David Knott
Prif Weithredwr
Penodwyd David yn Brif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ym mis Hydref 2021.
Cyn ymuno â'r Gronfa, cafodd David yrfa amrywiol mewn gwasanaeth cyhoeddus. Fel Cyfarwyddwr y Swyddfa dros Gymdeithas Sifil, roedd yn gyfrifol am bolisi'r llywodraeth ar elusennau, gwirfoddoli, pobl ifanc, dyngarwch, asedau segur, buddsoddi effaith a busnes dan arweiniad cenhadaeth.
Cyn hyn, fel cynghorydd datblygu rhyngwladol, cefnogodd raglenni llywodraethu a diwygio polisi cyhoeddus mewn mwy na dwsin o wledydd, yn enwedig yn Asia a'r Dwyrain Canol lle bu'n byw ac yn gweithio.
Roedd gyrfa gynharach David yng Ngwasanaeth Sifil y DU yn gweithio yn Uned Strategaeth y Prif Weinidog (yn bennaf ar addysg, iechyd a gwasanaethau cyhoeddus), yn yr Adran Datblygu Rhyngwladol a Swyddfa'r Cabinet.
Mae ei arweinyddiaeth wedi cwmpasu meysydd addysg, iechyd, cymdeithas sifil a datblygu cymunedol yn benodol, a phynciau gan gynnwys symudedd cymdeithasol, unigrwydd a newid diwylliant. Pethau cyffredin drwy gydol ei yrfa fu ei angerdd a'i ymrwymiad i gymuned, a'r cysylltiadau cymdeithasol a'r gweithgareddau cymunedol sydd wrth wraidd creu bywydau iachach, hapusach a chymdeithas lewyrchus. Daeth hyn ag ef at Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a datblygiad eu strategaeth 2030 ‘Cymuned yw’r man cychwyn’.
Mae'n mwynhau arwain pobl a sefydliadau i gefnogi gwelliant cymdeithasol a newid cadarnhaol.
Mae ganddo 2 radd mewn economeg ac un radd mewn Polisi Cyhoeddus o’r London School of Economics and Political Science.