Trosolwg o'r strategaeth
Yr uchelgais trwy’r strategaeth yw creu cymunedau gwydn sy’n fwy cynhwysol a chynaliadwy’n amgylcheddol, gan ariannu gweithgareddau a sefydliadau sy’n cryfhau Cymdeithas a gwella bywydau ledled y DU.
Rydym yn canolbwyntio ein hymdrechion ar le mae’r angen mwyaf. Rydym yn gobeithio gwneud mwy o wahaniaeth yn y blynyddoedd i ddod, drwy wrando ar gymunedau ac ymateb iddynt, a chanolbwyntio mwy ar gefnogi’r effaith fwyaf.
Cymuned yw’r man cychwyn.
Ein nodau cymunedol – yr hyn y byddwn yn ei gyflawni erbyn 2030
Cymunedau yn dod ynghyd
Byddwn ni’n cefnogi cymunedau i ddod ynghyd drwy:
- greu mannau hygyrch, croesawgar, yn ffisegol a rhithiol, i bobl gyfarfod â’i gilydd
- cychwyn gweithgareddau deniadol a chynhwysol sy'n cefnogi cysylltiadau o fewn grwpiau o bobl a rhyngddynt
- galluogi pobl o bob cefndir i lywio dyfodol eu cymunedau
- meithrin ymdeimlad cynyddol o berthyn
Cymunedau yn helpu plant a phobl ifanc i ffynnu
Byddwn ni’n galluogi plant a phobl ifanc i ffynnu drwy:
- greu cyfleoedd i blant a phobl ifanc o bob cefndir fwynhau profiadau cymunedol
- helpu plant a phobl ifanc i lywio’r penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw a’u cymunedau
- darparu mynediad i blant a phobl ifanc i fannau diogel i chwarae, cymryd rhan, cymdeithasu a chael cefnogaeth
Cymunedau iachach
Byddwn ni’n galluogi pobl i fyw bywydau mwy iach drwy:
- helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd
- cynyddu cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad cymunedol i lywio gwell gwasanaethau iechyd
- defnyddio dull ataliol tuag at iechyd
Cymunedau sy’n amgylcheddol gynaliadwy
Byddwn ni’n cefnogi cymunedau amgylcheddol gynaliadwy sy’n:
- lleihau allyriadau carbon ac effaith amgylcheddol negyddol
- creu effeithiau amgylcheddol cadarnhaol
- sefydlu mynediad cyfartal i'r amgylchedd naturiol
- gwella ansawdd mannau naturiol
Ein dull
Dyma sut rydym yn rhoi ein strategaeth ar waith:
- dull seiliedig ar degwch i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb
- cefnogi cymunedau i adeiladu ar eu cryfderau
- cefnogi’r hyn sydd bwysicaf i wahanol gymunedau
- model cynnig grantiau hyblyg gyda grantiau untro bach yn dechrau o £300 hyd at £20,000, i grantiau mwy hirdymor a buddsoddiadau partneriaeth strategol sylweddol
Ein gwerthoedd
Mae ein gwerthoedd yn llywio sut rydym ni’n gweithio gyda chymunedau, yn arwain ein partneriaethau, ac yn ein helpu i gael effaith ystyrlon:
- gynhwysol
- uchelgeisiol
- canolbwyntio ar effaith
- hyblyg
- tosturiol