Cymunedau yn dod ynghyd
Dod â phobl ynghyd ac annog cysylltiadau cymdeithasol
Rydym yn credu fod cymunedau cryf yn dechrau gyda chysylltiadau. Pan mae pobl yn teimlo cysylltiad ac yn gallu helpu i lywio eu cymunedau, mae’n gallu gwella bywydau.
Rydym yn cefnogi prosiectau lleol sy’n dod â phobl ynghyd, yn rhoi llais iddynt, ac yn creu gofodau croesawgar a chynhwysol. Mae’r math hyn o brosiectau yn helpu i leihau unigrwydd, meithrin ymddiriedaeth, a rhoi ymdeimlad o berthyn i bobl.
Rydym eisiau mynd i’r afael ag anghenion go iawn gyda thegwch wrth graidd hyn. Mae hyn yn golygu ein bod yn canolbwyntio ar ardaloedd ac unigolion sy'n wynebu tlodi, gwahaniaethu, neu anfantais.
Canlyniadau sy’n helpu cymunedau i ddod ynghyd
Y canlyniadau yw’r newidiadau neu’r buddion rydyn ni’n disgwyl eu gweld o ganlyniad y prosiectau a ariannwn. Maent yn ein helpu ni i ddeall y gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud.
Rydyn ni am ariannu prosiectau sy’n:
- darparu neu’n gwella llefydd i bobl ddod ynghyd – ar-lein neu wyneb yn wyneb
- cyflwyno gweithgareddau neu ddigwyddiadau, ar-lein neu wyneb yn wyneb
- galluogi pobl i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w cymuned
- rhoi ymdeimlad o ddiogelwch, perthyn ac ymddiriedaeth i bobl
- gwella cysylltiadau a pherthnasoedd ag eraill
- cysylltu plant neu bobl ifanc gydag oedolion y maen nhw’n ymddiried ynddynt
- gwella lles, iechyd corfforol neu iechyd meddyliol pobl
- gwella mynediad at natur i bobl
Dewis nodau a chanlyniadau pan rydych yn ymgeisio
Cyn i chi ymgeisio, gwiriwch y rhaglen rydych wedi ei dewis i weld faint o nodau neu ganlyniadau y maen nhw am i chi eu cynnwys yn eich prosiect. Mae’n amrywio ar draws y rhaglenni.
Fel rhan o’ch cais, byddwn yn gofyn i chi ddewis y nod a’r canlyniadau sy’n cyd-fynd yn agos â’r gwaith rydych yn ei wneud yn eich cymuned.
Mae hyn yn ein helpu ni i ddeall yr effaith ehangach y gall eich prosiect ei chael a sicrhau ein bod yn gallu cefnogi eich gwaith yn y ffordd gywir.
Mae’n bwysig eich bod yn dewis y nodau a’r canlyniadau sy’n adlewyrchu eich cynlluniau orau yn unig. Ni fydd dewis mwy yn cynyddu eich cais o lwyddo.
Camau nesaf
Edrychwch ar ein rhaglenni ariannu i weld pa gymorth sydd ar gael a chael hyd i’r ffit orau.
Darllenwch ein fframwaith nodau llawn i ddeall sut mae rhai canlyniadau yn perthyn i fwy nag un nod. Mae hyn yn golygu y gallai eich prosiect gyfrannu at fwy nag un nod ar yr un pryd - hyd yn oed os ydych chi’n canolbwyntio ar ychydig o ganlyniadau.
Cysylltwch â ni – byddwn yn eich helpu chi i fireinio eich syniadau, cysylltu ag eraill ac ymgeisio am grant.
Astudiaeth achos
Sut y gwnaeth prosiect iechyd helpu pobl i ddod o hyd i gymuned a theimlo’n llai ynysig
Gwrandewch ar Ceridwen a Claire o Same but Different, sy’n rhannu sut maen nhw’n defnyddio straeon gweledol i godi ymwybyddiaeth o glefydau prin a pham fod profiad bywyd a chymuned yn bwysig. Gwyliwch y fideo ar YouTube.
Mae chwalu rhwystrau ac annog deialog ar faterion yn ymwneud ag iechyd yn hanfodol. Mae arian gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi ein galluogi i weithio’n greadigol gyda’r rhai sydd â phroblemau iechyd i gryfhau eu lleisiau a chwarae rhan hanfodol mewn codi ymwybyddiaeth, gwella dealltwriaeth a dylanwadu ar newid ar bob lefel o’u cymuned
Ceridwen Hughes - Cyfarwyddwr Same But Different C.I.C