Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Cymunedau yn helpu plant a phobl ifanc i ffynnu

Helpu plant a phobl ifanc i ffynnu 

Rydym am i bob plentyn a pherson ifanc dyfu i fyny yn teimlo’n ddiogel, wedi’u cefnogi ac yn obeithiol am eu dyfodol. 

Mae’r nod hon yn ymwneud â rhoi’r dechrau gorau i fywyd i fabanod, plant a phobl ifanc drwy eu helpu nhw i ffynnu wrth iddyn nhw dyfu. 

Dylai’r prosiectau rydyn ni’n eu hariannu wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau plant a phobl ifanc, boed hynny trwy gefnogaeth dydd i ddydd, creu cyfleoedd, neu wella eu hamgylchedd ar gyfer y dyfodol. 

Canlyniadau sy’n helpu plant a phobl ifanc i ffynnu 

Y canlyniadau yw’r newidiadau neu’r buddion rydyn ni’n disgwyl eu gweld o ganlyniad y prosiectau a ariannwn. Maent yn ein helpu ni i ddeall y gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud. 

Rydyn ni am ariannu prosiectau sy’n: 

  • rhoi dechrau da mewn bywyd i fabanod neu blant 
  • helpu plant neu bobl ifanc i ddatblygu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol
  • cysylltu plant neu bobl ifanc gydag oedolion y maen nhw’n ymddiried ynddynt
  • cefnogi pobl ifanc i ffynnu fel oedolion
  • darparu neu’n gwella llefydd i blant a phobl ifanc ddod ynghyd - ar-lein neu wyneb yn wyneb
  • darparu gweithgareddau neu ddigwyddiadau – ar-lein neu wyneb yn wyneb
  • galluogi plant neu bobl ifanc i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w cymuned
  • rhoi ymdeimlad o ddiogelwch, perthyn neu ymddiriedaeth i blant neu bobl ifanc
  • gwella cysylltiadau a pherthnasoedd ag eraill
  • gwella lles, iechyd corfforol neu iechyd meddyliol
  • galluogi plant neu bobl ifanc i wella effaith eu cymuned ar yr amgylchedd 

Dewis nodau a chanlyniadau pan rydych yn ymgeisio

Cyn i chi ymgeisio, gwiriwch y rhaglen rydych wedi ei dewis i weld faint o nodau neu ganlyniadau y maen nhw am i chi eu cynnwys yn eich prosiect. Mae’n amrywio ar draws y rhaglenni.

Fel rhan o’ch cais, byddwn yn gofyn i chi ddewis y nod a’r canlyniadau sy’n cyd-fynd yn agos â’r gwaith rydych yn ei wneud yn eich cymuned.

Mae hyn yn ein helpu ni i ddeall yr effaith ehangach y gall eich prosiect ei chael a sicrhau ein bod yn gallu cefnogi eich gwaith yn y ffordd gywir.

Mae’n bwysig eich bod yn dewis y nodau a’r canlyniadau sy’n adlewyrchu eich cynlluniau orau yn unig. Ni fydd dewis mwy yn cynyddu eich cais o lwyddo.

Camau nesaf

Edrychwch ar ein rhaglenni ariannu i weld pa gymorth sydd ar gael a chael hyd i’r ffit orau.

Darllenwch ein fframwaith nodau llawn i ddeall sut mae rhai canlyniadau yn perthyn i fwy nag un nod. Mae hyn yn golygu y gallai eich prosiect gyfrannu at fwy nag un nod ar yr un pryd - hyd yn oed os ydych chi’n canolbwyntio ar ychydig o ganlyniadau.

Cysylltwch â ni – byddwn yn eich helpu chi i fireinio eich syniadau, cysylltu ag eraill ac ymgeisio am grant.

Astudiaeth achos

Cymorth mentora cynnar sy’n newid bywydau 

Gwrandewch ar Gavin, sylfaenydd Reach Every Generation – grŵp sy’n darparu cymorth, mentora a gweithgareddau pwysig i atal pobl ifanc rhag ymgysylltu â diwylliant gangiau. Mae Gavin yn trafod pam bod ffocws ein strategaeth newydd ar blant a phobl ifanc yn hollbwysig. 

Gwyliwch y fideo ar YouTube.

Yn gynyddol, rydym ni’n gweld bod mwy a mwy o blant a phobl ifanc angen cefnogaeth ac eiriolaeth. Bydd sicrhau eu bod nhw’n rhan o’r strategaeth yn rhoi sylw i’w hanghenion, sy’n allweddol i’w dyfodol. Mae prosiectau fel ninnau, sy’n derbyn arian, yn gallu cynnig cefnogaeth drawsnewidiol, arbenigol a phwrpasol i bobl sydd ar yr ymylon neu sydd â diffyg mynediad at wasanaethau.

Gavin McKenna - Sylfaenydd Reach Every Generation