Neidio i'r prif gynnwys

Croeso i’n gwefan newydd. Efallai y byddwch yn gweld rhai tudalennau o’n hen wefan wrth i ni symud pethau draw.

Emma Corrigan

Cyfarwyddwr Lloegr

Ymunodd Emma â Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ym mis Gorffennaf 2022. Fel un o Gyfarwyddwyr Lloegr, mae Emma’n gyfrifol dros Arweinyddiaeth Rhaglenni, Gweithrediadau a Rhanbarthau Lloegr.

Gyda dros 20 mlynedd o brofiad o wneud grantiau, yn fwyaf diweddar roedd Emma’n Bennaeth Dylunio a Darparu i BBC Plant Mewn Angen, gan sicrhau darpariaeth lwyddiannus y gronfa ledled y DU ac arwain nifer o raglenni newid mawr ar gyfer yr elusen. Cyn hynny, gweithiodd i amrywiaeth eang o gyllidwyr, gan gynnwys Sefydliadau Cymunedol a Chymdeithasau Tai, gan ennill profiad arwyddocaol o lywodraethu a chydymffurfiaeth elusennol yn ystod yr adeg hon.

Mae Emma wedi bod yn eiriolwr cryf dros les a grymuso staff ar bob lefel o’r sefydliadau y mae hi wedi gweithio iddynt ac yn credu’n angerddol yn yr angen am gyfathrebiad agored a thryloyw.

Rwyf wrth fy modd, fel rhywun y mae ei gyrfa wedi ymwneud â gwneud grantiau o ansawdd uchel, i allu ymuno â’r Gronfa i gefnogi gwaith o’r fath raddfa ac ehangder. Mae’r capasiti sydd ar gael i alluogi cymunedau ledled y DU yn wylaidd i mi, ac rwy’n barod i wrando ar gyfoeth gwybodaeth ac arbenigedd y sefydliad i weithredu newid cadarnhaol ac ystyrlon lle mae’r angen mwyaf amdano.