Mae cymunedau'n gynaliadwy o ran yr amgylchedd
Rydym am i gymunedau ledled y DU weithredu dros blaned iachach a mwy cynaliadwy.
Mae’r nod hon yn cefnogi prosiectau sy’n diogelu ac yn gwella’r amgylchedd lleol, yn helpu pobl i gysylltu â natur, ac yn galluogi cymunedau i ymateb i effaith newid hinsawdd.
Dylai'r prosiectau rydyn ni'n eu hariannu gefnogi gweithredu lleol - boed hynny'n wneud mannau cymunedol yn fwy gwyrdd, lleihau niwed amgylcheddol, neu’n helpu pobl i ddeall a mynd i'r afael â heriau hinsawdd gyda'i gilydd.
Mae newid hinsawdd yn un o'r bygythiadau mwyaf sy'n wynebu ein planed. Er bod llawer o'r heriau'n fyd-eang, mae gan gymunedau'r pŵer i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn lleol. Dyna pam rydym yn cefnogi gweithredu amgylcheddol drwy ein holl ariannu, ac yn buddsoddi mewn prosiectau sy'n canolbwyntio'n benodol ar gynaliadwyedd.
Canlyniadau sy’n helpu pobl a chymunedau i fod yn gynaliadwy’n amgylcheddol
Y canlyniadau yw’r newidiadau neu’r buddion rydyn ni’n disgwyl eu gweld o ganlyniad y prosiectau a ariannwn. Maent yn ein helpu ni i ddeall y gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud.
Rydyn ni am ariannu prosiectau sy’n:
- helpu sefydliadau cymunedol i wella eu heffaith ar yr amgylchedd – gallai hyn gynnwys eich sefydliad chi eich hun
- galluogi pobl i wella effaith eu cymuned ar yr amgylchedd
- helpu cymunedau i addas i newidiadau yn yr hinsawdd
- gwella mynediad at natur i bobl
Dewis nodau a chanlyniadau pan rydych yn ymgeisio
Cyn i chi ymgeisio, gwiriwch y rhaglen rydych wedi ei dewis i weld faint o nodau neu ganlyniadau y maen nhw am i chi eu cynnwys yn eich prosiect. Mae’n amrywio ar draws y rhaglenni.
Fel rhan o’ch cais, byddwn yn gofyn i chi ddewis y nod a’r canlyniadau sy’n cyd-fynd yn agos â’r gwaith rydych yn ei wneud yn eich cymuned.
Mae hyn yn ein helpu ni i ddeall yr effaith ehangach y gall eich prosiect ei chael a sicrhau ein bod yn gallu cefnogi eich gwaith yn y ffordd gywir.
Mae’n bwysig eich bod yn dewis y nodau a’r canlyniadau sy’n adlewyrchu eich cynlluniau orau yn unig. Ni fydd dewis mwy yn cynyddu eich cais o lwyddo.
Camau nesaf
Edrychwch ar ein rhaglenni ariannu i weld pa gymorth sydd ar gael a chael hyd i’r ffit orau.
Darllenwch ein fframwaith nodau llawn i ddeall sut mae rhai canlyniadau yn perthyn i fwy nag un nod. Mae hyn yn golygu y gallai eich prosiect gyfrannu at fwy nag un nod ar yr un pryd - hyd yn oed os ydych chi’n canolbwyntio ar ychydig o ganlyniadau.
Cysylltwch â ni – byddwn yn eich helpu chi i fireinio eich syniadau, cysylltu ag eraill ac ymgeisio am grant.
Astudiaeth achos
Ymrwymiad newydd parc gwledig i'r amgylchedd
Yn y fideo hwn, mae Karen Healey o Creggan Country Park yn Derry - Londonderry yn sôn am y gweithgareddau amgylcheddol a’r addysg effeithiol y mae’r prosiect yn eu darparu i gefnogi’r gymuned leol, a pham mae ein ffocws newydd ar gynaliadwyedd amgylcheddol yn ein strategaeth newydd yn hanfodol.
Mae’n bwysig bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn parhau i gefnogi cymunedau i fod yn amgylcheddol gynaliadwy. Bydd hyn yn ein galluogi i ymateb i angen lleol a mynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol trwy brosiectau gweithredu ar lawr gwlad sydd wir yn gwneud gwahaniaeth i bobl a’r amgylchedd
Karen Healy - Swyddog Amgylcheddol Creggan Country Park