn gweithredu'n anonest neu'n destun ymchwiliad gennym ni, corff rheoleiddio neu'r heddlu, neu os ystyriwn am unrhyw reswm arall fod arian cyhoeddus mewn perygl neu eich bod yn gwneud unrhyw beth i ddwyn anfri arnom ni neu'r Loteri Genedlaethol neu IKEA Limited. Rydych yn ymrwymo i fynd i law’r gweinyddwyr, diddymu, mynd i law’r derbynnydd, neu, yn yr Alban, bod yn destun atafaelu ystâd eich sefydliad

2.5 Rydych yn derbyn unrhyw arian grant yn anghywir naill ai o ganlyniad i wall gweinyddol neu fel arall. Mae hyn yn cynnwys lle cewch eich talu drwy gamgymeriad cyn i chi gydymffurfio â'ch rhwymedigaethau o dan y telerau ac amodau hyn a’r Llythyr Cynnig. Bydd unrhyw swm, sy'n ddyledus o dan y paragraff 2.5 hwn, yn ddyledus ar unwaith. Os byddwch yn methu ag ad-dalu'r swm dyledus ar unwaith, neu fel y cytunwyd fel arall gyda ni, bydd y swm yn adenilladwy yn ddiannod fel dyled sifil.

3. Os yw unrhyw ran o'ch Grant i brynu neu adeiladu, adnewyddu, ymestyn neu newid tir a/neu adeiladau ("Eiddo"), bydd y telerau ac amodau hyn yn berthnasol:

3.1 Rhaid i chi fod yn berchen ar naill ai'r buddiant rhydd-ddaliadol neu lesddaliad yn yr Eiddo a rhaid i chi ddarparu prawf boddhaol o'r berchnogaeth hon.

3.2 Os mai llesddaliad yw eich perchnogaeth, rhaid i'r brydles fod am gyfnod o 5 mlynedd o leiaf ar ôl cwblhau unrhyw waith a rhaid i'r brydles beidio â chynnwys unrhyw gymalau terfynu;

3.3 Rhaid i chi anfon copi o adroddiad syrfëwr atom os gofynnwn am un sy'n dangos cyflwr yr Eiddo, ei werth a p’un a yw'n addas ar gyfer y Prosiect;

3.4 Rhaid i chi gadarnhau bod yr holl gydsyniadau angenrheidiol ar gyfer datblygu a/neu ddefnyddio'r Eiddo wedi'u cael;

3.5 Rhaid i chi beidio â gwerthu, prydlesu, gosod, is-osod neu waredu neu newid defnydd yr Eiddo fel arall heb gael ein caniatâd ysgrifenedig yn gyntaf, a all gynnwys amodau y bydd yn rhaid i chi eu bodloni. Os ydych yn gwerthu neu'n gwaredu'r Eiddo, efallai y bydd yn rhaid i chi ad-dalu'r cyfan neu ran o'r arian a gawsoch gennym.

4. Os yw rhan o'ch Grant i ariannu'r gwaith o brynu neu wella cerbydau neu offer, dim ond yr amodau canlynol fydd yn berthnasol:

4.1 Rhaid i chi roi tystiolaeth i ni bod y cerbydau neu'r offer yn eiddo i chi'n ddilys;

4.2 Rhaid i chi gadw'r cerbydau neu'r offer am 12 mis o'r dyddiad prynu (“Cyfnod y Grant”) a'u defnyddio ar gyfer y Prosiect yn unig;

4.3 Rhaid i chi beidio â gwerthu na gwaredu'r cerbydau neu'r offer yn ystod Cyfnod y Grant heb gael ein caniatâd ysgrifenedig yn gyntaf ac os oes angen, rhaid i chi dalu cyfran o'r enillion o unrhyw warediad i ni; a

4.4 Rhaid i chi gadw'r cerbydau neu'r offer yn ddiogel, mewn cyflwr da ac wedi'u hyswirio'n ddigonol drwy gydol Cyfnod y Grant.

5. Rydych yn cydnabod:

5.1 bod y grant at eich defnydd chi’n unig ac efallai y byddwn yn gofyn i chi dalu cyfran o unrhyw enillion o waredu asedau a brynwyd neu a wellwyd gyda'r grant;

5.2 ni fyddwn yn cynyddu'r grant os byddwch yn gwario mwy na'r gyllideb y cytunwyd arni gallwn ond gwarantu'r grant cyn belled â bod y Loteri Genedlaethol yn parhau i weithredu a'n bod yn cael digon o arian ganddo;

5.3 nid yw'r grant yn ystyried unrhyw gyflenwad trethadwy at ddibenion TAW;

5.4 nid oes gennym unrhyw atebolrwydd am unrhyw gostau na chanlyniadau a ysgwyddir gennych chi neu drydydd partïon sy'n codi'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol o'r prosiect, nac o beidio â thalu neu dynnu'r grant yn ôl, ac eithrio i'r graddau sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith;

5.5 bydd y Telerau ac Amodau hyn yn parhau i fod yn berthnasol am flwyddyn ar ôl i'r grant gael ei dalu neu hyd nes y bydd y prosiect wedi'i gwblhau, pa un bynnag sydd hwyraf. Bydd cymalau 1.2, 1.4, 1.6, 1.9, 1.10, 1.11, 1.12, 3.4 a 3.5 yn goroesi wedi i’r Telerau ac Amodau hyn i ben; ac

5.6 os bydd y cais a'r dyfarniad grant yn cael eu gwneud yn electronig, ystyrir bod y cytundeb rhyngom yn ysgrifenedig a bernir bod derbyn y Telerau ac Amodau hyn ar-lein yn lofnod i’r cytundeb hwnnw.