Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

John Rose OBE

Cyfarwyddwr Cymru

John sy’n gyfrifol am ddatblygiad, darpariaeth a chyfathrebu gweithrediadau Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, yn ogystal ag arwain strategaeth amgylcheddol DU-cyfan y Gronfa.

Mae John wedi mwynhau gyrfa amrywiol. Ar ôl hyfforddi fel cogydd cyn teithio'n rhyngwladol, aeth John ymlaen i astudio BA Systemau Amgylcheddol ac MSc Hydrobioleg Gymhwysol ym Mhrifysgol Cymru, cyn gweithio i Elusen Amgylcheddol. Treuliodd bum mlynedd yn gweithio ar Gronfa Gymunedol y Dreth Dirlenwi, gan reoli gweithrediadau yng Nghymru, Canolbarth Lloegr a De Orllewin Lloegr, cyn ymuno â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn 2003.

Yn 2022, dyfarnwyd OBE i John yn Anrhydeddau’r Flwyddyn i gydnabod ei gyfraniad at y gymdeithas sifil.

“Rwyf wrth fy modd i dderbyn y wobr hon. Mae hi wedi bod yn anrhydedd gweithio i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ers 2003, ac yn yr amser hwnnw, bod yn dyst i’r gwaith anhygoel a wneir gan gymunedau, diolch i gyllid y Loteri Genedlaethol.”

Mae'r prosiectau rydym yn eu hariannu wir yn cyffwrdd â bywydau'r bobl a'r cymunedau y maent yn eu cefnogi. Rwy'n mwynhau gweld pobl a chymunedau'n arwain ac yn helpu hynny i barhau i ddigwydd, gan sicrhau bod arian y Loteri Genedlaethol yn cael ei wario'n dda ac yn dathlu'r effaith gadarnhaol y mae Arian y Loteri Genedlaethol yn ei chael ar gymunedau.