Uwch dîm rheoli
Mae ein Uwch Dîm Rheoli yn arwain ar waith dydd i ddydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Maen nhw’n gweithio’n agos gyda’n Bwrdd i roi ein strategaeth ar waith. Mae hyn yn sicrhau fod arian y Loteri Genedlaethol yn cyrraedd y bobl a’r llefydd lle y gall wneud y gwahaniaeth mwyaf.
David Knott
Mae David, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ers 2021, wedi arwain mentrau mawr ym maes addysg, iechyd, cymdeithas sifil a datblygu cymunedol.
Kate Beggs MBE
Mae Kate yn arwain y Gronfa yng Ngogledd Iwerddon, gan yrru ariannu a chysylltiadau cymunedol. Enillodd MBE yn 2025 am wasanaeth cyhoeddus.
Phil Chamberlain
Mae Phil yn arwain strategaeth, partneriaethau ac ymgysylltu yn Lloegr, gyda chefndir cryf mewn polisi cyhoeddus ac effaith gymunedol.
Emma Corrigan
Mae Emma yn arwain rhaglenni ac weithrediadau yn Lloegr, gyda dros 20 mlynedd o brofiad ac angerdd dros llesiant a thryloywder.
Mel Eaglesfield
Mae Mel yn arwain strategaeth ariannu’r DU yn y Gronfa, gyda 18+ mlynedd o brofiad ac ymrwymiad i effaith gymunedol a gweithredu ar newid hinsawdd.
Liz Church
Mae Liz yn arwain Pobl a Diwylliant yn y Gronfa, wedi’i hysgogi gan angerdd dros adeiladu sefydliadau cynhwysol sy’n cryfhau cymunedau.
Stuart Fisher
Mae Stuart yn arwain cyllid y Gronfa, gan gyfuno llywodraethu cadarn â brwdfrydedd dros effaith gymunedol gynaliadwy ledled y DU.
Neil Ritch
Mae Neil yn arwain y Gronfa yng Nghymru, gyda gwreiddiau dwfn mewn gweithredu cymunedol ac ymrwymiad cryf i rymuso pobl leol.
John Rose OBE
Mae John yn arwain y Gronfa yng Nghymru ac yn arwain strategaeth amgylcheddol y DU, gyda ffocws ar newid cymunedol cynaliadwy.
Shane Ryan MBE
Mae Shane yn cynghori’r Prif Weithredwr, gan yrru newid cynhwysol a chymunedol gyda arbenigedd mewn cyfiawnder cymdeithasol a strategaeth elusennol.