Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Stuart Fisher

Cyfarwyddwr Cyllid

Ymunodd Stuart â’r Gronfa ym mis Ionawr 2022 fel Cyfarwyddwr Cyllid, lle mae’n gyfrifol am sicrhau rheolaeth ariannol gref, goruchwylio gwasanaethau archwilio mewnol, caffael a rheoli risg.

Yn ogystal â sicrhau cydymffurfiaeth â’r safonau, codau a rheoliadau perthnasol, mae’r gyfarwyddiaeth gyllid yn chwarae rôl bwysig wrth ychwanegu gwerth drwy ddarparu gwybodaeth reoli ddibynadwy a dadansoddiad risg i gefnogi gwneud penderfyniadau’n strategol.

Treuliodd Stuart amser yn gweithio ym meysydd cyfrifeg, archwilio a gwasanaethau proffesiynol yn flaenorol gydag adran sector cyhoeddus KPMG. Yn fwy diweddar, mae wedi treulio dros 11 mlynedd yn gweithio fel Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Corfforaethol ar gyfer tai cymdeithasol.

Mae Stuart yn Gymrawd Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig ac mae ganddo dros 20 mlynedd o brofiad ôl-gymhwysol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae hefyd bod mewn sawl rôl anweithredol.

Rwy’n teimlo’n freintiedig ac yn falch i allu gweithio i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sefydliad sy’n helpu gwella cyfleoedd bywyd pobl ac yn hwyluso newid ac effaith gan adael etifeddiaeth o gymunedau cynaliadwy a chynhwysol. Yn ystod fy amser yn gweithio ym myd tai cymdeithasol, gwelais bwysigrwydd arwyddocaol datblygu a chynnal cymunedau sy’n ffynnu yn uniongyrchol; ac rwy’n edrych ymlaen at weithio â chydweithwyr i sicrhau bod cefnogi cymunedau ledled y DU wrth wraidd popeth a wnawn.