Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Cymunedau yn iachach

Cefnogi pobl o bob oed i fyw bywydau iachach

Rydym am i bawb gael y cyfle i fyw bywyd iachach, yn gorfforol, yn feddyliol, ac yn emosiynol.

Mae’r nod hon yn cefnogi prosiectau sy’n gwella lles pobl, yn creu amgylcheddau cefnogol, ac yn helpu cymunedau i gymryd camau cadarnhaol tuag at iechyd gwell.

Rydym eisiau mynd i’r afael ag anghenion go iawn gyda thegwch wrth graidd hyn. Mae hyn yn golygu ein bod yn canolbwyntio ar ardaloedd ac unigolion sy'n wynebu tlodi, gwahaniaethu, neu anfantais.

Canlyniadau sy’n helpu cymunedau i ddod ynghyd

Y canlyniadau yw’r newidiadau neu’r buddion rydyn ni’n disgwyl eu gweld o ganlyniad y prosiectau a ariannwn. Maent yn ein helpu ni i ddeall y gwahaniaeth rydych chi’n ei wneud.

Rydyn ni am ariannu prosiectau sy’n:

  • darparu neu wella llefydd sy’n cefnogi iechyd a lles
  • cyflwyno gweithgareddau neu ddigwyddiadau sy’n helpu iechyd a lles - ar-lein neu wyneb yn wyneb
  • galluogi pobl i wella gwasanaethau iechyd a lles cymunedol
  • gwella lles, iechyd corfforol neu iechyd meddyliol pobl
  • helpu i leihau anghydraddoldebau iechyd
  • gwella cysylltiadau a pherthnasoedd ag eraill
  • rhoi dechrau da mewn bywyd i fabanod neu blant
  • helpu plant a phobl ifanc i ddatblygu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol
  • galluogi pobl i wella effaith eu cymuned ar yr amgylchedd
  • gwella mynediad at natur i bobl

Dewis nodau a chanlyniadau pan rydych yn ymgeisio

Cyn i chi ymgeisio, gwiriwch y rhaglen rydych wedi ei dewis i weld faint o nodau neu ganlyniadau y maen nhw am i chi eu cynnwys yn eich prosiect. Mae’n amrywio ar draws y rhaglenni.

Fel rhan o’ch cais, byddwn yn gofyn i chi ddewis y nod a’r canlyniadau sy’n cyd-fynd yn agos â’r gwaith rydych yn ei wneud yn eich cymuned.

Mae hyn yn ein helpu ni i ddeall yr effaith ehangach y gall eich prosiect ei chael a sicrhau ein bod yn gallu cefnogi eich gwaith yn y ffordd gywir.

Mae’n bwysig eich bod yn dewis y nodau a’r canlyniadau sy’n adlewyrchu eich cynlluniau orau yn unig. Ni fydd dewis mwy yn cynyddu eich cais o lwyddo.

Camau nesaf

Edrychwch ar ein rhaglenni ariannu i weld pa gymorth sydd ar gael a chael hyd i’r ffit orau.

Darllenwch ein fframwaith nodau llawn i ddeall sut mae rhai canlyniadau yn perthyn i fwy nag un nod. Mae hyn yn golygu y gallai eich prosiect gyfrannu at fwy nag un nod ar yr un pryd - hyd yn oed os ydych chi’n canolbwyntio ar ychydig o ganlyniadau.

Cysylltwch â ni – byddwn yn eich helpu chi i fireinio eich syniadau, cysylltu ag eraill ac ymgeisio am grant.

Astudiaeth achos

Atal hunanladdiad dynion a meithrin cysylltiad

Mae Gregor a Fraser o Men Matter Scotland yn rhannu sut mae'r grŵp yn helpu i atal hunanladdiad dynion trwy weithgareddau a rhaglenni iechyd a lles pwysig. Mae'r grŵp yn enghraifft deimladwy o pam mae ein nod ar iechyd a lles yn hanfodol.

Gwyliwch y fideo ar YouTube.

Ni fyddwn i’n fyw heddiw heb y gefnogaeth a gefais gan Men Matter Scotland. Dwi wedi mynd o deimlo’n hunanladdol i ddatblygu ystyr a phwrpas yn fy mywyd yn raddol unwaith eto. Dwi bellach yn aelod o staff balch yn Men Matter Scotland ac yn helpu eraill sy’n teimlo fel yr oeddwn i – dyna i mi yw fy mhwrpas.

Andrew MacAlistair - Men Matter Scotland