Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Sut y bydd ein hariannu yn gweithio

Dull seiliedig ar degwch i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb 

Er bod ein hariannu ar gael i bob cymuned, byddwn yn defnyddio ymagwedd sy’n seiliedig ar degwch. Mae hyn yn golygu, ar draws ein holl waith gyda chymunedau a’n pedair nod, y byddwn yn buddsoddi fwyaf mewn llefydd, pobl a chymunedau sy’n profi tlodi, anfantais a gwahaniaethu.  

Nod ein gwaith yw cefnogi cymunedau i adeiladu ar eu cryfderau. Byddwn yn cefnogi’r hyn sydd bwysicaf i wahanol gymunedau, gan gynnwys buddsoddiad hirdymor i fynd i’r afael â heriau sydd wedi gwreiddio’n ddwfn. 

Mathau o ariannu 

Byddwn yn buddsoddi mewn prosiectau sy’n cefnogi ymagweddau newydd beiddgar, trawsnewid a newid hirdymor gyda ffocws penodol ar ein pedair nod. Byddwn hefyd yn cynnig ariannu sy’n ymateb i gymunedau ym meysydd y pedair nod, ac yn ehangach ar yr hyn sydd bwysicaf i gymunedau. 

Byddwn yn parhau i gynnig gwahanol fathau o ariannu, o grantiau hygyrch yn dechrau o £300 hyd at £20,000, i grantiau tymor hwy neu fuddsoddiadau strategol gyda phartneriaid. Yn nodweddiadol, bydd yr ariannu am rhwng un a phum mlynedd, gyda hyblygrwydd i gefnogi rhai prosiectau ac ymagweddau sy’n targedu newid tymor hwy neu drawsnewidiol hyd at 10 mlynedd.  

Byddwn yn archwilio costau gwahanol gyda mudiadau i helpu i benderfynu ar y math mwyaf priodol o ariannu. Mae’r rhain yn cynnwys costau prosiect, cyfalaf, sefydliadol, partneriaeth a datblygiadol. 

Rhagor o ffyrdd yr ydym ni'n helpu cymunedau i ffynnu 

Rydym yn cefnogi cymunedau mewn ffyrdd heblaw ariannu. O rannu’r hyn a ddysgir a meithrin partneriaethau i gynnig cyngor ymarferol a hyrwyddo lleisiau cymunedol. 

Cefnogi 

Byddwn yn rhoi cyngor a gwybodaeth i ddeiliaid grantiau i helpu i gynyddu eu heffaith a gwydnwch sefydliadol. Bydd hyn yn cynnwys cymorth i ddeiliaid grantiau wella eu heffaith amgylcheddol, cynyddu cynhwysiant a harneisio budd arloesi digidol a data. 

Dysgu 

Byddwn yn defnyddio dulliau cymesur o gasglu data, tystiolaeth a dysgu, i greu mewnwelediadau defnyddiol a helpu i ddeall effaith. Byddwn yn rhannu’r hyn a ddysgir er mwyn cynyddu dealltwriaeth o gymunedau sy’n ddefnyddiol i ddeiliaid grantiau, y rheini sydd â diddordeb mewn cyflawni a chefnogi newid a arweinir gan y gymuned, a’r gymdeithas ehangach. 

Cynnull 

Byddwn yn dod â gwahanol fudiadau ynghyd i archwilio heriau a datblygu cyfleoedd a phartneriaethau newydd. 

Eirioli 

Gan ddefnyddio ein safle a’n dylanwad, byddwn yn dathlu ac yn hyrwyddo grym cymunedau i gryfhau cymdeithas a gwella bywydau. 

Partneriaeth 

Gwyddom fod grym enfawr mewn cydweithio ag eraill. Byddwn yn creu partneriaethau gyda dosbarthwyr eraill y Loteri Genedlaethol, arianwyr, llywodraethau, mudiadau cynrychioliadol cymdeithas sifil, ymchwilwyr, busnesau a’r cymunedau eu hunain. 

Cyfranogiad 

Byddwn yn cynyddu cyfranogiad mudiadau cymdeithas sifil a chymunedau wrth lywio ein gwaith. Bydd hyn yn ein helpu i gryfhau ein cefnogaeth i gymunedau.