Ein fframwaith cenadaethau llawn
Rydym yn defnyddio fframwaith nodau i arwain y prosiectau rydym yn eu hariannu. Mae pob nod yn nodi set o ganlyniadau rydym am eu gweld mewn cymunedau.
Mae rhai canlyniadau yn berthnasol i fwy nag un nod. Mae hyn yn golygu y gall eich prosiect gyfrannu i fwy nag un nod ar yr un pryd – hyd yn oed os ydych yn canolbwyntio ar rai canlyniadau’n unig.
Er enghraifft:
- os yw eich prosiect yn helpu pobl ifanc i feithrin cysylltiadau cymunedol cryf, gall gyfrannu i’r nod ‘Plant a phobl ifanc yn ffynnu’ a’r nod ‘Cymunedau yn dod ynghyd’.
- os yw eich gwaith yn gwella mynediad i fannau gwyrdd lleol, mae’n cefnogi’r nod ‘Cymunedau yn gynaliadwy’n amgylcheddol’ – ac yn cyfrannu tuag at ‘Cymunedau yn iachach’ a ‘Cymunedau yn dod ynghyd’
Nod 1:Cymunedau yn dod ynghyd
I bawb, yn canolbwyntio fwyaf ar y rhai sy’n profi tlodi, anfantais a gwahaniaethau – a’r croestoriad rhyngddynt.
- Mae gan gymunedau lefydd a gweithgareddau cynhwysol (ffisegol a rhithiol) sy’n dod â phobl o bob cefndir ynghyd
- Mae pobl wedi eu grymuso ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w cymunedau
- Mae pobl yn teimlo ymdeimlad o ddiogelwch, perthyn ac ymddiriedaeth mewn pobl eraill yn eu hardal leol
- Mae gan bobl berthnasoedd a chysylltiadau cadarnhaol
Mae rhai o’r canlyniadau hyn yn berthnasol i nodau eraill:
- mae’r pedair nod hefyd yn cyfrannu tuag at ‘Plant a phobl ifanc yn ffynnu’
- mae’r canlyniad cyntaf a’r pedwerydd hefyd yn cyfrannu tuag at ‘Cymunedau sy’n iachach’
Nod 2: Cymunedau yn helpu plant a phobl ifanc i ffynnu
I fabanod, plant a phobl ifanc a’u teuluoedd, yn canolbwyntio fwyaf ar y rhai sy’n profi tlodi, anfantais a gwahaniaethau – a’r croestoriad rhyngddynt.
- Mae babanod a phlant o bob cefndir (a’u teuluoedd) yn cael y cymorth cymunedol sydd ei angen arnynt i gael dechrau da mewn bywyd
- Mae plant a phobl ifanc yn datblygu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol cadarnhaol
- Mae gan blant a phobl ifanc oedolion y maen nhw’n ymddiried ynddynt yn eu cymuned i gael cymorth a chyngor ganddynt
- Mae cymunedau’n cefnogi pob ifanc i wireddu eu potensial a ffynnu fel oedolion
Mae rhai o’r canlyniadau hyn yn berthnasol i nodau eraill:
- mae’r ddau ganlyniad cyntaf hefyd yn cyfrannu tuag at ‘Cymunedau sy’n iachach’
- mae’r trydydd canlyniad hefyd yn cyfrannu tuag at ‘Cymunedau yn dod ynghyd’
Nod 3: Cymunedau yn iachach
I bawb, yn canolbwyntio fwyaf ar y rhai sy’n profi tlodi, anfantais a gwahaniaethau – a’r croestoriad rhyngddynt.
- Mae gan gymunedau lefydd a gweithgareddau cynhwysol (ffisegol a rhithiol), sy’n cefnogi iechyd a lles
- Mae pobl wedi eu grymuso i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i wasanaethau sy’n cefnogi iechyd a lles yn eu cymunedau
- Mae iechyd corfforol a meddyliol a lles pobl yn cael eu cefnogi gan eu cymunedau
- Mae cymunedau yn cyfrannu tuag at lai o anghydraddoldebau iechyd
Mae rhai o’r canlyniadau hyn yn berthnasol i nodau eraill:
- mae’r trydydd canlyniad hefyd yn cyfrannu tuag at ‘Cymunedau yn dod ynghyd’ a ‘Plant a phobl ifanc yn ffynnu’
Nod 4: Mae cymunedau'n gynaliadwy o ran yr amgylchedd
I bawb, yn canolbwyntio fwyaf ar y rhai sy’n wynebu risg o effeithiau amgylcheddol negyddol a/neu'r rhai sy’n cymryd y lleiaf o ran mewn gweithredu ar yr amgylchedd.
- Mae sefydliadau cymunedol yn cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd (mewn perthynas â natur, llygredd a/neu’r hinsawdd)
- Mae pobl wedi eu grymuso ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i effaith amgylcheddol eu cymunedau
- Mae cymunedau yn paratoi ac yn addasu ar gyfer newidiadau yn yr hinsawdd
- Mae gan bobl fynediad i lefydd naturiol o ansawdd yn eu cymunedau, sy’n galluogi cysylltiad rheolaidd â natur
Mae rhai o’r canlyniadau hyn yn berthnasol i nodau eraill:
- mae’r ail ganlyniad hefyd yn cyfrannu tuag at ‘Plant a phob ifanc yn ffynnu’ a ‘Cymunedau yn dod ynghyd’
- mae’r pedwerydd hefyd yn cyfrannu tuag at ‘Cymunedau yn dod ynghyd’ a ‘Cymunedau yn iachach’