Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Cymuned yw’r man cychwyn

Galluogi cymunedau i gysylltu 

Mae ein gwaith yn dechrau gyda’r blociau adeiladu sy’n galluogi cymunedau i gysylltu, meithrin perthnasoedd a gweithredu ar yr hyn sydd bwysicaf iddynt. 

A phan ddaw pobl at ei gilydd ar draws cenedlaethau, cefndiroedd a phrofiadau – mae rhywbeth pwerus yn digwydd. Mae mudiadau cymdeithas sifil yn darparu mannau, gweithgareddau a chyfleoedd hanfodol i bobl ddod at ei gilydd. Y cysylltiadau hyn yw’r rhwymau sy’n cryfhau cymdeithas ac yn gwella bywydau. 

Rydym ni'n cefnogi cymunedau 

Dyna pam yr ydym yn ariannu ac yn cefnogi cymunedau i weithredu ar yr hyn sydd bwysicaf iddynt. A dyna pam rydym yn cynyddu ariannu ar gyfer prosiectau cymunedol, llai drwy ddyblu maint ein grantiau hawdd gwneud cais amdanynt, Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol, hyd at £20,000. 

Mae ein cymdeithas yn wynebu heriau mawr a brys, sy’n gofyn am ymatebion beiddgar. Mae cymunedau’n mynnu newid mwy beiddgar, hirdymor, a mwy o bŵer i lunio’r dyfodol. Dyna pam rydym yn cynyddu ein ffocws a’n buddsoddiad mewn creu newid parhaol, trwy genadaethau wedi’u targedu sydd â’r nod o gryfhau cymdeithas a gwella bywydau. A pham y byddwn yn creu partneriaeth â chymunedau, mudiadau cymdeithas sifil ac eraill i adeiladu’r newid hwn. 

Ariannu teg 

Gwyddom nad oes gan bob cymuned y cyfleoedd na’r trefniadau cywir i ddod at ei gilydd. Felly, er bod ein hariannu ar gael i bob cymuned, byddwn yn buddsoddi fwyaf lle mae’r angen mwyaf, gyda phobl, lleoedd a chymunedau sy’n profi tlodi, anfantais a gwahaniaethu. 

Rydym yn gwrando 

Mae’r strategaeth hon wedi’i llunio gan ein gwaith o ddydd i ddydd, a gan yr hyn a glywsom yn ein sgyrsiau â chymunedau, mudiadau cymdeithas sifil ac eraill yn 2022, a oedd yn cynnwys dros 18,000 rhyngweithiad. 

Fel y ffynhonnell unigol fwyaf o arian cymunedol yn y DU rydym yn helpu cymunedau i ffynnu. Ni sy’n darparu’r ariannu, nhw sy’n rhoi’r arian ar waith.