Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Sut rydym ni’n gweithio

Gweithio gyda’n gilydd – yn hyblyg, cydweithredol a chynhwysol

Mewn byd sy’n symud yn gyflym, mae’n hanfodol ein bod ni’n hyblyg ac yn gallu addasu. Felly, dros gyfnod y strategaeth hon, bydd rhai pethau’n newid yn naturiol. Byddwn yn cydbwyso hyblygrwydd a’r gallu i addasu, ag eglurder ynghylch sut rydym yn gweithio.

Bydd creu partneriaeth â chymunedau, mudiadau cymdeithas sifil, y sector cyhoeddus, yn ogystal ag arianwyr eraill, a busnes yn hanfodol i lwyddiant. Byddwn yn gweithio’n benodol gyda mudiadau sydd â dealltwriaeth ddofn o gymunedau, pobl a materion. Ac yn yr holl brosiectau yr ydym yn eu cefnogi, rhaid i bobl o gymunedau gymryd rhan ystyrlon.

Mae ein gwerthoedd a’n ffyrdd o weithio yn rhoi eglurder ynghylch sut rydym yn gweithio gyda chymunedau, partneriaid a chydweithwyr, fel un Gronfa ar draws y DU. Mae ein pum gwerth yn adlewyrchu ein credoau craidd. Byddwn yn ymwreiddio ac yn gweithio i wireddu’r gwerthoedd hyn ym mhopeth a wnawn. Ac mae ein chwe ffordd o weithio yn disgrifio’r egwyddorion allweddol ar gyfer sut rydym yn ariannu ac yn gweithredu i gefnogi cymunedau.

Ein gwerthoedd

Rydym yn uchelgeisiol
Credwn yng ngrym cymuned a chysylltiadau ac rydym yn uchelgeisiol ar gyfer ei botensial. Rydym yn cefnogi pobl a chymunedau i lunio’r dyfodol ac arwain newid.
Rydym yn canolbwyntio ar effaith
Rydym yn cael ein hysbrydoli gan gymunedau ac yn dysgu gyda nhw. Rydym yn gwrando, yn myfyrio ac yn defnyddio tystiolaeth i wella gwybodaeth a dealltwriaeth gyda’n gilydd.
Rydym yn hyblyg
Rydym yn croesawu ac yn cofleidio syniadau a dulliau gweithio newydd.
Rydym yn dosturiol
Rydym yn gweithio gyda gofal, ystyriaeth a gostyngeiddrwydd.

Ein dull

Sut rydym ni’n dechrau

Rydym yn dechrau gyda chryfderau unigolion a chymunedau ar yn adeiladu arnynt. Rydym yn gwrando ar gymunedau ac yn ymddiried yn eu galluoedd. Rydym yn cydweithio, yn darparu cymorth ond hefyd yn herio, i helpu i wneud i bethau gwych ddigwydd.

Ein prosesau

Prosesau syml, dulliau gweithio agored. Rydym yn gweithredu’n dryloyw, gan rannu gwybodaeth a gofynion yn agored. Rydym yn onest, yn glir ac yn syml, ac yn darparu ac yn croesawu adborth parchus ac eglur.

Agored i bawb

Mae ein hariannu yn agored i bob cymuned, ond rydym yn buddsoddi fwyaf yn y rhai sydd â’r angen mwyaf. Rydym yn gwrando ac yn defnyddio tystiolaeth i dargedu adnoddau i helpu cymunedau i oresgyn rhwystrau a chyflawni eu potensial.

Ein ffocws amgylcheddol

Gweithredu cadarnhaol dros yr amgylchedd, hinsawdd a natur. Rydym yn ariannwr amgylcheddol adfywiol, felly mae ein penderfyniadau a’n buddsoddiad yn canolbwyntio ar gamau gweithredu sy’n gadarnhaol yn amgylcheddol, addasu i’r hinsawdd, gwytnwch hinsawdd ac adfer byd natur.

Effaith a dysgu

Rydym yn defnyddio ac yn buddsoddi mewn tystiolaeth, o lygad y ffynnon ac wedi’i ddysgu, ac yn rhannu’r hyn sydd wedi gweithio a’r hyn nad yw wedi gweithio. Rydyn ni’n greadigol, yn defnyddio ein dysgu i addasu ac yn helpu’r rhai rydyn ni’n gweithio gyda nhw i wneud yr un peth. Rydym yn canolbwyntio’r ariannu a ddarparwn ar ble y gall helpu i gael yr effaith fwyaf.

Partneriaethau

Creu cysylltiadau, meithrin partneriaethau. Lle bynnag y bo modd, rydym yn meithrin partneriaethau sy’n dod â phobl at ei gilydd gyda diben cyffredin. Rydym yn annog pawb rydym yn gweithio gyda nhw i gydweithio a rhannu eu profiadau ag eraill.